Cyfansoddwyd y d么n yn wreiddiol gan John Hughes ar gyfer cystadleuaeth i ddathlu agor organ newydd yng nghapel y Rhondda, Trehopcyn yn 1907. Enw gwreiddiol yr emyn-d么n oedd 'Rhondda' ond oherwydd bod t么n arall o'r un enw fe'i newidiwyd i 'Cwm Rhondda'. Yn fuan daeth yn boblogaidd fel emyn-d么n yng Nghymru ac wrth gael ei fabwysiadu fel anthem answyddogol Cymru mae wedi dod yn adnabyddus ar draws y byd.
Ganwyd John Hughes yn Nowlais yn 1873 ond symudodd ei deulu i ardal Tonteg oherwydd bod ei dad yn gweithio mewn pwll glo yn y Beddau. Aeth John Hughes i weithio fel clerc yng ngwaith glo'r Great Western, Trehopcyn. Bu farw yn 1932 yn 58 mlwydd oed.
Ymhlith y dathliadau mae Cymanfa ganu i blant ardal Pontypridd yng Nghapel Rhondda, Trehopcyn, ar 29 Mehefin.
Nos Iau, 5 Gorffennaf bydd cyngerdd yng Nghapel Salem, Tonteg, capel John Hughes, gyda Chantorion Creigiau.
Ac ar ddydd Gwener, 6 Gorffennaf bydd Cymanfa i blant ardal
Capel y Rhondda, Trehopcyn.
|