³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Dawnswyr Bro Taf Dawnswyr Bro Taf yn bencampwyr dawnsio gwerin y byd
Mai 2009
Mae Dawnswyr Bro Taf yn bencampwyr dawnsio gwerin y byd yn y dosbarth i blant. Yn hwyr nos Sadwrn, Ebrill 18, fe enillodd y grŵp ifanc y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth bwysig ar ynys Mallorca.

Mewn gwledd o liw ac asbri, dyma nhw'n cipio'r wobr yng Ngŵyl Ddawnsio Gwerin y Byd. Roedd timau o bedwar ban byd yn cystadlu yn yr ŵyl a phob un yn ymfalchïo yn eu diwylliant a'u traddodiadau.

Dros wythnos, fe fu'r grŵp yn perfformio o gwmpas dinas hynafol Palma, yn derbyn clod mawr gan y beirniaid a'r gwylwyr. Yn ôl un dyn o Mallorca, dyma yn ei farn ef oedd y perfformiadau gorau a brofodd mewn 66 mlynedd o ddilyn dawnsio gwerin.

Yn teithio gyda'r 20 o berfformwyr, roedd tîm o rieni, cerddorion a thiwtoriaid.

Meddai Ann Brookman, un o'r rhieni fu mor weithgar yn codi arian i'r grŵp, "roedd gweld y plant yn dawnsio o'r galon yn rhywbeth bythgofiadwy. Wna'i fyth anghofio'r profiad ac yn sicr wnaiff fy merch Charly Ann fyth; mae fy llais yn brifo o hyd. Ni chlywodd Palma Oggi, oggi, oggi fel hyn erioed o'r blaen!"

Mae'r grŵp wedi bod yn llwyddiannus iawn yn clocsio a dawnsio gwerin, yn ennill yn Eisteddfod yr Urdd, y wobr gyntaf i blant yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen llynedd a nawr yn bencampwyr ifanc y byd ym Mallorca.

Wrth gyrraedd adref yng Nghymru, roedd gan un aelod, Josh Morgan, 12 oed o Greigiau, syniad ar gyfer y dyfodol "pam na chawn i ni ymuno a'r Shuttle a chlocsio yn y gofod!"

Ond nid yw'r llwyddiant yma wedi dod dros nos i'r dawnswyr, sy'n ymarfer bob nos Fawrth yn Ysgol Heol y Celyn fel rhan o grŵp estynedig; maent yn dysgu dawnsio, canu a drama.

Sefydlwyd y grŵp prin dair blynedd yn ôl ac mae'r paratoi a'r ymarfer wedi bod yn waith caled a chodi arian yn sialens. Fe fydd y wobr o 1500 euro felly yn werth ei chael.

Fe fydd realiti yn dychwelyd yn fuan, meddai cyfarwyddwraig y dawnswyr, Eirlys Britton. Dim ond ychydig amser sydd cyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.

Roedd ennill ym Mallorca yn brofiad teimladwy i Eirlys. Fel un o sefydlwyr Dawnswyr Nantgarw dywedodd Eirlys wrth y Tafod "mae hwn wedi bod yn freuddwyd ers 20 mlynedd. Fe gawsom ni ail yno rai blynyddoedd yn ôl. Ond mae ennill y wobr gyntaf yn y dosbarth i blant yn arbennig. Mae pawb wedi ymarfer yn wych a hoffwn roi diolch mawr i fy nghyd diwtoriaid Gavin Ashcroft a Nerys Griffiths; heb anghofio'r rhieni sydd wedi bod mor weithgar" Yn wir, mae gan Ddawnswyr Bro Taf dalent, llawer ohono fe.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý