Am unwaith dydw i ddim am ymddiheuro am blwyfoldeb wrth bostio ynghylch y ffrae am ysgolion gorllewin Caerdydd.
Rwyf wedi bod yn brysur heddiw gyda "Dau o'r Bae" a'r helynt ynghylch sedd gynulliad Alun Cairns ond dyma grynodeb o ddigwyddiadau'r dydd parthed yr helynt ysgolion. Fe gewch chi farnu os oes iddi oblygiadau cenedlaethol!
1. Derbyniais ddatganiadau newyddion gan y grŵp Ceidwadol yn y cynulliad a chan Dafydd Wigley y prynhawn yma yn ymosod yn ffyrnig ar benderfyniad Carwyn Jones. Anaml iawn y mae Dafydd Wigley yn rhyddhau datganiad newyddion personol. Efallai bod a wnelo hynny a'r datblygiad nesaf.
2. Fe fydd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru yn cwrdd yn Rhaeadr yfory. Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd wedi galw ar y cyfarfod hwnnw i ystyried diweddu'r Glymblaid a Llafur.
3. Deallaf fod penaethiaid Cyngor Caerdydd yn bwriadu gofyn am arolwg barnwrol o'r penderfyniad a'u bod yn agos at sicrhau cefnogaeth y Gymdeithas Lywodraeth Leol a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg i'w hachos.
4. Am ychydig wedi saith heno, ymhell tu hwnt i'r oriau gwaith arferol, fe ryddhaodd Llywodraeth y Cynulliad ddatganiad yn disgrifio sefyllfa addysg Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd fel un annerbyniol ac anghynaladwy. Mae swyddogion y Llywodraeth wedi eu gorchymyn i weithio ar fyrder gyda'r cyngor i ddatrys y broblem.
Fe fydd y datganiad hwnnw yn "exhibit one" yn yr arolwg barnwrol, dybiwn i!
Fel y dywedais i, fe gewch chi farnu ai ffrae leol yw hon.
Diweddariad; Mae manylion y datganiadau bellach i'w gweld ar y.
Mae bwrdd rheoli Ceidwadwyr Cymru wedi bod yn cwrdd heddiw i drafod p'un ai i dderbyn ymddiswyddiad Alun Cairns o'r Cynulliad ai peidio.
Mae'n sicr eich bod yn cofio problem y blaid. Roedd ganddi ymrwymiad yn ei maniffesto i gael gwared a'r hyn a elwir yn "double jobbing". Ar y llaw arall roedd y syniad o groesawi'r ail berson ar restr Geidwadol Gorllewin De Cymru sef Chris Smart yn dipyn o hunllef i'r arweinyddiaeth.
Beth sydd wedi digwydd felly? Wel mae Alun yn mynd i barhau fel Aelod Cynulliad tan etholiad 2011 ond fe fydd yn gwneud hynny'n ddigyflog.
Mae Alun yn aros felly. Ond gesiwch beth?
Dwi'n meddwl y bydd Aelod Cynulliad arall yn cyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo o'r Bae o fewn yr oriau nesaf.
Bob tro rwy'n sgwennu ynghylch addysg Gymraeg Caerdydd rwy'n ymwybodol o'r cyhuddiadau fy mod yn bod yn blwyfol. Gan fy mod yn un sy'n taflu'r gath at y radio bob tro mae rhaglen o Fangor yn trafod ysgolion Gwynedd rwy'n ymwybodol iawn bod lle mae newyddiadurwr yn byw yn gallu effeithio ar ei ganfyddiad o werth stori!
Ar ôl dweud hynny oll rwy'n credu bod gan benderfyniad Carwyn Jones ynghylch ad-drefnu ysgolion cynradd Gorllewin Caerdydd oblygiadau y tu hwnt i'r llond dwrn o ysgolion oedd dan ystyriaeth. Dydw i ddim yn cofio'r un pwnc mawr neu fach sydd wedi achosi cymaint o ddrwgdeimlad rhwng dwy blaid y Llywodraeth yn y Bae.
Dyma i chi ran o ddatganiad swyddogol Plaid Cymru yn ymosod ar benderfyniad Prif Weinidog y Llywodraeth y mae'n rhan ohoni.
"Mae'r penderfyniad i wrthod y cynlluniau yma yn sarhad llwyr... mae hyn, mewn gwirionedd, yn gwadu hawl rhieni yng Nghaerdydd i ddewis addysgu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n mynd yn groes i un o bolisïau blaenllaw strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth y Cynulliad.
Tro ar ôl tro, mae Llafur wedi gwrthod pob cynnig i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu addysg cyfrwng Cymraeg yn Gorllewin Caerdydd. Mae ACau Plaid wedi cefnogi cynlluniau'r cyngor yn gyson a byddant yn cefnogi'r awdurdod os ydynt yn penderfynu herio'r penderfyniad. Dyw plant a rhieni Ysgol Treganna ddim yn haeddu cael eu trin fel hyn."
Coeliwch fi, mae pethau llawer llawer gwaeth yn cael eu dweud y tu ol i'r lleni!
Yn breifat, mae ambell i wleidydd Llafur yn beio mudiad RhAG am y llanest gan honnu bod gan y mudiad hwnnw obesesiwn "diwynyddol" am gael ateb ar un safle. Mae rhai o bobol Plaid Cymru ar y llaw arall yn credu bod y penderfyniad wedi ei wneud er mwyn sicrhau mantais bleidiol a bod y cyhoeddiad wedi ei ohirio'n fwriadol er mwyn gallogi i Lafur roi'r wasgfa ar bleidlais y Cymry Cymraeg yng Ngorllewin Caerdydd yn ystod yr etholiad cyffredinol.
Boed felly. Y goblygiad gwleidyddol yw hwn. Er mwyn i glymblaid weithio'n effeithiol mae'n rhaid bod rhyw faint o ewyllus da a theimlad o ymddiriedaeth bersonol yn bodoli rhwng cynrychiolwyr y pleidiau. Mae'r penderfyniad hwn wedi rhoi cnoc sylweddol iawn i'r perthnasau personol rhwng aelodau Llafur a Phlaid Cymru.
Mae hynny'n gadael un cwestiwn. Fe wnes i nodi wythnos ddiwethaf bod Leighton Andrews wedi eithrio ei hun o gymryd y penderfyniad ar y funud olaf. Mae ambell i AC Plaid Cymru o'r farn bod Leighton wedi bwriadu rhoi sêl ei fendith ar y cynlluniau a bod rhywun neu rywrai o fewn y blaid Lafur wedi ei rwystro.
Dyw hynny ddim yn swnio'n debygol i mi ond dyw'r ffaith bod gwleidyddion un blaid yn fodlon damcaniaethu ynghylch cynllwynion dichellgar yn rhengoedd eu cynghreiriad ddim yn argoeli'n dda i ddyfodol y trefniant hwnnw.
Am y tro cyntaf yn ei hanes fe fydd Ceidwadwr yn cadeirio'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Ond pa Geidwadwr? Mae hynny'n fater i aelodau seneddol trwy etholiad.
Teg yw credu na fydd aelod o'r tu fas i Gymru yn cael ei ddewis. Saith dewis sy 'na felly ond go brin fod y tri sy'n newydd-ddyfodiaid yn bosibiliadau.
Mae David Jones eisoes yn weinidog a Stephen Crabb yn chwip. Mae hynny'n gadael dau ddewis felly.
Mae Jonathan Evans yn hen law seneddol, yn gyn-weinidog yn y Swyddfa Gymreig a jyst y math o foi, fe fyddai rhai yn meddwl, i adeiladu consensws rhyng-bleidiol ar y pwyllgor.
A'r dewis arall? Wel gesiwch pwy sydd newydd ffonio i ddweud ei fod yn bwriadu sefyll?
Rwyf wedi gwrthsefyll y 'demtasiwn' i sgwennu cyn hyn ynglŷn â sylwadau David Cameron ddoe ynghylch dyddiad y refferendwm.
Fe ddaw hi pan ddaw hi, yn fy marn i ac mae 'na elfen o hwffian a phwffian yn y cyhuddiadau a'r gwrthgyhuddiadau gyda Swyddfa Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio sicrhau mantais gynnar yn eu perthynas.
Pa mor bwysig yw cwestiwn y dyddiad i'r Llywodraeth ac aelodau'r cynulliad mewn gwirionedd?
Wel, yn ddigon pwysig i'r Llywydd ganiatáu cwestiwn brys ynghylch y mater yn y Cynulliad y prynhawn yma. Wrth ateb y cwestiwn cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ei fod wedi trefnu cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol i drafod y mater.
A phryd fydd y cyfarfod hwnnw?
"Ar ôl gwyliau hanner tymor" wrth gwrs! Dim mor bwysig a hynny, felly!
Mae'r oedi'n awgrymu i mi bod y Llywodraeth yn derbyn bellach na fydd y bleidlais yn cael ei chynnal eleni ond nad ydynt yn fodlon cyfaddef hynny eto.
Hyd y gwelaf i, pwy bynnag sydd ar fai, fe fyddai angen benthyg y Tardis er mwyn cydymffurfio a'r amserlen angenrheidiol a dydw i ddim yn meddwl y byddai "Doctor Who a phwerau rhan pedwar Deddf Llywodraeth Cymru 2006" yn un o benodau mwyaf gafaelgar y gyfres honno!
Mae dweud bod Cymru'n wlad fach a bod pawb yn nabod pawb yn ystrydeb braidd. Ond os am brawf o hynny dyma i chi ffaith fach frawychus. Nid yn unig oedd Leighton Andrews a finnau yn y Coleg gyda'n gilydd ond yn ein blwyddyn gyntaf ym Mangor roedd ein hystafelloedd yn Neuadd JMJ o fewn ychydig ddrysau i'w gilydd.
Fe fydd unrhyw un oedd â chysylltiad â Choleg Bangor yng nghanol y saithdegau yn gwybod bod hwnnw'n gyfnod cythryblus ac anhapus yn ei hanes. Roedd 'na wrthdaro cyson rhwng myfyrwyr Cymraeg a Chymreig ac awdurdodau'r coleg ynghylch pynciau fel y polisi iaith a'r hyn oedd yn cael ei weld fel agwedd ffroenuchel yr academyddion at y cymunedau o'u cwmpas.
Roedd Leighton yn un o'r myfyrwyr di-Gymraeg oedd yn gadarn yn ei gefnogaeth i'r protestiadau iaith gan gefnogi'r dadleuon nad oedd y coleg yn cyflawni ei ddyletswyddau i Gymru.
Mae'n ymddangos ei fod yn cofio'r dyddiau hynny ac yn credu bod y broblem yn para hyd heddiw.
Heno fe fentrodd Leighton i ffau'r llewod ym Mhrifysgol Caerdydd i golbio'r colegau mewn ffordd gwbl diflewyn ar dafod.
Yn y bôn cyhuddodd Leighton y Prifysgolion (neu rai ohonyn nhw) o fod yn wrthwynebus i ddatganoli ac o fethu Cymru. Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn ormodedd i ddweud ei fod wedi dod yn agos at eu cyhuddo o fod yn wrth Gymreig. Honnodd fod eu cyrff llywodraethol yn "gartref olaf i'r crachach" ac yn esgus bod yn annibynnol tra'n dibynnu ar arian cyhoeddus am eu cynhaliaeth.
O hyn ymlaen meddai fe fydd yr arian hwnnw yn cael ei gyfeirio at sefydliadau sy'n gwasanaethu buddiannau Cymru ac yn cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth megis cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg a denu rhagor o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.
Yn ôl Leighton fe sefydlwyd Prifysgol(ion) Cymru yn 19eg ganrif fel gweithred wleidyddol ac mae angen gweithred wleidyddol yn 21ain i'w chwyldroi a'u gwneud yn atebol i bobol Cymru.
Yn ôl yn y saithdegau fe fabwysiadodd myfyrwyr Bangor linell o eiddo Williams Parry fel eu harwyddair. "Gwna ddaeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia" oedd y llinell honno.
Rwy'n amau bod Leighton wedi achosi ambell i ddaeargryn heno!
Dyw gwybod beth i alw llywodraethau ddim yn beth hawdd y dyddiau hyn.
Dyna i chi Lywodraeth newydd y DU. Mae'n amlwg mai "the Coalition" yw'r enw mae'r llywodraeth ei hun yn ffafrio. O leiaf mae hwnnw'n enw cymharol niwtral yn wahanol i "Llywodraeth Cymru'n Un"!
Mae gan lywodraeth San Steffan enwau eraill hefyd. Fe ddechreuodd gwrthbleidiau San Steffan son am y "ConDems" o fewn munudau i ffurfio'r Llywodraeth tra bod y Ceidwadwyr yn son am y "Con-Lib government" a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dewis y "Lib-Cons".
Ceisio awgrymu pwy yw'r ceffyl a phwy yw'r cart mae'r pleidiau wrth ddewis trefn geiriau am wn i.
Mae Elfyn Llwyd yn gwneud rhywbeth tebyg mewn datganiad heddiw gan gyfeirio at Lywodraeth Cymru fel y "Plaid-driven government". Diolch byth nad Elfyn ei hun sy'n gwneud y gyrru. Fe fyddai'r Llywodraeth yn treulio hanner ei hamser yn y cwrt!
Fe awgrymodd rhyw un i mi mae'r enw gorau ar Lywodraeth David Cameron fyddai'r "Liberatory" gan fod hi'n dipyn o arbrawf!
Dydw i ddim yn gwybod ai labordy Einstein neu Frankenstein oedd ar ei feddwl!
Draw ar Wales Home mae gan aelod seneddol newydd Pontypridd Owen Smith ddifyr a diddorol ynghylch yr her sy'n wynebu'r blaid Lafur.
Er mwyn i chi gael gwybod mae Owen a finnau'n hen ffrindiau. Roedd e'n olygydd ar "Good Morning Wales" pan oeddwn i'n cyflwyno'r rhaglen honno ac roedd e'n un o'r newyddiadurwyr gorau i mi weithio gyda fe erioed.
Pan oedd Owen yn cael ei ddannedd mewn i stori fe fyddai fe fel daeargi bach yn gwrthod gadael fynd. Yn anffodus weithiau roedd e'n dal i gnoi pan nad oedd hynny'n gwbl briodol
Cefais fy atgoffa o'r duedd honno wrth ddarllen y paragraff yma;
... the Lib Dem dowry of a maybe-referendum on AV will seem neither adequate reward nor sufficient defence when the Tories confess their taste for domestic violence on our schools, hospitals and welfare provision. Surely, the Liberals will file for divorce as soon as the bruises start to show through the make-up?
Efallai nad yw hi'n syndod bod y Ceidwadwyr wedi galw arno i ymddiheuro am ddefnyddio "geiriau gorffwyll" ond nid nhw yw'r unig rai sy'n gwneud. Mae Nerys Evans o Blaid Cymru hefyd wedi galw am ymddiheuriad gan ddweud hyn;
"Os oedd Mr Smith yn deall unrhyw beth am y boen y mae trais yn y cartref yn achosi fe fyddai wedi dewis ei eiriau'n fwy gofalus. Mae gwneud yn ysgafn o bwnc mor bwysig yn dangos diffyg dealltwriaeth ar ei ran."
Diweddariad; Mae Owen wedi rhyddhau datganiad yn derbyn bod ei eiriau'n amhriodol ac yn ymddiheuro.
Rwy'n gwybod bod ambell i ddarllenydd yn credu bod saga addysg Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd yn rhyw ffrae fach leol nad yw'n haeddu ei lle ar y dudalen hon. Os ydych chi'n un ohonyn hwn rhowch orau i ddarllen y post yma nawr!
Bwriad y Cyngor yw cau Ysgol Landsdowne a defnyddio'r adeilad fel cartref newydd i blant Ysgol Gymraeg Treganna ac uned Tan yr Eos. Hwn oedd cynllun a ddisgrifiwyd fel "ethnic cleansing" gan y cynghorydd Llafur, Ramesh Patel yn Chwefror 2009.
Cyhoeddwyd y cynlluniau yn ôl yn 2007 ac fe wnaeth y Cyngor eu cymeradwyo ym Mai 2009. Yn ôl amseroedd targed y Cynulliad fe ddylai'r Llywodraeth wedi cymeradwyo'r cynllun neu ei wrthod o fewn chwe mis.
Mae pawb yn dal i ddisgwyl.
