Khomanani yw'r enw a roddwyd ar bartneriaeth newydd sbon sydd wedi'i sefydlu rhwng Ysgol Gyfun Rhydfelen, Ysgol Gynradd Garth Olwg, Ysgol Gymraeg Pont Si么n Norton ac ysgolion yn Ne Affrica ac Uganda.
Ariannir y bartneriaeth gan y Cyngor Prydeinig fel rhan o'i gynllun 'Connecting Classrooms'.
Ar ddiwedd mis Gorffennaf teithiodd tair athrawes o'r clwstwr lleol i dreulio wythnos yn cael blas ar draddodiadau a diwylliant unigryw treflan Soweto yn Ne Affrica.
Estynwyd croeso twymgalon i'r athrawesau gan y gymuned a phrofwyd cyfeillgarwch a charedigrwydd bythgofiadwy.
Cafwyd cyfle i ymweld ac ymuno mewn gwersi mewn tair ysgol, gydag athrawon a disgyblion, yn rhannu profiadau am ddiwylliannau a systemau addysg.
Roedd bwrlwm a brwdfrydedd y disgyblion a'r athrawon at addysg wedi bod yn ysbrydoliaeth. Bu'r ymweliad yn agoriad llygaid ac fe fydd y gadwyn gyswllt yn cryfhau ymhellach wrth i'r profiadau gael eu rhannu gyda disgyblion Cymru.
Bydd cyd-ddathlu achlysuron yn ystod y flwyddyn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth disgyblion ein hysgolion, er mwyn meithrin perthynas glos rhwng disgyblion y ddwy wlad trwy gyfathrebu unigol 芒 grwpiau trwy e-bost a fideo gynadledda.
|