Dywedwyd bod cyn Archesgob Cymru, Alwyn Rice Jones wedi arwain yr Eglwys yng Nghymru trwy un o gyfnodau mawr ei hanes.
Wrth dalu teyrnged iddo ar Bwrw Golwg yn dilyn ei farwolaeth ddechrau Awst 2007 cyfeiriodd y Parchedig meirion Lloyd Davies, Pwllheli, i natur gyfeillgar, annwyl, cynnes a hoffus heb na rhodres na ffug yn perthyn iddo.
Cyfnod mawr Ac am ei gyfnod yn Archesgob Cymru dywedodd;
"Yr oedd ei gyfnod wrth y llyw yn un o gyfnodau mawr yr Eglwys yng Nghymru."
Yn sicr yr oedd yn gyfnod allweddol oherwyddyr Archesgob Alwyn a lywiodd y mesur i ganiatau ordeinio merched drwy gorff llywodraethol yr Eglwys gan lwyddo ar yr ail gynnig.
Yn gynharach eleni ymunodd â dathliadau deng mlynedd y penderfyniad hwnnw mewn gwasanaeth arbennig yn Eglwys gadeiriol Llanelwy.
Yn eciwmenydd mawr dywedai'r Archesgob mai canolbwynt ei ffydd oedd ei gred fod "Crist yn Dduw yn ein plith" a'i fod wedi ceisio adlewyrchu hynny ym mhopeth a wnaeth ac a ddywedodd.
Pwyllgog Ac wrth ymuno yn y drafodaeth ar Bwrw Golwg disgrifiodd Meirion Lloyd Davies ef hefyd fel person pwyllog a gofalus a fyddai'n amharod i ruthro'n fyrbwyll i benderfyniad.
"Ond wedi ystyried yn ofalus doedd o ddim yn cymryd cam gwag o gwbl," ychwanegodd.
"Hefyd yr oedd yn gallu cadw perthynas efo pobl oedd yn anghytuno ag ef," meddai.
|