Ychydig fisoedd yn ôl mynnodd y gweinidog Addysg Leighton Andrews nad oedd y penderfyniad wedi "cyrraedd ei ddesg". Ei ddesg, sylwch. Desg Leighton. Nid desg neb arall.
Mewn llythyr i Chris Franks AC ar ddiwedd Ebrill fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai Leighton Andrews yn gwneud penderfynniad "yn fuan". Leighton Andrews. Neb arall.
Nawr beth yw hyn. Dyma ran o ateb ysgrifenedig gan Leighton Andrews i Nerys Evans AC wedi ei ddyddio Mai'r 19eg.
"Y Prif Weinidog fydd yn penderfynu ar gynigion sy'n ymwneud â chau Ysgol Gynradd Lansdowne ac Ysgol Tan yr Eos, trosglwyddo, ehangu ac ymestyn ystod oedran Ysgol Treganna, ac ehangu ac ymestyn ystod oedran Ysgol Gynradd Radnor.
Nid yw'n bosibl i mi ddweud pryd y gallai'r penderfyniadau gael eu gwneud ar y materion hyn. Dim ond pan fydd yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi'i chasglu a'i hasesu ac y caiff casgliadau cadarn eu llunio y caiff penderfyniadau eu gwneud."
Beth ddigwyddodd i ddesg Leighton, tybed? Pam mai'r Prif Weinidog sy'n gorfod penderfynu?
Y ffaith bod plant Leighton wedi mynychu Ysgol Treganna sy'n gyfrifol am hynny yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth. Digon teg. Ar y llaw arall mae'r rheiny yn eu hugeiniau nawr a doedd hi ddim yn ymddangos yn broblem cyn hyn.
Wrth gwrs, mae'n bosib mai newydd gofio i ba ysgol yr aeth ei blant mae Leighton!
Pan oeddwn i'n grwt yn ôl yn y chwedegau un o'r cyfresi comedi mwyaf poblogaidd a mwyaf dadleuol oedd "Till Death Us Do Part". Y gyfres honno wnaeth greu'r anghenfil rhyfedd hwnnw Alf Garnett gyda'i safbwyntiau hiliol a'i ragfarnau hyll.
At ddibenion dramatig, dybiwn i, portreadwyd Garnett fel Ceidwadwr oedd yn ffraeo byth a hefyd a'i fab yng nghyfraith sosialaidd. Mewn gwirionedd mae'n debycach y byddai'r hen Alf yn pleidleisio i Lafur. Mae rhan helaeth o gefnogaeth y blaid honno'n dod yn draddodiadol o bleidleiswyr dosbarth gweithiol sy'n llwythol Llafur ond sy'n arddel daliadau gwahanol iawn i rhai arweinwyr y blaid ynghylch pynciau megis cyfraith a threfn, mewnfudo a rhywioldeb.
Doedd hi ddim yn llawer o gyfrinach bod ambell i wleidydd yn dawel ddirmygu'r bobol yma tra'n dibynnu ar eu cefnogaeth. Erbyn hyn dyw'r peth ddim yn gyfrinach o gwbwl. Fe wnaeth cwpwl o eiriau gan Gordon Brown mewn cefn car disbyddu'r hynny o gyfrinachedd oedd yn bodoli!
Mae'r fath yma o bleidleiswyr yn bodoli ym mhob gwlad. Roedd Archie Bunker yr un mor boblogaidd ymhlith gwylwyr teledu America ac oedd Alf Garnett ym Mhrydain! Bodolaeth y bobol yma sy'n esbonio poblogrwydd cymeriadau fel Sarah Palin a "Joe the Plumber".
Yn ddiweddar bues i'n darllen llyfr o'r enw "" ynghylch y ffenomen yn yr Unol Daleithiau.
Yn y wlad honno mae hi i'w gweld ar ei chryfa mewn cymunedau sydd wedi dad-ddiwydianu. Maen nhw hefyd yn gymunedau sydd naill ai bron yn gyfan gwbwl gwyn eu croen neu'n gymunedau gwyn sy'n byw'n gyfochrog a chumuned du neu Ladin heb fawr o gymysgu rhyngddynt.
Yn ddi-eithriad bron mae aelodau'r cymunedau gwyn hynny yn anarferol o unffurf o safbwynt eu cefndiroedd . Maen nhw'n anghydffurfiol o safbwynt eu crefydd ac mae eu teulouoedd wedi bod yn bwy yn yr un ardal am genhedlaethau lawer heb fawr o "waed newydd" yn dod mewn. Mae gwreiddiau y rhan fwyaf o'r teuluoedd hynny naill ai yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Rhain yw'r bobol y mae'r Seneddwr Jim Webb yn disgrifio yn ei lyfr ""
Oes 'na gymunedau tebyg yng Nghymru- cymunedau tlawd, gwyn eu croen lle mae cyraeddiadau addysgol a disgwyliadau yn isel yn lle mae'r rhan fwyaf o deuluoedd wedi byw yn yr un ardal am genedlaethau?
Wrth gwrs bod 'na. Mae 'na lwyth ohonyn nhw yng nghymoedd y de ac fel gwnes i nodi yn y post yma rhain oedd yr union ardaloedd lle cafodd Lafur drafferth yn yr etholiad diwethaf.
Fe fyddwch chi, fel fi, yn crafu eich pennau o glywed bod pwnc mewnfudo yn cael ei godi'n amlach ar stepen drws gan bobol y cymoedd na thrigolion llefydd fel Casnewydd a Chaerdydd sydd â lleiafrifoedd ethnig sylweddol. Serch hynny rwyf wedi clywed hynny'n cael ei ddweud dro ar ol dro gan bobol wnaeth ganfasio dros Lafur yn ystod yr etholiad.
Un o'r sloganau gwleidyddol mwyaf clyfar erioed yn fy marn i oedd "Tough on crime. Tough on the causes of Crime". Dyna i chi sylfaen buddugoliaeth Tony Blair yn 1997 mewn naw gair- y tri cyntaf wedi eu hanelu at ddarllenwyr y Sun a'r Star a'r chwech olaf at bobol y Guardian a'r Independent.
Yr eironi mae'n debyg yw nad yw problemau Llafur gyda'r bleidiais ddosbarth gwaith yn deillio o fethiant ynghylch cymal cyntaf y slogan ond yr ail. Cafwyd carchardai newydd, camerâu CCTV di-ri, y bas data DNA a llwyth o gyfreithiau newydd dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf.
Ond beth am ddelio gyda'r rhesymau dros droseddi; tlodi, diffyg addysg, diffyg cyfleoedd ac yn y blaen? Methiannau yn y meysydd hynny sydd wedi achosi problemau'r blaid, dybiwn i, ac mae angen mwyn na slogan clyfar a threigl amser i leddfu'r dadrithiad.
Wel barodd honna ddim yn hir! Ydych chi'n cofio'r holl son yna am "berthynas adeiladol a phroffesiynol rhwng llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig"? Wedi went.
Mewn her agored i Cheryl Gillan mae Carwyn Jones newydd gyhoeddi drafft Llywodraeth Cymru o'r hyn ddylai fod ar y papur pleidleisio mewn refferendwm.
Dyma'r rhagair esboniadol;
Ar hyn o bryd mae'r Cynulliad yn cael deddfu ar rai pethau, ond nid ar bethau eraill, sy'n effeithio ar bobl Cymru yn unig.
Mae Senedd y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y dylai'r Cynulliad gael deddfu ar bopeth sy'n ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Ond dim ond os bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cefnogi hynny mewn refferendwm y gall hynny ddigwydd.
Mae'r meysydd sydd wedi'u datganoli yn cynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, tai, addysg a llywodraeth leol. Ni fyddai modd i'r deddfau ymwneud â nawdd cymdeithasol, amddiffyn a materion tramor.
A dyma'r cwestiwn;
Ydych chi am i'r Cynulliad gael y pŵer yn awr i ddeddfu ar yr holl feysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru?
YDW
NAC YDW
Mae Carwyn wedi sgwennu at ysgrifennydd Cymru yn ffurfiol yn gofyn am gynnal y bleidlais ym Mis Hydref. Mae Swyddfa Cymru a'r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi awgrymu bod yr amserlen yna'n amhosib. Mae'n bryd i'r eilyddion adael y sgwâr focsio!
Mae manylion cytundeb clymblaid San Steffan newydd eu cyhoeddi. Beth mae'n dweud am Gymru felly?
Dim llawer, mewn gwirionedd yw'r ateb.
Dyw hynny ddim yn syndod. Fe fyddai'n rhyfedd iawn pe bai'r cytundeb yn cynnwys unrhyw beth ynghylch meysydd datganoledig. Mae'n werth cofio hefyd bod yr hyn sydd gan y cytundeb i ddweud am feysydd nad ydynt wedi eu datganoli fel budd-daliadau a threthi'r un mor berthnasol i Gymru ac i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.
Mae 'na un cymal o bwys sef ymateb y Llywodraeth i'r cwynion ynghylch fformiwla Barnett. Dyma mae'n ei ddweud.
"We recognise the concerns expressed by the Holtham Commission on the system of devolution funding. However, at this time, the priority must be to reduce the deficit and therefore any change to the system must await the stabilisation of the public finances. Depending on the outcome of the forthcoming referendum, we will establish a process similar to the Calman Commission for the Welsh Assembly."
Mae'r gwair yna'n ddychrynllyd o hir, os caf i ddweud. Mae'n anodd iawn dehongli'r cymal mewn unrhyw ffordd arall.
Yn sicr mae'n wahanol iawn i'r hyn oedd gan faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddweud sef "disodli'r fformiwla gyfredol... gyda fformiwla newydd yn seiliedig ar anghenion i'w chytuno gan Gomisiwn Cyllid y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau".
Fe wna i safio tipyn o waith i bobol y pleidiau eraill. Mae'r addewid ar dudalen 51 yn y fersiwn Gymraeg a thudalen 47 yn y fersiwn Saesneg!
Mae'n bosib darllen y cymal mewn ffordd arall, wrth reswm. Ai dweud "fe wnawn ni ystyried rhoi rhagor o arian i Gymru ond dim ond ar ôl pleidlais 'ie' mewn refferendwm" mae'r Llywodraeth? Mae'n bosib darllen y cymal yn y modd hwnnw ond ai dyna oedd bwriad y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn gwirionedd?
Un o'r pethau sy'n digwydd bob tro mae llywodraeth yn newid yw ymgais gan y tîm newydd i fframio'r ddadl wleidyddol o'u blaenau. Mae argraffiadau cynnar yr etholwyr yn bwysig hyd yn oed os oes 'na bum mlynedd tan yr etholiad nesaf.
Un agwedd o hynny yw llwytho cymaint o'r bai ac sy'n bosib am drafferthion i ddod ar ysgwyddau eu rhagflaenwyr. Does dim byd arbennig o newydd yn hynny. Yn ôl yn chwedegau roedd Harold Wilson byth a hefyd yn son am y "thirteen years of Tory mis-rule" oedd, wrth reswm, yn gyfrifol am greu pob un broblem yr oedd yn wynebu'r llywodraeth Lafur.
Dyw'r llywodraeth newydd yn San Steffan yn ddim gwahanol, dybiwn i. Mae unrhyw un sy'n credu bod straeon megis nodyn cellweirus Liam Byrne a chwynion gweision sifil am benderfyniadau gwariant Llafur wedi dod i'r wyneb trwy hap, damwain neu newyddiaduraeth benigamp yn naïf braidd!
Brawd mogu yw tagu ac mae gwrthbleidiau newydd yn ceisio eu gorau i fframio'r ddadl hefyd gan chwilio am fannau gwan y tîm newydd. Mae'n ymddangos bod Llafur Cymru yn meddwl bod Cheryl Gillan yn un o'r mannau gwan hynny.
Fe wnes i sgwennu ddoe, ac mae Betsan yn mynd i gryn fanylder heddiw, ynghylch ymdrechion gan rai i feio'r Ysgrifennydd Gwladol newydd am broblemau gydag amseriad refferendwm ynghylch cynyddu pwerau'r Cynulliad. Does ond angen darllen yr hyn sydd gan Betsan i ddweud i ddeall nad Mrs Gillan sydd wedi achosi'r broblem.
Ond nid dyna'r unig ymosodiad mae Cheryl Gillan yn wynebu ar hyn o bryd. Y llall yw'r honiad ei bod ond wedi cael y swydd oherwydd ei bod hi'n fenyw. "Bysai Gerald Gillan byth wedi cael y jobyn" medd un ffynhonnell. "Fe fydd Jonathan Evans yn cymryd ei lle mewn chwe mis" medd un arall.
Mae enw Jonathan Evans yn codi bron bob tro y mae penodiad Cheryl Gillan yn cael ei drafod. Yn wir roedd ambell i newyddiadurwr (nid rhai'r ³ÉÈËÂÛ̳) yn proffwydo'n hyderus mai aelod newydd Gogledd Caerdydd fyddai'n cael y swydd. Doedd hynny erioed yn mynd i ddigwydd- ac nid oherwydd bod Jonathan yn ddyn a Cheryl yn fenyw.
Mae'n hawdd anghofio'r dyddiau hyn cyn gryfed yw teimladau aelodau seneddol Ceidwadol ynghylch Ewrop yn enwedig yr aelodau asgell dde hynny sy'n amheus am brosiect foderneiddio David Cameron.
Darn o gig coch amrwd i'r garfan honno oedd addewid David Cameron yn ystod ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth i dynnu Torïaid Senedd Ewrop allan o grŵp yr EPP- y brif garfan asgell dde ym Mrwsel a Strasbwrg.
Mae Jonathan yn gyn aelod o Senedd Ewrop, yn wir mae'n arweinydd y grŵp Ceidwadol yno. Beth tybed oedd ei farn ynghylch cynlluniau David Cameron?
Roedd yn eu gwrthwynebu'r nhw'n ffyrnig ac yn gwneud popeth o fewn ei allu i'w rhwystro. Yn 2006, er enghraifft, arwyddodd Jonathan lythyr i'r Times yn dweud hyn
"We believe in seeking out where the real action is, rather than fleeing to the margins. We believe that, to be a credible alternative government, Conservatives need to work with EU centre-Right colleagues whose parties are already in government. We believe that, in the EU, just as in Britain, the Left is the main enemy - and that when the Right is divided, the Left prevails."
Nawr atebwch gwestiwn i fi. Ar adeg lle'r oedd yn rhaid i David Cameron leddfu ofnau'r dde ynghylch clymbleidio a'r Democratiaid Rhyddfrydol beth fyddai effaith penodi rhyw un a safbwyntiau felly i'r Cabinet?
Doedd y peth ddim yn mynd i ddigwydd. Byth bythoedd.
Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai prysur. Serch hynny rwy'n ei chael hi'n anodd credu na roddwyd y sylw priodol i ddarn hynod o bwysig o ddeddfwriaeth Gymreig.
Os ydych chi'n hoff o gwpanau jeli bach mae gen i newyddion drwg. Tridiau sydd ar ôl cyn i'r ddod i rym! Mae'r gwaharddiad brys ar y losin yn barhaol felly!
Dyna biti, mae unrhywbeth sy'n cynnwys E400, E401, E402, E403, E404 , E405, E406, E407, E407(a), E410, E412, E413, E414, E415,E417, a/neu E418 yn swnio'n flasus i mi!
Ai hwn yw'r cymal gorau erioed mewn deddfwriaeth?
(2) Yn yr enw ac yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso) yn y testun Cymraeg yn lle "(Jeli Cwpan Fach)" rhodder "(Jeli Cwpanau Bach)".
" Wnaeth David Cameron ofyn beth yw cyfrinach clymblaid hapus, llawen llon a hirhoedlog?"
Betsan nid fi wnaeth ofyn y cwestiwn i Carwyn Jones ac roedd hi'n un clyfar. Roedd ateb Prif Weinidog Cymru yr un mor slei;
"Naddo. Rwy'n cadw'r gyfrinach, felly."
Rhan o'r gyfrinach dybiwn i yw gonestrwydd rhwng y partneriaid a chadw at addewidion. Dyna pam mae'r anghytundeb ynghylch pa mor realistig yw hi i gynnal refferendwm ynghylch cynyddu pwerau'r cynulliad cyn diwedd eleni mor bwysig.
