Mewn seremoni yn Llundain ym mis Hydref talwyd teyrnged arbennig i Meinir am ei gwaith fel cydlynydd addysg anghenion arbennig yn Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd.
Dechreuodd Meinir fel athrawes technoleg ymron i 30 mlynedd yn 么l a symud i addysg anghenion arbennig ar 么l dilyn cwrs MA.
Oherwydd ei gwybodaeth a'i dealltwriaeth o amgylchiadau plant ag anghenion arbennig mae disgyblion wedi llwyddo yn arbennig o dda yn eu arholiadau TGAU. Mae hi'n un o'r athrawon prin sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg gyda phlant sydd 芒 diffyg yn eu clyw.
Mae ymroddiad Meinir yn sicrhau fod plant ag anghenion arbennig yn cael eu cynnwys yn holl weithgareddau'r ysgol ac mae hi'n gosod safonau uchel sy'n cael eu dilyn gan ysgolion eraill.
Yn wir, dywedodd un rhiant, "Os oes yna ffactor X ar gyfer athrawon yna mae'n sicr fod Meinir 芒'r ffactor arbennig hwnnw!'."
|