Yn ystod misoedd yr haf, mae'n si诺r bod nifer fawr ohonom yn mwynhau gwylio'r amrywiaeth o raglenni garddio a geir ar y teledu. Un o'r uchafbwyntiau blynyddol yw Sioe Flodau Chelsea, pan fyddwn yn rhyfeddu at weledigaeth rhai o'r garddwyr wrth iddynt greu gerddi anhygoel wedi'u selio ar them芒u diddorol.
Dyna hefyd sy'n digwydd yn sioe'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, sef yr RHS, yng Nghaerdydd bob mis Ebrill erbyn hyn.
Un o'r garddwyr sydd wrthi'n brysur ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer y sioe honno yw Brian Jones o Faglan, Port Talbot, a buom yn ddigon ffodus i gael cwmni hyfryd a diymhongar Brian yn ein cyfarfod ar Fawrth l4, 2007.
Mae Brian yn darlithio yn yr Adran Arddwriaeth yng Ngholeg Pencoed ac mae ef, a'i fyfyrwyr wedi bod yn cystadlu yn yr RHS ac yn sioe Gardener's World ers sawl blwyddyn ac wedi ennill gwobrau aur yno am greu gerddi gwych. Cawsom weld lluniau'n dangos sut roedd y criw yn mynd ati o'r dechrau i benderfynu ar thema, gweithio ar y cynllun, dod o hyd i'r defnyddiau oedd eu hangen a dewis y llwyni, planhigion a'r blodau addas. Yna, gweld lluniau o'r gerddi gorffenedig - anhygoel, yn enwedig wrth i ni sylweddoli mai cyllid bach iawn oedd ganddynt a bod y myfyrwyr eu hunain yn gorfod talu am ddefnyddiau. Wrth gwrs, ar 么l ennill, roedd tipyn mwy o arian ganddynt i symud ymlaen at eu cynllun nesaf!
Y project nesaf yw dechrau paratoi ar gyfer sioe'r RHS yng Nghaerdydd ym mis Ebrill, ac mae'n ddigon posibl y bydd llawer iawn o bobl o ardal y Garth yn ymweld 芒'r safle eleni er mwyn gweld campwaith diweddaraf Brian!
Un pwynt pwysig iawn arall - wedi dysgu Cymraeg y mae Brian ac erbyn hyn, mae'n rhugl ac yn gallu siarad yn gyhoeddus yn huawdl. (Dylid nodi bod rhywfaint o'r diolch am hynny i Carol Penri, a ddisgrifiodd Brian fel dyn `lyfli' - roedd hi'n berffaith iawn!!)
Diolch o galon iddo am ddod yr holl ffordd o Faglan i'n diddori!
|