Fersiwn Cheryl Gillan a'r Ceidwadwyr o'r sefyllfa yw bod Peter Hain wedi gwneud y nesaf peth i ddim i baratoi ar gyfer y refferendwm ac oherwydd hynny dyw'r amserlen ddim yn caniatáu cynnal pleidlais yn yr hydref.
"Sothach ar stilts" yw hynny yn ôl Peter Hain. Mae 'r cyn-ysgrifennydd yn mynnu ei bod wedi gwneud popeth posib i baratoi ar gyfer y bleidlais gydag un eithriad. Yr eithriad hwnnw oedd union eiriad y cwestiwn. Doedd dim modd gweithio ar hynny yn ôl Mr Hain am nad oedd y Comisiwn Etholiadol yn credu bod hynny'n briodol yn ystod purdan etholiad San Steffan. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno a'r dadasoddiad hwnnw.
Mewn gwirionedd mae'r sefyllfa yn gymharol syml yn fy marn i . Er mwyn cynnal refferendwm yn yr Hydref mae'n rhaid gosod a phasio gorchymyn yn San Steffan cyn gwyliau'r haf. Yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru mae'n rhaid i'r Gorchymyn hwnnw gynnwys union eiriad y cwestiwn. Doed dim modd newid geiriad y cwestiwn ar ôl i'r gorchymyn gael ei gyhoeddi.
Mae 'na ddyletswydd statudol ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi sylwadau'r Comisiwn Etholiadol ynghylch y cwestiwn wrth osod y Gorchymyn. Mae'r Comisiwn ei hun yn dweud y byddai'n cymryd deg wythnos i gynnal ymgynghoriad llawn ac i baratoi ei sylwadau.
Nawr, os ydy San Steffan yn dilyn y drefn arferol fe fydd gwyliau'r haf yn cychwyn yng nghanol Gorffennaf- ymhen rhyw ddeg wythnos. Os nad yw Cheryl Gillan yn llunio'r cwestiwn yn ystod y dyddiau nesaf felly fe fydd refferendwm yn yr hydref yn amhosib.
Does dim arwydd bod yr Ysgrifennydd yn bwriadu bod mor frysiog â hynny. Yn wir pam ddylai hi fod pan nad oedd ei ragflaenydd wedi gadael hyd yn oed bras awgrymiadau ar ei chyfer?
Mae'n anodd credu nad yw pobl pumed llawr TÅ· Hywel yn deall y sefyllfa'n iawn. Mae'n ddigon hawdd deall pam y byddai ochor Llafur y glymblaid yn ddigon hapus i allu ymosod ar Cheryl Gillan am lusgo ei thraed ond pam mae pobol Plaid Cymru mor jacos ynghylch y peth?
Wedi'r cyfan y tro diwethaf y gwnaeth Llafur lusgo traed ynghylch cynnal y bleidlais fe wnaeth pobol plaid fygwth cerdded mas o'r glymblaid ac onid yr addewid o refferendwm oedd yr union beth wnaeth eu darbwyllo i gynghreirio a Llafur yn y lle cyntaf?
Cyn hynny rwyf am sôn am gyfeillion i mi yn Adelaide, Awstralia sy'n rhedeg teganau a swfenîrs. Os ydych chi'n prynu koala neu gangarŵ yn Alice Springs neu Darwin y tebygrwydd yw mai yn Tsiena y cafodd ei wneud ac mai cwmni Peter ac Alex wnaeth ei fewnforio.
Dod yn weddol o hwyr i fyd busnes wnaeth y ddau. Ar un adeg roeddent yn ddynion reit bwysig mewn gwleidyddiaeth. Roedd y naill yn weithiwr llawn amser i arweinydd eu plaid a'r llall yn eistedd ar ei phwyllgor gwaith cenedlaethol.
Dyw'r blaid honno ddim yn bodoli bellach ond am ryw ugain mlynedd roedd ganddi rôl bwysig yng ngwleidyddiaeth Awstralia. Yr "Australian Democrats" oedd ei henw. Hi oedd trydedd blaid y wlad ac roedd hi'n chwaer blaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Trwy gydol ei hanes methodd y blaid ac ennill sedd yn NhÅ·'r Cynrychiolwyr yn Canberra. Fe'i caewyd hi allan gan gyfundrefn "bleidlais amgen" ddigon tebyg i'r un mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dymuno gweld yn cael ei chyflwyno ym Mhrydain! Nid dyna yw pwynt y post yma!
Roedd y Democratiaid yn rym go iawn mewn rhai o'r taleithiau ac yn amlach na pheidio roedd y blaid yn dal y fantol yn y Senedd, siambr uchaf Awstralia, sydd gan amlaf yn grog. Roedd hynny'n fendith ac yn felltith i'r blaid.
Roedd tranc y blaid yn broses hir a chymhleth ond fe gychwynnodd gyda'r arweinydd ar y pryd, Meg Lees (yr un yr oedd fy nghyfaill yn gweithio iddi) yn wynebu penderfyniad anodd.
Roedd Llywodraeth geidwadol newydd ei hethol ac yn benderfynol o gyflwyno treth newydd y "GST" (digon tebyg i TAW) er mwyn lleihau'r ddyled genedlaethol oedd yn bryderus o uchel.
Roedd gan y dde (sef, yn achos Awstralia, y Rhyddfrydwyr a'r Blaid Genedlaethol) y niferoedd yn y siambr isaf i gael ei ffordd. Y broblem oedd y Senedd lle'r oedd angen cefnogaeth y Democratiaid, plaid oedd wedi gwrthwynebu'r GST yn yr etholiad, er mwyn ei chyflwyno.
Ar ôl ambell i gonsesiwn fe gytunodd Meg i roi rhwydd hynt i'r mesur "er lles y wlad" a chan "roi buddiannau cenedlaethol o flaen buddiannau plaid".
I ddechrau fe frathodd aelodau'r blaid yn Canberra ac ar lawr gwlad eu tafodau. Ond dim ond am gyfnod y mae rhwygiadau dyfnion yn gallu cael eu celu. Yn y diwedd fe drodd y sefyllfa'n rhyfel agored i ddechrau, yna'n ffars wnaeth ladd hygrededd y blaid ac yna'r blaid ei hun.
Dydw i ddim yn dweud bod yr un peth yn debyg o ddigwydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol ond rwy'n synhwyro bod yr anhapusrwydd ynghylch sefyllfa'r blaid ymhlith ei haelodau llawer yn fwy nac mae'n ymddangos ar y wyneb. Os ydy etholiadau flwyddyn nesaf yn troi allan yn wael i'r blaid mae'n ddigon posib y bydd yr anniddigrwydd hynny'n cynyddu.
Fe fydd pobol sy'n cofio genedigaeth plaid y Democratiaid Rhyddfrydol a Chymdeithasol yn gwybod bod pethau'n gallu troi'n gas iawn yn y blaid felen pan mae pethau'n mynd o'i le. Ydy e'n gyd-ddigwyddiad fod Charle Kennedy yn ceisio rhoi hyd braich rhyngddo'i hun a'r cytundeb? Ai Charles yw'r Lloyd George y tro hwn?
Rwyf wedi oedi ychydig cyn cyhoeddi'r post yma gan ei fod yn dibynnu i raddau ar argraffiadau goddrychol pobol eraill. Pwnc trafod yw hwn felly yn hytrach na phregeth ar y mynydd!
Paul Murphy oedd y cyntaf i wyntyllu'r pwynt i mi mewn sgwrs gymdeithasol ar ôl yr etholiad. Roedd wedi ei synnu meddai gan ba mor wresog oedd y croeso yn ardaloedd mwyaf cefnog Torfaen. Roedd yr hen bentrefi glofaol yn llai cefnogol nac arfer ac oeraidd oedd yr ymateb ar y stadau cyngor.
Ar eimae Paul Flynn yn nodi ffenomen debyg yn etholaeth gyfagos Gorllewin Casnewydd.
"Our analysis of the result shows an extraordinary picture. We did not get the big share of votes in our traditional areas of support. Many stayed away or strayed into other parties. The bulk of my votes were from the prosperous, middle-class leafy suburbs. Without the support of previous Tory voters I would have lost. There is a sharp lesson for our party here that explains the huge losses in neighbouring seats. It the working class who have become dis-illusioned. Their trust in us must be regained."
O ofyn o gwmpas yr un peth mae dyn yn clywed gan bobol Lafur dro ar ôl tro. Roedd y gefnogaeth gan y dosbarth canol yn gadarn ond y gefnogaeth o du'r dosbarth gwaith yn feddal tu hwnt.
Dyma i chi dipyn o dystiolaeth ystadegol. Dyma gwymp y bleidlais Lafur rhwng 2005 a 2010 yn rhanbarth Canol De Cymru.
Merthyr a Rhymni -16.8%
Pontypridd -15.4%
Rhondda -12.8%
Cwm Cynon -10.5%
Bro Morgannwg -7.8%
De Caerdydd a Phenarth -7.7%
Canol Caerdydd -5.5%
Gorllewin Caerdydd -3.6%
Gogledd Caerdydd -1.9%
Mae'r patwm yn amlwg. Roedd 'na gwymp difrifol yn y bleidlais yn y cadarnleodd ond canlyniadau digon parchus yn yr etholaethau mwy cefnog.
Gellid dadlau mai targedu effeithiol gan Lafur sy'n gyfrifol am y gwahaniaeth. Ond lol botas yw hynny! Roedd y Torïaid, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru'n targedu'n fwy effeithiol na Llafur a, chredwch neu beidio, mae peiriannau'r pleidiau eraill mewn ambell ardal yn Ferarris o gymharu â'r Mini Metros sydd gan Lafur Cymru ar hyn o bryd!
Fel mae'n digwydd cafodd y gwahaniaethau yn y patrwm pleidleisio fawr o effaith ar ddidoliad y seddi. 5.6% oedd y gogwydd o Lafur i'r Ceidwadwyr yng Nghymru. Fe ennillodd y Toriaid y pedair sedd Lafur lle'r oedd angen gogwydd llai na hynny a methu yn y rhai lle'r oedd angen mwy.
Serch hynny mae cwestiwn diddorol yn codi. Pwy wnaeth golli'r etholiad - hen Lafur neu Lafur newydd?
Yn yr etholiad nesaf y dasg sy'n wynebu Llafur yw ail-gysylltu a'i chefnogwyr traddodiadol ond rhaid yw gwneud hynny heb bechu'r pleidleiswyr dosbarth canol wnaeth gadw'r ffydd yn 2010.
Y dydd o'r blaen fe ddywedodd David Miliband, y ceffyl blaen cynnar yn y ras i arwain Llafur, hyn;
"Anyone who thinks that the future is about recreating new Labour is wrong. We've got to use this period to decisively break with that."
Mewn un ystyr wrth gwrs mae David Miliband yn iawn. Dyw strategaeth yr ugeinfed ganrif ddim yn debyg o lwyddo yn 21ain. Ar y llaw arall ail-greu clymblaid ' 97 yw'r union dasg sy'n wynebu Llafur!
Mae'n bosib dadlau hyd syrffed ynghylch effaith y dadleuon teledu ar yr etholiad. Dydw i ddim yn sicr y bydd hyd yn oed y yn gallu ateb y cwestiynau i gyd er mae'n debyg o gynnig rhiw faint o oleuni!
Mae rhai wrth gwrs wedi dadlau na chafodd y rhaglenni fawr o effaith gan fod y canlyniad ar Fai'r 6ed yn ddigon tebyg i'r hyn yr oedd yr arolygon barn yn awgrymu ar ddechrau'r ymgyrch.
Mae fersiwn fwy soffistigedig o'r ddamcaniaeth honno yn awgrymu bod y dadleuon wedi cael effaith ond bod yr effaith honno wedi disbyddu erbyn diwrnod y bleidlais. Mae 'na dystiolaeth bod y ddamcaniaeth honno'n gywir yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd y blaid honno'n hyderus ynghylch ennill Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd ar ôl gweld y pleidleisiau post cynnar yn cael eu hagor wythnos cyn yr etholiad. Ar sail yr un fath o dystiolaeth fe symudodd y blaid ei phanjyndryms etholiadol o Geredigion i Wrecsam yn yr wythnos olaf gan gredu bod gan Tom Rippeth siawns o guro Ian Lucas. Siomwyd y blaid yn y tair etholaeth.
Ond os na chafodd y ddadl effaith ar y gefnogaeth i'r pleidiau wnaeth gymryd rhan, beth am y pleidiau oedd wedi eu cau allan?
Mae'n debyg eich bod wedi gweld sylwadau Cynog Dafis yn y erbyn hyn. Ai ddim ar ôl yr hyn sy gan Cynog i ddweud am newid demograffig yng Ngheredigion. a blog yw'r llefydd i drafod hynny! Rhan arall o sylw Cynog sy'n fy niddori;
"When the Liberal Democrat bubble was punctured towards the end of the campaign, voters elsewhere gravitated to the Tories or Labour. In Ceredigion, those parties don't figure, so people tended to stick with the Lib Dems, whose only rivals were the Nats."
Dydw i ddim am drafod canlyniad Ceredigion yn benodol. Yn hytrach fe wna i wisgo het "deerstalker", sugno ar getyn a dilyn ôl traed Sherlock Holmes trwy fynd i chwilio am y ci wnaeth fethu cyfarth!
Yn sgil yr helynt dreuliau'r llynedd roedd y rhan fwyaf o sylwebwyr gwleidyddol, gan gynnwys fi, yn credu y gallai pleidiau bach gyda dwylo glan yng ngolwg yr etholwyr ynghyd ac ymgeiswyr annibynnol fod yn ffactor bwysig yn etholiad eleni. Y gwrthwyneb oedd yn wir.
O safbwynt y pleidiau llai fe gafodd y Blaid Werdd ei Chaerfyrddin yn Brighton ond fe ddaeth siom i'w rhan mewn etholaethau eraill. Fel yn 2005 fe ddychwelodd y rhan fwyaf o'r rhai wnaeth bleidleisio dros UKIP yn Etholiad Ewrop at eu corlannau arferol. Fe brofodd y BNP unwaith yn rhagor fod hi'n fwy o stŵr nac o sylwedd.
Roedd perfformiad ymgeiswyr annibynnol os unrhyw beth yn waeth na rhai'r pleidiau llai. Collodd aelodau Blaenau Gwent a Wyre Forest ei seddi a cholli ernes oedd ffawd Esther Rantzen a llu o ymgeiswyr eraill. Dim ond yn sedd y llefarydd, yn absenoldeb y pleidiau mawr, y gwnaeth ymgeisydd annibynnol farc. Dyw hynny, hyd yn oed, yn ddim byd newydd. Fe gyflawnodd un o ddilynwyr Desmond Donnely gamp debyg yn Southampton Itchen yn 1970.
Y cwestiwn i ofyn, wrth gwrs yw ai at y Democratiaid Rhyddfrydol yr aeth nifer o'r rhai oedd wedi bwriadau pleidleisio i'r pleidiau llai, ymgeiswyr annibynnol ac o ran hynny Plaid Cymru a'r SNP?
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu hynny. Roedd 'na gwymp sylweddol yn y gefnogaeth i "eraill" yn yr arolygon barn yn sgil y ddadl deledu gyntaf a go brin fod y gefnogaeth honno wedi trosglwyddo i Lafur neu'r Ceidwadwyr. Yn fan hyn dwi'n meddwl bod Cynog yn llygad ei le.
Ar ôl newid eu bwriad pleidleisio unwaith doedd 'na fawr o reswm i "bleidleiswyr protest" newid eu bwriad am yr eildro yn ystod y dyddiau olaf. Mewn etholiad agos roedd 'na hen ddigon o resymau i gefnogwyr Llafur a'r Ceidwadwyr wneud hynny wrth i Cleggmania brofi i fod mor fyrhoedlog â gwlith y bore.
Wrth gwrs yn yr etholiad nesaf fe fydd gan y Cenedlaetholwyr ddadl arall dros gael eu cynnwys yn y dadleuon. Wedi'r cyfan oni fyddai'n gwbl annheg i'r Llywodraeth gael dau gynrychiolydd ar y llwyfan gyda dim ond un person yn llefaru ar ran y gwrthbleidiau?
Mae Kirsty Williams newydd gymryd rhan mewn digwyddiad gyda Nick Bourne yn croesawu'r Ysgrifennydd Gwladol newydd i'r Bae.
Un cwestiwn syml.. pam?
Doedd dim angen iddi fod yna. Wedi'r cyfan yn San Steffan nid yn y Bae y mae'r Democrataid Rhyddfrydol a'r Torïaid mewn clymblaid.
Yn wir gall dyn feddwl am sawl reswm i Kirsty beidio bod yna. Dyna i chi ran o'i yng nghyhadleddd Wanwyn ei phlaid y llynedd;
I grew up in Llanelli - I saw at first hand the devastating effect of Tory policy as jobs were haemorrhaged in the coal and steel industries. Families and communities consigned to the scrap heap because of the government's indifference to the human suffering their policies caused. Thatcher's Government got it wrong. They forgot the human aspect, they denied the rich community and cultural values which underpinned Welsh society and still do.
Neu beth am y sylw yma ynghylch Cheryl Gillan gan ar Ebrill y pumed, eleni.
"...she may have been born and brought up in Wales but it is difficult to develop any sort of affinity for Welsh issues and problems when based in leafy Buckinghanshire, never mind an understanding of the priorities of the Welsh Government."
Teitl post Peter yw "Echoes of past Tory Imperialism".
Ydy Kirsty am ganiatáu i glymblaid San Steffan drefedigaethu ei grŵp cynulliad?
Fe gewch weld lluniau o'r achlysur yn y papurau yfory ac mewn degau o filoedd o daflenni Llafur a Phlaid Cymru ar ôl hynny, dybiwn i !
Ych a fi! Onid yw'r pennawd yna'n ofnadwy! Gwarthus! Gwaradwyddus! Cerwch i gefn y dosbarth, Vaughan, a sgwennwch gant o linellau erbyn bore fory.
"Y Barri" nid "Barri" sy'n gywir wrth gwrs. Yn yr un modd, ar y ffordd i'r Fflint y bu farw'r hen asyn nid ar y ffordd i Fflint. Eto i gyd "Barry Barri" a "Flint Fflint" sy'n ymddangos ar arwyddion ffyrdd. Mae'r naill yn swnio fel clefyd egsotig ac fe ddwedodd A.A Gill hyn am y llall; "Flint, Fflint, so bad they named it twice!".
Adroddiad Pwyllgor Bowen ynghylch arwyddion dwyieithog sy'n gyfrifol am y ddau erchyll-beth er nad dyna oedd y bwriad.
Pan gyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor yn 1972 ymhlith yr argymhellion roedd un yn ymwneud â llefydd lle'r oedd yr enwau Cymraeg a Saesneg yn debyg iawn i'w gilydd. Awgrymodd y dylid rhoi'r hawl i gynghorau ddewis pa sillafiad i ddefnyddio gan ddewis y fersiwn Gymraeg, yr un Saesneg neu gyfaddawd rhwng y ddwy.
O ganlyniad diflannodd enwau fel "Portmadoc" a "Carnarvon" ac fe gafodd y Dyniadon Ynfyd ysbrydoliaeth am gân ynghylch sillafiad Cric(c)ieth!
Enwau cyfaddawd oedd "Barri" a "Fflint" i fod. Yn y ddau achos mabwysiadwyd y sillafiad Cymraeg ond heb y fannod. Doedd hynny ddim yn plesio yn y ddwy dref a chafwyd protestiadau lleol ynghylch colli enw Saesneg. O ganlyniad, penderfynwyd mai arwyddion dwyieithog fyddai orau. Am resymau nad wyf yn gallu eu darganfod gosodwyd yr enw Saesneg a'r enw cyfaddawd ar yr arwyddion yn hytrach na'r un Saesneg a'r un Cymraeg.
Fe fyddai'n ddigon hawdd cywiro'r sefyllfa y tro nesaf y mae arwyddion newydd yn cael eu codi. E-bost gan y gweinidog yw'r cyfan sydd angen, dybiwn i. Beth amdani, Ieuan?
Efallai eich bod yn ceisio dyfalu pam fy mod yn blogio ynghylch hyn heddiw.
Esgus yw hi mewn gwirionedd i nodi digwyddiad heb godi crachen ar hen glwyf. Fe fydd darllenwyr hir dymor yn cofio'r storom flogio yn ôl yn yr hydref ynghylch penderfyniad y Comisiwn i roi'r gorau i gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y cofnod.
O ganlyniad i'r ffrwgwd penderfynwyd cynnal arolwg o bolisi iaith y cynulliad. Roedd canlyniadau'r arolwg i fod i gael eu cyhoeddi cyn diwedd mis Ionawr. I fod yn deg roedd yr amserlen hynny yn hurt o dynn. Fe fydd y comisiwn yn ystyried yr argymhellion yn eu cyfarfod nesaf.
Un o addewidion y Ceidwadwyr yn yr etholiad oedd newid enw Swyddfa Cymru yn ôl i'r Swyddfa Gymreig. Dydw i ddim yn meddwl bod yr addewid hwnnw wedi ennill na cholli rhyw lawer o bleidleisiau!
Beth bynnag yw'r enw, fe ddylai Cheryl Gillan sicrhau bod arwydd yn cael ei chodi ar ei swyddfa yn y Bae cyn gynted ac sy'n bosib.
Nes i rywun grybwyll y peth mewn cynhadledd newyddion rhai wythnosau yn ôl doedd Nick Bourne ddim yn ymwybodol bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol swyddfa mewn adeilad cyferbyn a ThÅ· Hywel. Am ryw reswm doedd y Ceidwadwyr ddim wedi derbyn gwahoddiadau i dderbyniadau Nadolig a Gŵyl Ddewi Peter Hain a Paul Murphy ac mae hyd yn oed pobol y ³ÉÈËÂÛ̳ yn cael eu gwahodd i'r rheiny!
Ar hyn o bryd mae Peter Hain yn parhau fel y llefarydd Llafur ar Gymru ac mae'n debyg o aros yn y swydd tan ar ôl i'r arweinydd Llafur newydd gael ei ddewis. Yn sgil hynny fe fydd yn rhaid i ni ddod yn gyfarwydd eto ac un o ddefodau mwyaf rhyfedd ein gwleidyddiaeth sef etholiadau Cabinet yr Wrthblaid.
Yn wahanol i'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol aelodau seneddol Llafur sy'n dewis aelodau'r cabinet pan nad yw'r blaid mewn llywodraeth. Mae'r arweinydd yn cael didoli'r cyfrifoldebau ond doedd hyd yn oed Tony Blair ar anterth ei bwerau ddim yn gallu darbwyllo'r aelodau seneddol i ildio'u grym dros bwy oedd yn eistedd yn y Set Fawr.
Pwy o Gymru felly fydd yn anelu am y brig tro hwn? Mae'n debyg y bydd Peter Hain yn teimlo bod ganddo fe dipyn o betrol ar ôl yn y tanc ac yn dymuno cymryd tro bach arall o gwmpas y bloc. Mae Kevin Brennan, Chris Bryant David Hanson ac efallai Ian Lucas hefyd yn ymgeiswyr posib.
Mewn gwirionedd ac eithrio sêr y blaid mae ennill lle yn y Cabinet Llafur yn dipyn o loteri. Cofiaf am un aelod Cymreig oedd yn gyson ennill lle gyda neb yn deall pam na sut.
Fe ddaeth y gwirionedd i'r amlwg wrth i ddau aelod seneddol Llafur ifanc ddigwydd daro sgwrs a'i gilydd. Fe wnaeth yr aelodau ddarganfod eu bod ill dau yn gyson derbyn llythyrau personol gan y gwleidydd yn canmol eu cyfraniadau yn y tÅ· ac yn cynnig cyngor defnyddiol.
Doedd dim un gair o wahaniaeth rhwng y llythyrau- ac eithrio enw'r aelod wnaeth ei dderbyn, wrth reswm!
Mae'n ddyddiau cynnar i'r llywodraeth newydd yn San Steffan ond o leiaf mae'r dyddiau o ansicrwydd a'r bwrlwm newyddiadurol yn gostegu. Wrth i mi adael Westminster yn hwyr neithiwr roedd pentref pebyll y cyfryngau ar College Green yn cael ei ddatgymalu a mawrion newyddiaduraeth wleidyddol yn disgwyl am dacsis neu'n ymlwybro tua'r tiwb.
Serch hynny wrth i'r ddeuawd newydd ymgartrefu yn Downing Street mae 'na sawl cwestiwn ynghylch goblygiadau'r cytundeb i Gymru.
Rwyf wedi crybwyll eisoes y broblem ynghylch pennu Mai'r 7fed 2015 fel dyddiad yr etholiad cyffredinol nesaf. Nawr mae'n bosib y byddai 'na fantais i Lafur mewn cynnal etholiad cynulliad ar yr un diwrnod ac Etholiad Cyffredinol ond dydw i ddim yn gweld y peth yn digwydd. Mynegodd Carwyn Jones ei bryder ynghylch y sefyllfa yn y Cynulliad ddoe a'r consensws yn y Bae yw y bydd yn rhaid cymryd camau i newid dyddiad yr etholiad cynulliad os oes rhaid.
Mae 'na broblem amseru arall yn codi ei phen. O'r hyn glywais i yn San Steffan y bwriad yw cynnal refferendwm ar y bleidlais amgen ym mis Mai 2011 ar yr un diwrnod ac etholiad y Cynulliad. Dyw hynny ddim yn gymaint o broblem a'r un etholiadol ac fe fyddai gwneud hynny yn gadael hydref eleni yn glir ar gyfer y refferendwm ynghylch pwerau'r cynulliad.
Ar y llaw arall mae'n werth cofio stranciau'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol ynghylch y syniad o gynnal refferendwm y cynulliad ar ddiwrnod yr etholiad. Roedd y ddwy blaid yn teimlo mor gryf am y peth nes iddyn nhw fygwth blocio cynnal y bleidlais o gwbwl pe bai hi ar un diwrnod a'r etholiad.
Dyma ddywedodd ar y pryd;
"Credaf ei bod yn bwysig hefyd na chaiff y refferendwm ei gynnal yr un diwrnod ag etholiadau'r Cynulliad- ein hetholiad cyffredinol yng Nghymru. Mae angen cynnal dwy ymgyrch bwysig ar wahân: un ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac un ar gyfer y refferendwm. Credaf na fyddai drysu rhwng y ddwy ymgyrch a'u gweld yn gwrthdaro ac yn gorgyffwrdd o fudd o gwbl i'r ymgyrch 'ie' nac i ymgyrch etholiadau'r Cynulliad."
Onid yw'r un peth yn wir am refferendwm ynghylch y bleidlais amgen?
Mae bras gytundeb Llywodraeth San Steffan hefyd yn cynnwys nifer o addewidion sy'n ymwneud a meysydd datganoledig fel addysg ac Iechyd. Er nad yw'r ddogfen yn dweud hynny gellir cymryd mai polisïau "Lloegr yn unig" yw'r rheiny. Ond, cyn belled ac mae angen deddfwriaeth i gyflawni'r polisïau, o dan y setliad presennol gallai'r mesurau hynny cynnwys cymalau sy'n benodol Gymreig a/neu gymalau Cymru a Lloegr.
Gyda llywodraethau o wahanol liwiau yn San Steffan a'r Bae rydym ar dir newydd o safbwynt llunio cymalau o'r fath. Mae hynny'n ddadl arall efallai dros symud yn weddol fuan tuag at setliad datganoli fwy eglur.
Dyw manylion y cytundeb rhwng Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim wedi eu cyhoeddi eto ond yn ôl adroddiadau mae'n cynnwys ymrwymiad i dymhorau seneddol penodol. Hynny yw, o hyn ymlaen fe fydd dyddiadau etholiadau cyffredinol wedi eu pennu o flaen llaw. Deallir hefyd mai pum mlynedd nid pedair fydd hyd tymor seneddol.
Mae hynny'n golygu mai dyddiad yr Etholiad Cyffredinol nesaf yw Mai'r 7fed, 2015 sef yr union ddiwrnod y mae etholiad Cynulliad i fod i gael ei gynnal.
Nawr, dydw i ddim yn meddwl am eiliad y byddai'r Comisiwn Etholiadol yn caniatáu cynnal y ddau etholiad ar yr un diwrnod.
Beth yw'r ateb felly? Fe fyddai ymestyn neu dorri oes y pedwerydd cynulliad yn bosibilrwydd ond mae 'na ateb arall. Gellid gohirio etholiad 2011 am flwyddyn.
Efallai fy mod yn sinigaidd trwy ddweud hyn ond fe fyddai hynny'n siwtio ambell i blaid i'r dim.
Y Llywodraeth newydd wrth reswm sy'n cael y rhan fwyaf o'r sylw heddiw ond mae Llafur hefyd yn gorfod edrych i'r dyfodol a dewis arweinydd newydd.
David Miliband yw'r ffefryn cynnar gan ddenu 75% o'r arian sydd wedi ei fentro hyd yma. Un fantais sydd gan David Miliband yw bod ei sedd, yn wahanol i un yr ail-ffefryn Ed Balls yn gwbl ddiogel.
Dyma i chi ddarn bach o "trifia" gwleidyddol difyr. Un etholaeth yn unig sy 'na sydd erioed wedi ethol Ceidwadwr ers Deddf Ddiwygio 1832. South Shields, etholaeth David Miliband, yw honno.
Mae'n ystrydebol braidd i ddweud bod y rheiny sy'n anghofio ei hanes yn debyg o'u hail-fyw. Dydw i ddim yn credu bod y peth yn wir hyd yn oed. Dyw hanes ddim yn ail-adrodd ei hun. Ar ôl dweud hynny dim ond ffŵl fyddai'n credu nad oes 'na wersi i'w dysgu o'r gorffennol.
Wrth i ni ddeffro felly i weld Rhyddfrydwyr ar feinciau'r Llywodraeth yn San Steffan am y tro cyntaf ers 1945 mae'n werth cael cipolwg ar y tro diwethaf y gwnaeth y blaid honno roi "buddiannau'r wlad o flaen ei buddiannau ei hun".
1931 oedd y flwyddyn ac mae'n bwysig cofio bod y blaid Ryddfrydol eisoes ar ei chefn pan ddaeth yr alwad i ymuno a Llywodraeth Genedlaethol Ramsay MacDonald. Roedd Llafur wedi sefydlu ei hun fel prif blaid y chwith ddegawd yn gynt. Roedd yr hynny oedd ar ôl o'r blaid Ryddfrydol yn dibynnu ar drefniadau lleol a'r pleidiau eraill mewn ambell i etholaeth a theyrngarwch cefn gwlad Cymru am ei pharhad.
Roedd 'na resymau hunanol a phleidiol felly yn ogystal â rhai gwladgarol dros dderbyn gwahoddiad MacDonald. Boed felly, ond yn fuan fe rannodd y blaid yn dair carfan na fu cymodi llwyr rhwng eu haelodau am ddegawdau.
Y garfan leiaf o bell ffordd oedd y "Rhyddfrydwyr Annibynnol", llond dwrn o aelodau seneddol, aelodau ei deulu yn bennaf, oedd yn ffyddlon i Lloyd George. Doedd hwnnw ddim yn fodlon bod yn rhan o unrhyw lywodraeth nad oedd yn gweithredu polisïau masnach rydd.
Roedd y ddwy garfan arall tua'r un faint a'i gilydd gyda'r ddwy (ar y dechrau o leiaf) yn cefnogi'r Llywodraeth Genedlaethol. Fe arhosodd y "Rhyddfrydwyr Cenedlaethol" o dan arweinyddiaeth Syr John Simon yn driw i'r llywodraeth honno tan y diwedd. Erbyn y pumdegau roedd y garfan wedi ei thraflyncu'n llwyr gan y Ceidwadwyr.
Cefnogi'r Llywodraeth tra'n amddiffyn annibyniaeth y Rhyddfrydwyr fel plaid oedd nod y "Rhyddfrydwyr Swyddogol" o dan arweinyddiaeth Syr Herbert Samuel. Mae'r blaid bresennol yn ddisgynnydd i weddillion grŵp Samuel wnaeth ail-uno a chefnogwyr Lloyd George ar ôl cwta dwy flynedd ar feinciau'r llywodraeth.
Rwyf wedi symleiddio'r hanes ond mae rhaniadau'r tridegau yn cynnig rhyw fath o ffon fesur neu dempled ar gyfer ein cyfnod ni. Gyda pha un o garfannau'r tridegau y byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru'n uniaethu tybed?
Y peth cyntaf i ddweud yw go brin fod 'na'r un "Seimonwr" yn eu plith. Yn wahanol i'r Rhyddfrydwyr yn 1931 mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid gref yn ei rhinwedd ei hun. Go brin fod unrhyw un o'u harweinwyr yn deisyfu am berthynas hirdymor na chytundebau etholiadol gyda'r Ceidwadwyr.
Mae'n debyg bod 'na ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol Cymreig fyddai'n cydymdeimlo a safiad Lloyd George ond yng ngharfan Syr Herbert Samuel fyddai'r rhan fwyaf dybiwn i. Hynny yw, mae'n ymddangos bod y mwyafrif o fewn y blaid Gymreig yn fodlon cefnogi'r trefniant yn San Steffan am y tro ond yn benderfynol o amddiffyn annibyniaeth eu plaid ac yn ddigon parod i gefnu ar y Ceidwadwyr pan ddaw'r amser.
Rhwng nawr ac etholiad cynulliad 2011 fe fydd Llafur a Phlaid Cymru yn gwneud eu gorau glas i bortreadu'r Democratiaid Rhyddfrydol fel cywion bach y Ceidwadwyr. Os nad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol gallu dadbrofi'r cyhuddiad hwnnw mae rhai o'u strategwyr yn ofni y gallai 2011 fod yn flwyddyn dywyll iawn i'r blaid Gymreig.
Mae 'na un peth y gallai'r blaid wneud. Clymblaid yn San Steffan a San Steffan yn unig yw'r un a gytunwyd rhwng David Cameron a Nick Clegg. Dyw'r cytundeb hwnnw ddim yn clymu dwylo'r blaid mewn siambrau eraill. Mae'n ffaith hefyd bod cyfansoddiad ffederal y Democratiaid Rhyddfrydol yn golygu mai mater i'r blaid Gymreig yw unrhyw drefniadau yn y Cynulliad.
Does dim byd i rwystro'r blaid Gymreig rhag cyhoeddi cyn etholiad y Cynulliad na fyddai'n fodlon clymbleidio a'r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd. Fe fyddai cyhoeddiad o'r fath yn dipyn o gambl ond fe fyswn i'n rhyfeddu os nad yw'r blaid o leiaf yn ystyried y peth.
Wedi'r cyfan dwi'n amau mai dyna fyddai Lloyd George yn gwneud!
Diar annwyl! Ydy Glyn wedi ei gau i lawr gan y chwipiaid? Mae rhoi'r gorau i flogio yn un peth. Mae dileu'r cyfan yn Stalinaidd!
Yn ail, fe gollodd pawb y stori fawr heddiw.
Fe ddigwyddodd un o weithredoedd olaf llywodraeth Gordon Brown mewn cyfarfod o'r Uwch Gyngor yn Llundain. Mae'r Mesur cig coch bellach yn gyfraith gwlad!
Fe fydd y blogio'n ysgafn yfory. Rwy'n teithio i Fanc y Felin (un Westminster nid y llall) ar gyfer rhifyn arbennig o CF99 a na, does 'na ddim bwriad i ail-enwi'r rhaglen yn "WC1" am y noson!
ON: Mae'n ymddangos mai mudo mae blog Glyn nid cau. Dyma'r cyfeiriad newydd https://glyndavies.blogspot.com. Does dim byd yno ar hyn o bryd. Rwy'n gobeithio ei fod yn bwriadu cynnwys archif ei hen flog.
Fe wnes i son yn gynharach am ba mor isel eu hysbryd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yma yn y bae ond beth am y pleidiau eraill?
Ar hyn o bryd mae Llafur fwy neu lai cyfaddef bod y gêm yn San Steffan ar ben. Wrth i fagiau ymddangos y tu fas i ddrws cefn rhif deg fe fyddai rhyw un yn disgwyl i Lafur y Cynulliad fod yn ddigalon braidd.
Dim o gwbl. Anghofiwch yr holl siarad ynghylch cael "perthynas adeiladol" a phwy bynnag sy'n llywodraethu yn San Steffan. Mae pleidiau'r llywodraeth yn paratoi am ryfel os ydy David Cameron yn rhif deg.
O fewn dyddiau disgwylir i Lywodraeth Cymru herio Llywodraeth y Deyrnas Unedig trwy ail-gyflwyno'r LCO tai gan fynnu bod San Steffan yn derbyn y gorchymyn yn ei gyfanrwydd fel prawf o ewyllys da. Gallai hynny roi'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn sefyllfa anodd a dweud yw lleiaf.
Rhagflas o'r hyn sydd i ddod rhwng nawr a'r refferendwm ar gynyddu pwerau'r cynulliad yw hynny ac mae Llafur a Phlaid Cymru eisoes yn ail-feddwl eu tactegau ynghylch y bleidlais honno.
Yn ogystal â'r "ymgyrch Ie" amlbleidiol swyddogol mae 'na son y gallai'r pleidiau ei hun ymgyrchu gan ddylunio'r bleidlais fel rhan o frwydr ehangach yn erbyn y Torïaid.
Ar y llaw arall mae'n gamgymeriad credu bod Llafur a Phlaid Cymru'n rhannu'r un caniedydd. Maen nhw'n cyfeirio ambell i glatsied at ei gilydd hefyd.
Cymerwch y sylw yma gan un o bobol Plaid Cymru "y tro nesaf mae Peter Hain yn addo gwneud popeth posib i rwystro'r Ceidwadwyr, gadewch i ni gofio mai Llafur wnaeth golapsio clymblaid y chwith nid y Democratiaid Rhyddfrydol".
Mae o leiaf un o hen bennau Llafur San Steffan yn deall y perygl. Fe ofynnodd y cwestiwn yma. "Os ydyn ni'n ymosod yn chwyrn ar Cameron flwyddyn nesaf sut mae ateb y cwestiwn pan na wnaethoch chi ei rwystro pan oedd gennych chi'r cyfle?"
O safbwynt y Ceidwadwyr fe fydd 'na ochneidiai o ryddhad os ydy David Cameron yn cyrraedd Downing Street o'r diwedd. Serch hynny maen nhw'n gwybod y gallai penderfyniadau yn San Steffan olygu bod etholiad 2011 yn dalcen caled iawn i'r blaid.
Rwy'n sicr eich bod chi'n gyfarwydd â'r siom fore Nadolig hynny sy'n dod i ran pob plentyn. Faint o weithiau tybed wnaethoch chi dderbyn anrheg yr oeddech yn deisyfu amdani ac yna canfod nad oedd hi hanner mor gyffrous â'r disgwyl?
Doedd y roced ffantastig yna o'r hysbyseb teledu ddim mewn gwirionedd yn gallu cyrraedd y lleuad a doedd gwisgo gwisg Spiderman ddim yn golygu eich bod yn gallu taflu gwe o'ch arddyrnau.
Ers blynyddoedd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi breuddwydio am gael Dungeons & Dragons senedd grog a'r dylanwad y byddai senedd o'r fath yn ei roi i'r drydedd blaid. A barnu o ymarweddiad eu cynrychiolwyr yn y bae mae'n ymddangos nad yw'r tegan o'i gael yn plesio. Yn wir, teg yw amau y byddai ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol yn hapusach yn derbyn siwmper newydd gan Nain na'r rhodd etholiadol sydd wedi glanio yn eu colau!
Wrth gwrs mae'n bosib nad y sefyllfa wleidyddol sy'n poeni'r Democratiaid Rhyddfrydol ond galar ar ôl colli Lembit. Fe gadwodd Kirsty Williams wyneb syth pan ofynnwyd iddi heddiw a oedd hi'n gobeithio y byddai Lembit yn ceisio adennill Maldwyn. Roedd hynny'n fater i'r blaid leol meddai.
Teg yw dweud nad Lembit yn disgwyl colli ac nac oedd Glyn Davies yn disgwyl ennill. Beth yw'r esboniad felly? Beth am droi at golofn Lembit yn y Daily Sbort a gyhoeddwyd ar drothwy'r etholiad? Efallai y cawn ganfod rhywbeth.
"If you miss out on voting because you were too busy ogling pictures of Gemma Massey, you've no right to complain afterwards about who wins. So look after your ballots, and they'll look after you"
Efallai nad oedd Lembit yn sylweddoli maint cariad pobol Maldwyn tuag at y "Massey" heb son am y Ffergi bach!
Dewch ymlaen, mae'r pennawd yna'n haeddu seren arian o leiaf!
Pa bynnag llywodraeth sy'n cael ei ffurfio mae'n debyg y bydd cyflwyno cyfundrefn bleidleisio AV neu refferendwm ynghylch hynny'n rhan o'r cytundeb. Mae'n werth cymryd hoe felly er mwyn cymryd cipolwg ar y ffordd y mae'r bleidlais amgen yn gweithio a'r effaith y byddai'n debyg o gael yn etholiadol.
Mae'r mecanwaith yn ddigon syml. Fe fyddai aelodau seneddol o hyd yn cael eu hethol fesul etholaeth ond yn lle gosod croes wrth ymyl enw un ymgeisydd yn unig disgwylir i etholwyr restri ei dewisiadau trwy nodi 1 am y dewis cyntaf, 2 am yr ail ayb.
Wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfri os nad yw unrhyw ymgeisydd wedi ennill 50% o'r bleidlais mae dewisiadau'r ymgeiswyr lleiaf llwyddiannus yn cael ei ail-ddidoli yn unol â dewisiadau eu cefnogwyr. Yr ymgeisydd cyntaf i gyrraedd y trothwy o 50% yw'r ennillydd.
Mae 'na ambell i fersiwn arall o'r system. Wrth ethol maer Llundain, er enghraifft, dim ond y dewis cyntaf a'r ail-ddewis sy'n cyfri ac mewn ambell i wlad yr ymgeisydd aflwyddiannus nid ei bleidleiswyr sy'n ail-gyfeirio'r pleidleisiau ond nid y rheiny sydd dan sylw yn San Steffan.
Nawr y peth cyntaf i nodi am y bleidlais amgen yw nad yw hi o reidrwydd yn cynhyrchu canlyniad cyfrannol. Cymerwch Gymanwlad Awstralia fel enghraifft. Mae siambr uchaf y wlad honno, y Senedd, yn cael ei hethol trwy system gyfrannol. Ar hyn o bryd mae chwe phlaid yn cael eu cynrychioli yno ac anaml iawn y mae unrhyw blaid a mwyafrif.
Mae'r siambr isaf, TÅ·'r Cynrychiolwyr, ar y llaw arall yn cael ei hethol trwy ddefnyddio'r bleidlais amgen. Tair plaid yn unig sy'n cael eu cynrychioli yno ac mae dwy o'r rheiny mewn clymblaid barhaol. Yn Awstralia felly mae'r system amgen wedi gwneud hi'n anodd i bleidiau llai gwneud marc.
Mae'n bwysig peidio darllen gormod mewn i hynny. Pe bai system amgen wedi ei chyflwyno ym Mhrydain yn y pumdegau neu'r chwedegau pan oedd y ddwy blaid fawr ar eu hanterth mae'n debyg y byddai'r gyfundrefn wedi ychwanegu at eu grym. Mae ei chyflwyno mewn cyfundrefn sydd eisoes yn amlbleidiol yn beth gwahanol.
Y canlyniad mwyaf amlwg fyddai cynnydd yn y nifer o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn y senedd. Yn sicr fe fyddai'r blaid honno yn ail ddewis i niferoedd enfawr o gefnogwyr Llafur a'r Ceidwadwyr. Dyna pam y mae'r bleidlais amgen yn wobr mor werthfawr i Nick Clegg a paham y mae cymaint o aelodau Ceidwadol a Llafur yn bryderus yn ei chylch.
Gwers fawr y broses wnaeth arwain at ffurfio'r Glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Bae oedd nad y trefniant mwyaf amlwg o reidrwydd yw'r un sy'n cael ei wireddu ar ddiwedd y dydd.
Rwyf wedi bod yn ceisio osgoi gwneud cymariaethau rhwng 2007 a nawr hyd yma. Mae'r fathemateg a'r personoliaethau yn wahanol ac wrth ffurfio clymblaid neu gyrraedd cytundeb mae nifer y seddi a pherthynas personol darpar bartneriaid a'i gilydd yn cyfri.
Y glymblaid amlwg, yr un yr oedd pawb yn disgwyl ei weld, yn 2007 oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn wir fe gymerodd Rhodri Morgan y peth yn ganiataol i'r fath raddau nes iddo beryglu gafael Llafur ar yr awenau.
Nid y berthynas rhwng Rhodri a'i ddarpar dirprwy Mike German oedd y broblem yn 2007 . Yn hytrach y broblem oedd nad oedd Mike German yn gallu cario ei blaid.
Y gwrthwyneb sy'n wir y tro hwn, dybiwn i. Mae'n weddol sicr y byddai Nick Clegg yn gallu darbwyllo'i blaid i dderbyn clymblaid naill ai a Llafur neu'r Ceidwadwyr. Mae'r berthynas rhwng Gordon Brown a Nick Clegg ar y llaw arall yn ymddangos yn un oeraidd, os ydy hi'n bodoli o gwbl. Wedi'r cyfan mae'n anodd teimlo parch nac agosatrwydd tuag at rywun sydd yn fwriadol gwrthod defnyddio enw iawn eich plaid.
Mae'n arwydd o rywbeth efallai bod Gordon Brown wedi dechrau disgrifio plaid Nick Clegg fel y "Liberal Democrats" yn hytrach na'r "Liberal Party" yn ystod y dyddiau diwethaf!
Presenoldeb ac amhoblogrwydd Gordon Brown oedd un rhwystr i gytundeb â Llafur felly ac mae Brown ei hun wedi mynd peth ffordd tuag at ddatrys hynny.
Mae hynny'n gadael y fathemateg. Fe fyddai angen cefnogaeth y Cenedlaetholwyr o bryd i gilydd er mwyn cynnal llywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur.
Does dim amheuaeth gen i y byddai'r gefnogaeth yna ar gael, ar y dechrau o leiaf. Mae pryderon ynghylch effaith cytundebau yn San Steffan ar etholiadau 2011 yn poeni Plaid Cymru a'r SNP cymaint â'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y ddwy wlad.
Beth bynnag mae Elfyn Llwyd yn dweud, mae arweinwyr Plaid Cymru yn amau'n fawr y byddai dymchwel llywodraeth o dan arweinyddiaeth y blaid Lafur yn San Steffan yn arwain at drychineb etholiadol yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwnnw mae'n werth cofio mai aelodau seneddol Plaid Cymru oedd yr unig rai y tu hwnt i Lafur wnaeth aros yn deyrngar i Jim Callaghan tan y diwedd.
Nawr, mae'n debyg bod 'na sawl tro trwstan i ddod yn y stori yma ac mae'n ddigon posib mai David Cameron fydd yn rhif deg ar ei diwedd.
Ar y llaw arall gellir maddau i newyddiadurwyr Cymreig am deimlo rhyw faint o 'schadenfreude' wrth wylio'n cyfeillion yn San Steffan yn crafu eu pennau wrth ddarganfod pa mor gymhleth ac amhosib eu proffwydo yw sefyllfaoedd fel hyn.
Dyma i chi ddyfyniad o'r Daily Mail.
"There was utter disbelief in Westminster at the development, which means that - four days after the election - there is even more confusion about who could become the next Prime Minister."
Mae trigolion swigen San Steffan ond yn dechrau dysgu! Betia i y bydd 'na gyfarfod yn allweddol yn Llandrindod ymhen rhai wythnosau! Tynnu coes yw dweud hynny. Efallai.
Mae heddiw yn ddiwrnod lle mae gwleidyddion a newyddiadurwyr gwleidyddol yn dal eu hanadl. Does gen i ddim byd mawr i ddweud ond rwyf am ddweud pwt bach ynghylch un ystadegyn sydd yn cael tipyn i sylw.
Fe gynhyrchwyd yr ystadegyn gan ein cyfeillion Rallings a Thrasher ac mae'n gyfan gwbl gywir. Mae'r ddau yn nodi y byddai gan y Ceidwadwyr fwyafrif yn NhÅ·'r Cyffredin pe bai 16,000 o bobol mewn 19 etholaeth wedi pleidleisio'n wahanol. Mae casgliadau'r ddau wedi derbyn gryn sylw yn y ac ar sy'n eu defnyddio fel arwydd bod y Ceidwadwyr wedi ennill buddugoliaeth foesol.
Yr ymateb cywir, yn fy marn i, i ystadegau o'r fath yw "a'ch pwynt yw?"
O dan system gyntaf i'r felin mae ystadegau fel yr un yma yn anorfod mewn etholiad agos.
Yn 1992, er enghraifft fe enillodd John Major a mwyafrif o 21 sedd. Dydw i ddim yn cofio'r union nifer ond fe fyddai ychydig filoedd o bleidleisiau gwahanol mewn un ar ddeg sedd wedi golygu senedd grog.
Yn yr un modd, yn yr etholiad yma rwy'n sicr y byddai'n bosib cynhyrchu ystadegyn yn dangos y byddai ychydig ddegau o filoedd o bleidleisiau yn y mannau cywir wedi golygu mai Llafur ac nid y Ceidwadwyr fyddai'r blaid fwyaf.
Y pwynt sylfaenol yw bod 'na elfen o hap a damwain a lwc ac anlwc yn ein system etholiadol ac ar ddiwedd y dydd ennill yw ennill a cholli yw colli.
Gofynnwch i Jonathan Evans am hynny. Ef yw'r gwleidydd Prydeinig sydd wedi gorfod wynebu ail-gyfri'r pleidleisiau'n yn fwy aml na neb arall. Fe wnaeth e ennill a cholli o drwch blewyn ym Mrycheiniog a Maesyfed ac yna gorfod goddef ail-gyfri yng Ngogledd Caerdydd y tro hwn.
Fe ddywedodd Jonathan yn ei araith yng nghyfri Gogledd Caerdydd fod y ffordd y mae ymgeisydd neu blaid yn colli yn gymaint o fesur o'u cymeriad ac yw'r ffordd y maen nhw'n dathlu buddugoliaeth. Mae'n amlwg bod Jonathan yn nabod ei Rudyard Kipling ac wedi ei drwytho yn athroniaeth "IF...", ond mae'n bwynt digon teg.
Mae gan y Ceidwadwyr le i gwyno am degwch y gyfundrefn etholiadol bresennol heb orfod dadlau dros system gyfrannol. Mae'r gwahaniaeth rhwng nifer yr etholwyr yn etholaethau Cymru a rhai Lloegr yn un enghraifft o hynny. Yn ogystal â'r ddadl ynghylch cynrychiolaeth gyfrannol felly, mae 'na ddadl i'w chael ynghylch ffyrdd o sicrhau bod y system gyntaf i'r felin yn gweithio'n well.
Ar ôl dweud hynny dyw ystadegyn fel un Rallings a Thrasher a breuddwydion ynghylch yr "oni bai" ddim mewn gwirionedd yn cyfrannu at y ddadl honno.
Ydy hi'n rhy gynnar i feddwl am yr etholiad nesaf? Nac ydy, dyw hi byth yn rhy gynnar i wneud hynny!
Mae'n bosib wrth gwrs mai ail Etholiad Cyffredinol fydd yr ornest nesaf. Hyd yn oed os nad yw hynny'n digwydd fe fydd digwyddiadau yn San Steffan yn sicr o gael effaith ar etholiad Cynulliad 2011. Yr etholiad hwnnw yw testun y post yma. Mae 'na ambell i beth i nodi ynghylch ras flwyddyn nesaf yn sgil canlyniadau fore Gwener a'r ffaith ryfedd yw eu bod nhw i gyd yn newyddion drwg i Lafur!
Nawr, efallai ei bod hi'n ymddangos braidd yn droedig i mi ddweud bod etholiad lle wnaeth y blaid Lafur yn well na'r disgwyl yng Nghymru'n argoeli'n wael ar gyfer flwyddyn nesaf ond gadewch i mi gyflwyno'r ddadl cyn i chi dwt lolio!
Fe wna i ddechrau trwy droi'r cloc yn ôl i 2007 ac edrych ar ganlyniadau etholiad y flwyddyn honno. Enillodd Llafur 26 sedd yn yr etholiad hwnnw neu 43% o'r cyfanswm gyda 32.2% o'r bleidlais. Mae'r anghyfartaledd rhwng y canran o seddi a'r canran o'r bleidlais yn deillio o natur system etholiadol y Cynulliad, cyfundrefn sydd ond yn rannol gyfrannol.
Yn y bôn y broblem (neu'r fendith os ydych chi'n berson Llafur) yw nad oes 'na ddigon o seddi rhestr yn y rhanbarthau deheuol i ddigolledu'r tair plaid arall am eu methiant i ennill seddi etholaethol. Yn 2007 roedd pob sedd etholaeth ac eithrio Mynwy, Blaenau Gwent a Gogledd a Chanol Caerdydd yn y golofn Lafur ac mae Blaenau Gwent yn debyg o ddychwelyd i Lafur y tro nesaf.
Mae mathemateg y rhestri yn gweithio er lles Llafur yn rhanbarth y Gorllewin a'r Canolbarth yn barod. Fe fyddai'r un peth yn digwydd yn y Gogledd i ryw raddau pe bai'r hwch yn mynd trwy'r siop. Yr unig ffordd mewn gwirionedd i'r blaid ennill lai na 24-25 sedd yn y Cynulliad yw trwy golli seddi etholaethol yn rhanbarthau'r De, lle na fyddai'r rhestri yn digolledu'r blaid. Ar sail canlyniadau fore Gwener gallai'r union beth hynny ddigwydd.
Fe fydd y Ceidwadwyr yn weddol hyderus ynghylch Bro Morgannwg flwyddyn nesaf ac yn llygadu ambell i sedd arall megis Gorllewin Caerdydd a Gŵyr. Mae'n sicr y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn awchu am ail gyfle i ennill Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd ac yn meddwl o ddifri am gipio Pontypridd a Merthyr. Dyw Castell Nedd ddim tu hwnt i gyrraedd Plaid Cymru a dyw sioc yn rhywle fel Cwm Cynon neu Gaerffili ddim yn amhosib.
Fe fyddai colli'r seddi hynny neu rai ohonyn nhw yn "golledion go iawn" i Lafur o safbwynt y niferoedd yn y Bae. O dan y fath amgylchiadau dyw hi ddim yn amhosib i nifer yr aelodau Llafur yn y Bae ostwng i ryw ugain.
Mae hi'r un mor bosib, wrth gwrs, y gallai amgylchiadau gwleidyddol ehangach olygu bod Llafur wedi adennill ei phoblogrwydd erbyn Mai 2011 ac yn gallu anelu am fwyafrif.
Y cyfan dwi'n dweud yw hyn. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos y gallai etholiad 2011 fod yn fwy agored nac unrhyw un o etholiadau blaenorol y Cynulliad.
Ar wahân i'r ffaith bod y bleidlais Lafur yn hanesyddol o isel does dim llawer o sylw wedi ei roi i ganrannau'r pleidleisiau yng Nghymru yn yr etholiad. Dyma nhw;
Ar ôl ychwanegu cefnogwyr y pleidiau llai, 68% oedd cyfanswm pleidiau'r chwith yng Nghymru a 30% oedd cyfanswm pleidiau'r dde. Yn yr Alban pleidleisiodd 83% dros bleidiau'r chwith a 17.5% dros bleidiau'r dde. Yn Lloegr 53.3% oedd cyfanswm y chwith a 44.5% oedd cyfanswm y dde.
Nawr, fe fyddai rhai (gan gynnwys nifer sylweddol wnaeth bleidleisio iddi, dybiwn i) yn dweud mai plaid y canol ac nid rhan o'r chwith yw'r Democratiaid Rhyddfrydol. Nid fel 'na mae'r blaid yn gweld ei hun a does dim dwywaith mai perthyn i'r chwith y mae'r gwerthoedd sylfaenol sy'n cael ei amlinellu yn y i'w chyfansoddiad.
Gallai hynny fod o bwys wrth i bobol drafod clymbleidiau yn ystod y dyddiau nesaf ond nid dyna yw pwynt y post yma. Y gwahaniaeth rhwng y gwledydd sydd gen i dan sylw gan ymhelaethu rhyw faint ar y sylwadau yn y post "twll a chornel".
Y pwynt cyntaf i wneud wrth reswm yw nad gwlad gadarn ei Cheidwadaeth yw Lloegr. Ar ôl dweud hynny mae'n amlwg bod ei gwleidyddiaeth ym mhellach i'r dde na gwleidyddiaeth y ddwy wlad Geltaidd.
Gellir cynnig sawl esboniad am hynny. Mae traddodiadau teuluol, undebaeth, crefydd, iaith a hanes i gyd yn y mics yn rhywle ond yn aml y ffactorau pwysicaf yw'r ffactorau mwyaf amlwg. Yn yr achos hwn tlodi a maint y sector gyhoeddus yw'r rheiny.
Mae'n talu weithiau i weld ein hun fel mae eraill yn ein gweld. Yn ystod yr ymgyrch bu newyddiadurwr o Awstralia o'r enw Guy Rundle yn teithio o gwmpas Prydain yn ysgrifennu am ei argraffiadau. Mae ei erthygl am Gymru yn . Mae'n werth ei darllen yn ei chyfanrwydd ond dyma flas ohoni;
"So to step out of Swansea station on a wet Monday night was to enter a wreck, a mausoleum, a natural disaster with the occasional functioning fried chicken shop scattered here and there. Down one street, there seemed nothing but a dour Chinese restaurant, and a pet food store called, with great accuracy, The Dog Food Shop. Down another there were three closed-up pubs. Things had to be bad if pubs were closing, in Wales. "
Mae pwynt sylfaenol Guy Rundle yn un syml. Y tu ôl i'r sglein Bae Caerdydd-aidd mae Cymru'n gythreulig o dlawd. Yn ei eiriau fe;
"Look, Wales is lovely in many of its parts. The rest of it was hit hard by the Luftwaffe, never really recovered, and was then whacked a second time by the Tory years.
Labour pumped some money in, but never enough to deal with the key problem, which is that of dependency and underdevelopment, the ribbon of communities spreading out beyond Cardiff all formed around a product that no longer exists, the black stuff, the slag, coal."
Mae 'na ambell i ffaith anghywir a beirniadaeth annheg yn yr erthygl ond mae'n anodd iawn anghytuno a'r pwynt sylfaenol. Mae gwleidyddiaeth Cymru yn adlewyrchu ei heconomi a than i'r economi newid cyfyngedig fydd y nifer o etholwyr sy'n cefnogi pleidiau'r dde.
Am y rheswm hynny mae nifer o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn torri eu boliau mewn pryder ynghylch effaith cytundeb a'r Ceidwadwyr yn San Steffan ar etholiad nesa'r cynulliad.
Edrychwch ar y niferoedd wnaeth bleidleisio i'r blaid ym Merthyr a Phontypridd a meddyliwch am effaith gwneud dêl a'r Ceidwadwyr ar y pleidleiswyr hynny. Meddyliwch hefyd am bobol fel Kirsty Williams a Peter Black yn gorfod eistedd yn y Cynulliad a gwrando ar bobol Llafur a Phlaid Cymru yn rhygnu ymlaen ynghylch "pleidiau'r dde", "toriadau Cameron a Clegg" a "gweision bach y Ceidwadwyr".
Efallai bod Kirsty wedi bod ar y ffon neu wedi paratoi'r lein yn barod. Dyma hi;
Mae canfyddiad yn bopeth mewn gwleidyddiaeth ac yn amlach na pheidio mae canfyddiadau yn seiliedig ar ddisgwyliadau. Os ydy plaid yn gwneud yn well na'r disgwyl mewn etholiad bernir ei bod wedi cael 'etholiad da' os ydy hi'n methu cwrdd â'r disgwyliadau, gwae hi!
Y Tori o Gasnewydd Kenneth Baker oedd meistr y gêm ddisgwyliadau. Mae sawl hen law gwleidyddol yn cofio hyd heddiw y ffordd y gwnaeth e lwyddo un tro yn yr wythdegau i argyhoeddi pawb mai'r unig etholiadau lleol oedd yn cyfri oedd y rheiny yn Wandsworth a Westminster.
Eleni fe wnaeth dwy blaid gam-chwarae'r gêm. Go brin y gellir beio'r Democratiaid Rhyddfrydol am hynny. Wedi'r cyfan doedd disgwyliadau'r blaid ynghylch ei pherfformiad ddim yn wahanol iawn i ddisgwyliadau pawb arall. Nid y blaid wnaeth greu'r 'heip' er ei bod yn ddigon parod i loddesta arni.
Ar y llaw arall fe wna i'ch atgoffa o'r hyn ddwedais i rai dyddiau yn ôl;
"Mae'r ffin rhwng hyder, sy'n llesol i blaid, a "hubris", sy'n gallu bod yn ddamniol, yn aneglur weithiau... A fydd honiadau Nick Clegg yn ymddangos yr un mor chwerthinllyd â honiadau'r Cynghrair ynghylch 'torri mold gwleidyddiaeth Prydain'?"
Rwyf wedi bod yn anghywir ynghylch sawl peth yn yr etholiad yma ond roeddwn i'n iawn i ofyn y cwestiwn yna ac mae wedi ei ateb bellach.
Mân bethau oedd camgymeriadau'r Democratiaid Rhyddfrydol o gymharu â'r smonach lwyr wnaeth Plaid Cymru o'r gêm ddisgwyliadau.
Fe ddywedais i ddoe bod canlyniad yr etholiad yng Nghymru yn un gweddol arferol ac mae Plaid Cymru wedi bod yn ddigon bodlon gyda thair sedd ac oddeutu deuddeg y cant o'r bleidlais mewn sawl etholiad yn y gorffennol.
Roedd Ceredigion yn drychineb i'r Blaid a Môn ac Aberconwy yn ganlyniadau siomedig ond fe fyddai hi wedi bod yn bosib sbinio'r etholiad fel un llwyddiannus pe na bai'r blaid wedi codi disgwyliadau. Roedd canlyniadau Llanelli, Dwyrain Caerfyrddin ac ambell i sedd yn y cymoedd yn ddigon addawol ac yn rhoi modd i'r blaid bortreadu'r etholiad fel llwyddiant. Anodd oedd gwneud hynny ar ôl addo cymaint.
Yr enghraifft orau o'r pwynt yma yw etholaeth newydd Arfon.
Fel ym mhob etholaeth arall sydd â ffiniau newydd fe luniodd yr academyddion Rallings a Thresher amcangyfrif o beth fyddai'r canlyniad yn yr etholiadau diwethaf. Rhain yw'r 'notional results' sy'n cael eu defnyddio gan newyddiadurwyr.
Yn achos Arfon fe wnaeth Rallings a Thresher farnu y byddai Plaid Cymru wedi ennill y sedd yn hawdd yn etholiad cynulliad 2003 ac y byddai Llafur wedi ei hennill o drwch blewyn yn etholiad seneddol 2005.
Fe brofodd etholiad cynulliad 2007 bod amcangyfrif 2003 yn weddol gywir gan fod canlyniad go-iawn Arfon yn dangos gogwydd bychan i Blaid Cymru, un oedd yn debyg iawn i'r rhai a welwyd mewn seddi cyfagos.
Yn lle derbyn bod Rallings a Thresher yn llygaid eu lle fe wnaeth rhai o fewn Plaid Cymru fôr a mynydd ynghylch yr amcangyfrif seneddol gan gyhuddo'r academyddion a'r cyfryngau o ragfarn, camgymeriadau ystadegol a phob math o bechodau eraill.
Oherwydd hynny doedd dim modd ar ôl yr etholiad i'r blaid hawlio clod na brolio ynghylch canlyniad Arfon.
Mae 'na un peth sy'n gwneud i'r cwynion ymddangos hyd yn oed yn fwy gwirion.
Un o gwynion y beirniaid oedd bod llunio amcangyfrif yn Arfon yn hynod o anodd oherwydd y nifer o ymgeiswyr annibynnol mewn etholiadau lleol a'r ffaith nad oedd pob plaid yn sefyll ym mhob ward yn yr etholiadau hynny.
Chi'n gwybod beth? Roedd y beirniaid yn iawn.
Am y rheswm hynny fe fu'n rhaid i Rallings a Thresher chwilio'n ddyfal am ystadegau eraill fel sail i'w hamcangyfrif. Fe wnaethon nhw ganfod rhai hefyd. Beth oedd yr ystadegau hynny? Arolygon barn a chanlyniadau canfasio Plaid Cymru!
Nawr mae pobol TÅ· Gwynfor yn gwybod a deall hyn oll ac maen nhw'n rhoi'r bai am godi disgwyliadau ar aelodau ar lawr gwlad. Efallai, ond a wnaed unrhyw ymdrech i'w ffrwyno?
Mae'r ffilm fach yma'n gwneud y pwynt mewn modd ddylai apelio at genedlaetholwyr!
Ymddiheuriadau eto bod y blogio wedi mynd braidd yn drech na mi yn ystod y dydd heddiw. Ar ôl llwyddo i flogio'n llwyddiannus yn ystod etholiad 2007 roeddwn yn hyderus y gallwn i wneud yr un peth y tro hwn. Yn y diwedd fe aeth y llif aruthrol o ganlyniadau a newyddion yn drech na mi.
Fel yn yr etholiad ei hun fe brofodd y teledu yn drech na'r we! Dyna fy esgus i, o leiaf!
Mae 'na ddigon gen i ddweud am y canlyniadau a'r hyn sy'n debyg o ddigwydd nesaf ond mae un peth am y canlyniadau Cymreig sy'n hynod ddiddorol i mi.
Er bod Llafur wedi ennill ei siâr isaf o'r bleidlais mewn etholiad cyffredinol ers 1918. Mae'r canlyniad o safbwynt seddi yn un ddigon tebyg i ganlyniadau etholiadau cyffredinol eraill yng Nghymru yn y degawdau ers i Blaid Cymru sicrhau cynrychiolaeth seneddol yn Chwefror 1974. Gyda Llafur ar y blaen yn gysurus, y Torïaid yn ail a Phlaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr mwy neu lai yn gydradd go brin y gellir galw'r etholiad yn un hanesyddol neu hyd yn oed yn un anarferol.
Beth sydd yn anarferol yw'r gagendor rhwng yn hyn ddigwyddodd yng Nghymru a'r hyn ddigwyddodd yn Lloegr. Mae'n werth bod yn eglur yn fan hyn. Pe bai Ceidwadwyr Cymru wedi perfformio yn unol â'u disgwyliadau fe fyddai hi'n gwbwl amhosib i Lafur hyd yn oed ystyried ffurfio llywodraeth.
Yn y cydestun hwnnw mae'n werth cymryd cipolwg ar ganlyniadau Lloegr.
Ceidwadwyr 297
Llafur 191
Dem. Rhydd. 43
Gwyrdd 1
Hwn yw'r tro cyntaf ers datganoli i'r Ceidwadwyr ennill mwyafrif o seddi Lloegr a hynny'n fwyafrif o dros gant.
Mae hynny'n codi cwestiynau cyfansoddiadol dyrys i bob un o'r pleidiau Prydeinig ond yn fwyaf arbennig ar hyn o bryd i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Beth fyddai ymateb trigolion Lloegr pe bai'r blaid yn cynnal Prif Weinidog Llafur yn groes i ewyllys etholwyr y wlad honno?
Ar y llaw arall beth fyddai ymateb pobol Cymru, a hyd yn oed yn fwy'r Albanwyr, pe bai Nick Clegg yn rhoi allweddu rhif deg i David Cameron?
Gwellir dadlau bod y Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn y sedd yrru ar hyn o bryd. Mae'n bosib dadau hefyd eu bod nhw mewn tipyn o gornel.
Mae'n werth cofio bod yr ymdrechion i sefydlu llywodraeth yr "enfys" yn y cynulliad wedi methu oherwydd gwrthwynebiad rhai o'r Democratiaid Rhyddfrydol i gydweithio a Cheidwadwyr y cynulliad. Yn eu plith roedd Kirsty Williams sydd nawr yn arwain y blaid Gymreig.
Beth fyddai ei ymateb hi i ddel a'r Torïaid yn San Steffan- yn enwedig o gofio yr effaith tebygol ar gefnogaeth y blaid yn ei seddi targed yn 2011?
5.30; Yddiheuriadau aeth y cynlluniau blogio byw yn rhemp braidd! Fe wan i ysgrifennu rhywbeth call pan ca'i gyfle.
01.40 Canlyniadau Cymru'n dod yn gyflym nawr... dihangfa i lafur yn fan hyn...beth fydd y patrwm yn Lloegr?
01.30 Maldwyn a Gorllewin Caerfyrddin yn agos
01.15 Llafur yn hyderus yn Llanelli
01.07 Llafur am gadw Dyffryn Clwyd
01.05 Llafur yn hyderus yng Ngorllewin Caerdydd a Gorllewin Casnewydd Mae heno'n noson da iawn iawn i Llafur Cymru... neu felly mae'n ymddangos
00.45 Maldwyn yn agos medd y Ceidwadwyr
00.40 Suzy Davies yn cyfaddef nad yw hi wedi ennill B+M
00.25 Julie Morgan ddim am ildio eto yng Ngogledd Caerdydd ond yn cyfaddef nad yw'n edrych yn addawol.
00.20 Llafur yn credu ei bod wedi cadw Wrecsam
0016; Mwy o sibrydion Pethau'n agos yn Arfon...Llafur am gadw De Clwyd PC yn disgwyl i'r Democratiaid Rhyddfrydol gynyddu mwyafrif yng Ngheredigion
0.15; Sibrydion bod Llafur wedi ail-gipio Blaenau Gwent
23.55 Os ydych chi'n pendroni pam y mae pethau mor araf rheolau newydd ynghylch y bleidlais bost sy'n gyfrifol. Fe fydd y llifddorau'n torri am 1.00!
23.45 Golwg 360 yn awgrymmu bod Ceredigion yn addawol i Blaid Cymru
23.33 Llanelli yn agos iawn medd Nia Griffith
23.15 Llafur yn hyderus bod Albert Owen wedi cadw ei sedd
23.07; Gogwydd o 7% i'r Toriaid yn Lloegr ...mae Dicw a finnau o hyd yn amheus
23.05 Arolwg y darlledwyr yn agwrymmu gogwydd I Lafur yng Nghyrmu a'r Alban!!!
2230 Sibrwd bod Wrecsam yn ras agos tair ffordd
2215 Richard Wyn a finnau'n amheus iawn ynghylch y canlyniad.
10.00
Ceidwadwyr 307
Llafur 255
Dem Rhydd 59
Eraill 29
Dyna broffwydoliaeth y ³ÉÈËÂÛ̳ felly. Yn 2005 roedd yr arolwg yn gwbl gywir o safbwynt maint y mwyafrif Llafur er ychydig ar gyfeiliorn ynghylch nifer seddi'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Does dim sicrwydd y bydd yr arolwg yn un mor gywir y tro hwn. Mae 'na adrefnu ffiniau wedi bod a gallai ffactorau lleol megis treuliau seneddol y cyn aelod lleol fod yn ffactor.
Ar ben hynny mae 'na deimlad cyffredinol bod hwn yn etholiad od. Dyma i chi enghraifft. Y prynhawn yma roeddwn i yn Radur, un o faes-drefi mwyaf cefnog Caerdydd. Prin oedd y posteri Ceidwadol ond llwyth o rai Llafur. Yr ochor draw i'r mynydd yng ngwm Aber yn etholaeth Caerffili dim ond un poster Llafur oedd i weld o gymharu â bron i gant o rai Plaid Cymru. Nawr mae'r arolwg yn lot fwy gwyddonol na chyfri posteri. Dim ond dweud ydw i bod 'na olygfeydd rhyfedd o gwmpas y lle yn yr etholiad hwn.
Gan fod y blog yma'n rhan o wefan y ³ÉÈËÂÛ̳ nid oes modd cyhoeddi sylwadau cyn 10 o'r gloch heno.
Mae 'na noson fawr i ddod! Rwy'n edrych ymlaen. Cawn siarad heno. Fe fydd y blogio byw yn cychwyn yr eiliad mae'r gorsafoedd pleidleisio yn cau.
Un gair bach olaf. Er yr holl helynt ynghylch treuliau rwy'n digwydd credu bod y mwyafrif llethol o'r bobol sy'n sefyll yfory yn bobl didwyll a nobl. Diolch i bob un ohonyn nhw am eu hymroddiad.
Mae'n bryd i mi bostio un o'r darnau lob-scows yna heb unrhyw thema arbennig ond gydag ambell i lwyaid flasus, gobeithio. Mae croeso i chi adael y swêds yng ngwaelod y bowlen!
Fe fyddwn yn cau open y mwdwl ar yr ymgyrch yng Nghymru ar CF99 am 10 heno. Nia Griffith o'r Blaid Lafur, Alun Ffred Jones o Blaid Cymru, Myrddin Edwards o'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwr Paul Davies yw'r gwesteion.
Mae'r grŵp allbleidiol 'Cymru Gyntaf' wedi cynnal arolwg diddorol o agweddau ymgeiswyr seneddol tuag at gynyddu pwerau'r cynulliad. Mae'r canlyniadau yn.
Diolch i Roger Scully o adran wleidyddiaeth Aber am fy atgoffa am un ystadegyn pwysig sef 37.5%. Dyna oedd canran Llafur o'r bleidlais Gymreig yn 1983, yr isaf ers etholiad 1918. Fel mae Roger yn dweud "os ydy'r arolwg YouGov diweddaraf yn gywir..."
Mae sawl un wedi crybwyll pa mor drwsiadus oedd Huw Irranca, Dafydd Trystan a Ed Townsend ar ddadl ³ÉÈËÂÛ̳2 ddydd Llun. Ffordd arall o ddweud nad oedd y Ceidwadwr Simon Hoare wedi gwisgo ar gyfer yr achlysur yw hynny! Yn wir yng ngeiriau un gwyliwr roedd yn edrych fe pe bai "wedi benthyg dillad garddio Rhodri Morgan". Er tegwch i Simon mae 'na esboniad. Roedd y Ceidwadwr oedd i fod i ymddangos wedi anghofio popeth am y rhaglen ac fe dderbyniodd Simon alwad ar ei ffon symudol prin chwarter awr cyn y darllediad!
Ac yn olaf fe fyddaf yn blogio'n fyw o Stiwdio Un y ³ÉÈËÂÛ̳ o ddeg o'r gloch nos yfory. Fe fydd Betsan yn gwneud yr un peth o C1 cartref y rhaglen Saesneg. Fel yn 2005 ar ³ÉÈËÂÛ̳1 y bydd y rhaglen Gymreig gyda rhaglen rwydwaith David Dimbleby ar ³ÉÈËÂÛ̳2. Y tro diwethaf fe ddewisodd y rhan fwyaf o wylwyr raglenni o Gaerdydd yn hytrach na Llundain. Sicrhau'r un patrwm yn ystod yr ymgyrch yw'r dasg nesaf!
Mae croeso i unrhyw un sydd yn bwriadu blogio'n fyw (neu drydar) yn Gymraeg dros nos adael sylwadau ar y post yma i adael i bobol wybod.
Fe fydd hi'n noson hir yfory. Gan amlaf mae rhaglenni etholiad ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru yn dirwyn i ben o gwmpas pedwar o'r gloch y bore. Fe'n rhybuddiwyd eisoes y bydd rhaglenni teledu eleni yn para tan 6.00 o leiaf. Hyd yn oed os ydyn nhw'n bennu bryd hynny fe fydd gen i ddyletswyddau ar y Post Cyntaf a Good Morning Wales. Digon i wneud felly, a thipyn o flogio byw ar ben hynny!
Os nad oes 'na ryw symudiad mawr munud olaf rwy'n tybio y bydd hi'n agos at doriad gwawr cyn i ni ddirnad y darlun cyflawn. Mae trefniadau'r arweinwyr heddiw yn awgrymu pa mor anodd i ddarllen yw'r etholiad anhygoel hwn.
Pwy fyddai wedi rhagweld fis yn ôl y byddai Kirsty yn treulio diwrnod ola'r ymgyrch yn Wrecsam neu mai troedio strydoedd Llanelli fyddai Ieuan?
Dydw i ddim yn darllen rhyw lawer mewn i benderfyniad David Cameron i alw mewn ym Maldwyn. Yn y bôn mae ei daith heddiw wedi ei chynllunio er mwyn cynnwys cymaint o ranbarthau teledu ac sy'n bosib. Mae Maldwyn yn siwtio'r "logistics". Ymddangos ar Wales Today, Wales Tonight a Newyddion nid rhoi hwb i Glyn Davies yw'r cymhelliad, dybiwn i.
Mae penderfyniad Peter Hain i ddefnyddio hofrennydd i deithio hyd a lled Cymru yn fwy dadlennol. Mae hofrennydd ar y diwrnod olaf yn gimig sydd mor hen â phechod- neu mor hen â hofrenyddion, o leiaf. Ar y llaw arall mae'n tanlinellu pa mor eang yw'r ffrynt y mae Llafur yn ceisio ei hamddiffyn. Y tu allan i'r cymoedd does 'na ddim un sedd Lafur y gall y blaid fod yn gwbl hyderus yn ei chylch a ni ellir llwyr ddiystyru'r posibilrwydd o ambell i sioc yn y maes glo.
Wrth edrych ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt mae 'na dri ffactor allweddol yn fy marn i.
Y cyntaf yw'r nifer anarferol o uchel o bobol sy'n dweud eu bod yn sicr o bleidleisio ond sydd heb benderfynu eto pwy fydd yn cael eu pleidlais. Teg yw casglu mai pobol wnaeth gefnogi Llafur yn y tri etholiad diwethaf yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw. A fydd y rheiny yn dychwelyd at Lafur neu a fyddant yn penderfynu bod unrhyw newid yn well na dim?
Yr ail ffactor yw pleidleisio tactegol. I ba raddau y bydd hynny'n digwydd ac at ba ddiben, i gadw Cameron mas neu i gael Brown allan?
Y ffactor olaf yw hwn. Does neb yn well ar dargedi etholaethau ac ennill pleidleisiau tactegol na'r Democratiaid Rhyddfrydol. Os ydy'r blaid honno yn llwyddo i gipio seddi Ceidwadol mae'r mynydd etholiadol sy'n wynebu'r Torïaid yn fwy o Gadair Idris nac o Garn Ingli. Pa mor gryf yw'r llanw melyn felly ac i ba gyfeiriad mae'n llifo?
Tri ffactor a thri cwestiwn felly. A'r atebion? Duw yn unig a ŵyr. Yn sicr dydw i ddim!
Cewch chi farnu, neu yng ngeiriau'r bardd cwsg "A Ddarlleno, ystyried".
Rwyf wedi dweud hyd syrffed pa mor anodd yw hi i broffwydo canlyniad yr etholiad yma.
Ar y llaw arall fedra i ddim osgoi rhoi fy mhen ar y bloc yn gyfan gwbwl. Nid proffwydoliaethau sy gen i yn y post yma ond cipolwg bach ar sut mae 'r pleidiau'n gwneud yn eu seddi targed a sut mae eu rhestrau targedau wedi newid yn ystod yr ymgyrch.
Fe wnawn ni gychwyn gyda'r hawsaf sef rhestr dargedau'r blaid Lafur. Dyma hi. Blaenau Gwent. Mae Llafur yn hyderus yno ond dim ond ffŵl fyddai'n proffwydo'r canlyniad.
Digon byr yw rhestr dargedau'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd. Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd yw'r targedau- yn y drefn yna.
Mae'n anodd gweld y blaid yn mynd ymhellach na hynny. Cyn i neb feddwl bod hynny'n gynhaeaf digon pitw mae'n werth cofio bod 'na ddarogan ar ddechrau'r ymgyrch y gallai'r blaid golli tair o'u pedair sedd. Fe fyddai cynyddu'r nifer yn dipyn o gamp.
Mae'n debyg mai Ceredigion, Ynys Môn ac yna Llanelli/Aberconwy oedd rhestr dargedau Plaid Cymru ar ddechrau'r ymgyrch. Ynys Môn mae'n debyg yw'r mwyaf enilladwy erbyn hyn. Mae rhai o fewn y blaid hyd yn oed yn darogan bod Llanelli yn well bet na Cheredigion oherwydd y cynnydd cyffredinol yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
O safbwynt Aberconwy mae 'na broblem fawr i'r blaid, dybiwn i. Mae popeth yn awgrymu y bydd y canran sy'n bwrw pleidlais yn anarferol o uchel yn yr etholiad yma gan olygu y byddai'n rhaid i Blaid Cymru ychwanegu'n sylweddol at ei phleidlais Cynulliad er mwyn enill. Mae'n anodd gweld hynny'n digwydd.
Am y rheswm hynny rwy'n gosod Aberconwy yn y dosbarth cyntaf o dargedau Ceidwadol ynghyd a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rwy'n tybio bod seddi Powys mwy neu lai wedi diflannu o'r rhestr dargedau erbyn hyn ond mae gan y Torïaid lwyth o dargedau ail ddosbarth. Mae'r rhain yn seddi lle enillodd Llafur 40-50% o'r bleidlais yn 2005 ac oedd yn agos yn etholiad y Cynulliad, llefydd fel Delyn, Dyffryn Clwyd, Gwyr a Gorllewin Casnewydd. Y canlyniad mwyaf tebygol yw bod y Ceidwadwyr yn ennill rhai ohonyn nhw ac yn boddi wrth y lan mewn eraill.
Pe bawn i'n gorfod pigo un sedd i wylio yn y dosbarth yma Gorllewin Caerdydd yw honno, ac nid oherwydd fy mod yn byw yna! Fe fyddai angen gogwydd enfawr o 11% i'r Ceidwadwyr ei chipio ond mewn taflen hynod anarferol mae Kevin Brennan wedi rhybuddio bod 'na "wir beryg" y bydd Llafur yn colli wrth i'r Ceidwadwyr arllwys adnoddau i mewn i'r sedd. I'r Ceidwadwyr a Llafur mae cartref gwleidyddol Rhodri Morgan yn gymaint o sedd droffi ac yw Ceredigion i'r ddwy blaid arall. Mae'n gythraul o frwydr ac fe allai fod yn hynod agos fore Gwener.
Mae'n ddigon posib bod 'na symudiadau tectonig yn digwydd yn ein gwleidyddiaeth yr wythnos hon. Mae angen mwy na hynny i wneud daeargrynfeydd dan gadarn goncrit y Cynulliad.
Ie, dyma fi yn y Bae eto yn gwrando ar gyfarfod o bwyllgor Ewrop. Dydw i ddim yn meddwl y bydd llawer o bobol eraill yn talu sylw ac efallai bod hynny'n dda o beth i Carwyn Jones ac i Gymru!
Trafod effaith Cronfa Gydgyfeirio'r Undeb Ewropeaidd a chynllun Amcan Un cyn hynny ar y gorllewin a'r cymoedd oedd y pwyllgor. Nid am y tro cyntaf honnodd y gwthbleidiau bod y cynlluniau wedi methu a barnu o ffigyrau GDP a GVA y rhanbarth.
Roedd amddiffyniad Carwyn yn ddiddorol ond, o bosib, yn beryglus. Nid GDP a GVA oedd y modd cywir i fesur ffyniant y rhanbarth yn ôl y Prif Weinidog. Roedd cyfraniad rhywun oedd yn byw yn y cymoedd ond yn gweithio yng Nghaerdydd, er enghraifft yn cyfrannu at GDP a GVA y ddinas yn hytrach na'i fro ei hun.
Nawr mae dadlau nad GDP yw'r ffordd gywir i fesur llwyddiant cynllun a luniwyd yn unswydd i gysoni GDP ar draws yr Undeb braidd yn rhyfedd ond enghraifft Carwyn sy'n canu clychau larwm.
Am ddegawdau doedd Cymru ddim yn derbyn y lefel uchaf o gymorth Ewropeaidd a hynny oherwydd bod y ddau ranbarth economaidd sef y De a'r Gogledd yn uwch na'r trothwy tlodi.
Syniad y diweddar Phil Williams oedd ail-lunio ffiniau'r rhanbarthau economaidd gan gynnwys yr ardaloedd mwyaf tlawd yn y Cymoedd a'r Gorllewin mewn un rhanbarth enfawr. Llywodraeth gyntaf Tony Blair wnaeth lwyddo i argyhoeddi'r Undeb Ewropeaidd i dderbyn y syniad ac mae Cymru wedi derbyn biliynau o bunnau oherwydd hynny.
Mae'n gyfrinach agored bod rhanbarth y gorllewin a'r cymoedd yn greadigaeth artiffisial braidd sydd ond yn bodoli er mwyn cydymffurfio a rheolau cyllido'r Undeb Ewropeaidd.
Fe ddylai'r Prif Weinidog feddwl dwywaith cyn cyfaddef hynny. Mae 'na beryg y gallai'r Undeb Ewropeaidd wrando.
Mae un diwrnod yn llifo i'r nesaf yn ystod ymgyrch etholiad.
Gwnes i ddim sylwi mai Calan Mai oedd dydd Sadwrn a dim ond nawr rwy'n sylweddoli bod heddiw yn ŵyl y banc. Dyw'r rheiny ddim yn bodoli i mi yn ystod ymgyrch! Fel prawf o hynny rwy'n cyd-gadeirio dadl pedair plaid ar ³ÉÈËÂÛ̳2 y prynhawn yma am 2.15. Hon yw'r ail o ddwy ddadl a'r ³ÉÈËÂÛ̳2. Yr economi yw'r thema y tro hwn. Y cyfansoddiad oedd thema'r gyntaf. Gellir gweld honna yn fan hyn.
Yr unig hoe fach i mi gymryd yn ystod y dyddiau diwethaf oedd gwylio Abertawe yn boddi wrth y lan yn y bencampwriaeth. Dydw i ddim yn o feibion y Vetch ond dydw i ddim yn un o gefnogwyr cibddall Caerdydd chwaith. Roeddwn i'n gobeithio gweld y ddau dîm yn cyrraedd gemau'r ail gyfle ac ar ôl profiadau'r adar gleision y llynedd rwy'n gallu deall pa mor sâl i'w stumogau y mae cefnogwyr y Swans.
Ofni profiad tebyg o syrthio wrth y naid olaf mae'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd dybiwn i. Croesi bysedd a gobeithio am y gorau mae'r ddwy blaid arall.
Dyma gyfnod pan mae'r "play book" gwleidyddol i'w gweld ar ei fwyaf amlwg. Yn achos pleidiau sy'n gymharol hyderus edrych yn gwbl hyderus yw'r cyngor arferol. Dyna oedd Nick Clegg yn ceisio gwneud gyda'i honiad ynghylch "ras dau geffyl". Heddiw mae David Cameron wrthi yn y gan gyhoeddi y bydd e'n enwi ei gabinet ddydd Gwener a bod yr aelodau eisoes wedi derbyn rhestr o flaenoriaethau.
Mae'r ffin rhwng hyder, sy'n llesol i blaid, a "hubris", sy'n gallu bod yn ddamniol, yn aneglur weithiau. Amser a ddengys ar ba ochor i'r ffin y mae datganiadau'r ddau arweinydd.
A fydd honiadau Nick Clegg yn ymddangos yr un mor chwerthinllyd â honiadau'r Cynghrair ynghylch "torri mold gwleidyddiaeth Prydain"? A fydd "rhestr flaenoriaethau" David Cameron yn ennyn yr un ymateb a bloeddio Neil Kinnock yn rali Sheffield? Fe gawn weld.
Yn y cyd-destun hwnnw mae'n werth nodi bod y Times, sy'n cefnogi'r Ceidwadwyr, wedi newid y pennawd ar ei dudalen flaen rhwng rhifynnau'r bore 'ma. Yn ôl y "Cameron risks backlash with early talk of victory" oedd y pennawd yn y rhifynnau cynnar. "Cameron outlines plans for first days in power" sydd yn y rhifynnau hwyr.
A beth gall Llafur wneud yn ystod y dyddiau olaf yma? Y dacteg draddodiadol yw codi cythraul o fwgan gan honni mai dim ond hyn a hyn o oriau sydd ar ôl i osgoi trychineb.
"24 hours to save the Union" oedd cri John Major wrth lanio yn ei hofrennydd ar Ynys Môn. "Pedair awr ar hugain i achub y bunt" oedd cri William Hague. A fydd Llafur yn ceisio gwneud rhywbeth tebyg? Efallai.
Cofiwch, gwnaeth y dacteg fawr o les i Major na Hague a hyd y gwelaf i mae'r Undeb a'r bunt yma o hyd.
Rwyf wedi nodi cwpwl o weithiau yn ystod yr ymgyrch ffenomen y mae cyfaill o Dde Awstralia yn galw'n "first time candidate syndrome" sef y duedd i ymgeiswyr sy'n sefyll am y tro cyntaf argyhoeddi eu hun eu bod yn gallu ennill.
Nawr yn ôl pob sôn mae Heledd Fychan wedi cynnal ymgyrch dros Blaid Cymru ym Maldwyn na welwyd ei debyg ers dyddiau Islwyn Ffowc Elis. Hi hefyd yw'r unig ymgeisydd yng Nghymru i mi wybod sydd wedi bod yn vlogio (blogio ar fideo) yn gyson yn ystod yr ymgyrch.
Yn wir mae'r gwrthgyferbyniad rhwng gwefan a'r tawelwch rhyfedd ar safle yn drawiadol. Efallai bod Glyn yn rhy brysur, wedi digalonni neu yn dioddef o'r rheol yna sy'n gwahardd ymgeiswyr Ceidwadol rhag cyhoeddi unrhyw beth ar y we nad yw wedi derbyn sêl bendith y blaid yn ganolog.
Ta beth dyma vlog diweddaraf Heledd. Ynddi mae'n proffwydo y gallai hi ennill Maldwyn.
Nawr, yn wahanol i Heledd, dydw i ddim wedi bod ym Maldwyn yn ystod yr ymgyrch ond mae'r rheiny o'm cydnabod sydd wedi bod yno yn awgrymu bod hi "yn y bag" i Lembit. Gallwn i fod yn anghywir, wrth gwrs, wrth amau bod Heledd yn dioddef o'r syndrom ond mae'n bosib hefyd bod hi wedi ei thwyllo gan gwrteisi a charedigrwydd etholwyr gwledig tuag at ymgeisydd ifanc brwdfrydig.
Dyw'r ffaith bod nifer fawr o bobol yn eich hoffi chi ddim yn golygu o reidrwydd eich bod yn mynd i gael eu pleidleisiau.
6.9% o'r bleidlais wnaeth Plaid Cymru dderbyn ym Maldwyn yn 2005 o gymharu â 51.2% y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Plaid Cymru yn y pedwerydd safle. Yn etholiad cynulliad 2007 roedd Plaid Cymru'n drydydd gyda 13.8% ac roedd cefnogaeth Mick Bates gryn dipyn yn is na chefnogaeth Lembit. 39% oedd siâr y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad hwnnw.
Os ydw i'n defnyddio pob owns o ddychymyg sy gen i gallaf feddwl am sefyllfa lle y gallai Plaid Cymru, mewn storom berffaith, gipio Maldwyn ar lefel y Cynulliad. Ond mewn etholiad cyffredinol... pan mae'r llanw yn rhedeg o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol? Fedra i ddim gweld y peth.
Ar ôl dweud hynny, rwyf wedi bod yn anghywir o'r blaen ac os ydy Heledd yn gwneud yn dda ym Maldwyn fe fydd hi'n haeddu cael cyfle mewn etholaeth neu etholiad lle mae ennill yn obaith mwy realistig.
Dyma ni, Ddydd Sul olaf yr ymgyrch ac fel ym mhob etholiad heddiw yw diwrnod "boddi wrth y lan" yn ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru.
Heddiw fe fyddwn yn cynnal y rihyrsal gyntaf ar gyfer y rhaglen ganlyniadau. Fe wna i ddwy broffwydoliaeth. Yn gyntaf, fe fydd y peth yn siambolic. Yn ail, fe fydd Dewi Llwyd yn cwyno bod y stiwdio'n rhy boeth. Does dim angen becso. Fe fydd hi'n iawn ar y noson, neu felly maen nhw'n dweud.
Heno cynhelir dadl olaf yw arweinwyr Cymreig. Fe'i darlledir ar ³ÉÈËÂÛ̳1 am naw o'r gloch. Rwy'n cymryd rhan yn y fersiwn radio ar Radio Wales sy'n cychwyn am 8.30.
Dwn i ddim faint o ddylanwad y mae'r dadleuon Cymreig yma'n cael. Mae'n llawer llai na'r dadleuon prif weinidogol, heb os. Ar y llaw arall maen nhw yn cael eu darlledu yn yr oriau brig ac ar y prif sianelau. Fe ddylai'r gynulleidfa bod yn fwy nac yw hi i raglenni gwleidyddol Cymreig eraill felly.
Mae hi o hyd yn hynod anodd darogan beth sy'n mynd i ddigwydd nos Iau er bod 'na ambell i arwydd bod pethau'n gwella i'r Ceidwadwyr yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond eisiau edrych yn ôl ydw i heddiw gan geisio canfod camgymeriadau pleidiau'r yn eu strategaethau a'u hymgyrchoedd.
Heb os, camgymeriad mawr y Ceidwadwyr oedd cytuno i gynnal y dadleuon teledu.
Camgymeriad yw meddwl nad yw'r rheiny wedi digwydd o'r blaen oherwydd amharodrwydd Prif Weinidogion i ddisgyn i'r un lefel a'i gwrthwynebwyr. Mae hynny'n wir gan amlaf ond mae'n werth nodi mai Margaret Thatcher, arweinydd yr wrthblaid, nid y Prif Weinidog, Jim Callaghan, wnaeth rwystro'r dadleuon rhag cael eu cynnal yn 1979. A'r rheswm? Roedd hi'n ofni y byddai'r dadleuon yn dyrchafu'r Rhyddfrydwyr i statws cydradd a'r ddwy blaid arall. Tw reit, Magi!
Mae camgymeriad mwyaf Plaid Cymru hefyd yn ymwneud a'r dadleuon, yn fy marn i. Rwy'n deall y teimladau cryfion yn iawn ac yn deall hefyd pam y byddai'r blaid yn cwffio hyd yr eithaf ynghylch y sefyllfa. Ond oedd angen mynd ymlaen cymaint am y peth yn gyhoeddus? Os nad yw'r blaid yn cael chwarae teg ar y cyfryngau onid gwell fyddai defnyddio'r cyfleoedd y mae hi yn eu cael i gyflwyno negeseuon positif?
O safbwynt y Blaid Lafur dydw i ddim yn gwybod ydy hi'n deg i alw "bigotgate" yn gamgymeriad. Hap a damwain oedd hi, o bosib ond yn sicr fe sugnodd yr egni allan o eneidiau nifer o'n nghyfeillion Llafur gydag ambell un yn awgrymu bod rhywbeth felly yn sicr o ddigwydd gyda Gordon Brown yn arwain. Does dim angen chwilio'n galed iawn i ganfod aelodau Llafur sy'n credu y gallasai pethau fod yn wahanol iawn o dan arweinydd arall.
Mae hynny'n dod a ni at y Democratiaid Rhyddfrydol. Ydy'r rheiny wedi gwneud unrhyw gamgymeriadau o gwbl ac eithrio palu gormod yn y bocs gwisgo i fyny?
Rwyf ar dir dadleuol yn fan hyn ond mae nifer o hen bennau gwleidyddol yn rhyfeddu ynghylch sylwadau Nick Clegg yn cyfri Llafur allan ac yn honni bod yr etholiad yn ras dau geffyl rhwng ei blaid ef a'r Ceidwadwyr.
Mae'n sicr bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol siart i brofi'r peth! Efallai bod y dacteg yn effeithiol ar daflenni ffocws ond i nifer o sylwebyddion mae'n ymddangos yn groes i'r naratif sydd wedi mor llwyddiannus i'r blaid hyd yma.
Am wn i, mae'n ymgais i wneud i'r polareiddio munud olaf sydd wedi gweithio yn erbyn y blaid yn y gorffennol i'w gweithio o'i phlaid y tro hwn. Mae'n dipyn i gambl. Wedi'r cyfan, a fyddai plaid sydd "yn wahanol" ac yn "gwrando ar y bobol" yn cymryd canlyniad yr etholiad a'r etholwyr yn ganiataol? Dyna yw'r cwestiwn y mae rhai yn ei ofyn. Yn ôl pobol Llafur fe fydd y sylwadau yn gwylltio eu pleidleiswyr craidd ac yn eu troi nhw allan i bleidleisio. Yng ngeiriau un "fe ddylai Nick Clegg gofio mai canlyniad 'hubris' yw 'nemesis'."
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.