|
|
|
Cristion gwyrdd Cyfrifoldeb i warchod y byd |
|
|
|
Wrth i'r eglwysi ganolbwyntio yn bennaf ar achub eneidiau a oes peryg i'r Cristion golli golwg ar ei gyfrifoldeb tuag at y byd naturiol o'n cwmpas? Dyna un o'r cwestiynau a godwyd wrth i gyfrifoldeb yr eglwysi tuag at warchod yr amgylchedd gael ei godi yn ystod trafodaeth ar Bwrw Golwg y Sulgwyn a oedd hefyd yn digwydd bod yn "Sul yr Amgylchfyd".
Ac un o'r eglwysi sydd wedi mynd i'r afael â'r pwnc yw Eglwys Minny Street yng Nghaerdydd gyda'r pwysau yn dod yn bennaf o du'r bobl ifainc yn ôl y gweinidog, y Parchedig Owain Llyr Evans.
Meddwl am yr amgylchedd
"Daeth y syniad fod yn rhaid inni fel capel feddwl yn well ac yn fwy am sut yr ydym yn meddwl am yr amgylchedd gyda'n gweithgarwch," meddai.
"Ac felly, fel rhan o hynny, mae'r capel wedi cytuno i lansio'r cynllun amgylcheddol fydd yn golygu ein bod ni yn fwy amgylcheddol gywir neu yn ceisio bod yn fwy amgylcheddol gywir fel capel."
Dywedodd fod hyn yn rhywbeth y mae ieuenctid y capel yn teimlo'n gryf iawn ynglÅ·n ag ef.
"Ac y maen nhw yn teimlo - ac efallai bod hyn yn adlewyrchiad arnaf i - ei fod yn rhywbeth nad ydym ni fel capel yn sôn digon amdano [ac nad oes] digon o sôn yn y pregethau ac yn yr oedfaon am warchod y ddaear ac am y sefyllfa fregus amgylcheddol ydym ni ynddi ar hyn o bryd," meddai
'Yn or arallfydol' Ychwanegodd fod teimlad fod yr eglwysi yn canolbwyntio gormod ar yr enaid ar draul yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas.
"Dwi'n meddwl y bydden nhw'n fwy na pharod i ddweud wrthyf i eu bod nhw'n credu ein bod ni fel Cristnogion yn gallu bod yn or arallfydol.
"Efallai na fydden nhw'n defnyddio'r ymadrodd yna ond dwi'n meddwl eu bod nhw'n gweld bod angen llawer mwy o 'fydolrwydd sanctaidd' fel petai - fod y ddaear yn gartref inni a bod hynny'n golygu bod arnom gyfrifoldeb i fod yn ofalus."
Os araf deg mae dal iâr ymddengys mai yn araf deg y mae achub yr amgylchedd hefyd a dywedodd Mr Evans mai fesul camau bychain y bydd yr Minny Street yn cael y maen i'r wal.
"Fe fyddwn ni am y chwe mis i flwyddyn nesaf yn cymryd camau bach," meddai gan nodi mai un cynllun fydd dewis dau Sul y flwyddyn pryd bydd y gynulleidfa yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ddod i oedfaon neu rannu ceir, neu hyd yn oed gerdded.
"Rhywbeth cychwynnol ydi hyn ac mae angen cael gweld sut mae o'n gweithio ond dwi'n meddwl ei bod hi'n fwriad gennym ni i ddatblygu'r peth yn lot fwy eang fel ei fod yn dod yn fwy o ran o fywyd y capel yn hytrach nag o dymor i dymor," meddai Mr Evans.
Dywedodd fod 99 y cant o'r aelodau yn gyrru i'r capel ar hyn o bryd.
Camau bychain Bydd yr aelodau yn chwilio am ffyrdd o arbed ynni o fewn y capel ei hun hefyd:
"Bydd yn rhaid inni fod yn ofalus ynglÅ·n a gor wresogi'r capel, troi'r thermostat i lawr ychydig bach. Bod yn ofalus ynglÅ·n a'r defnydd o bapur - y math yna o beth.
"Cymryd camau bach fyddwn ni ond y teimlad ydi fod angen inni ffeindio'n ffordd ac wedi inni ffeindio'n ffordd fe fyddwn ni'n brasgamu 'mlaen wedyn.
"Yn hytrach na'n bod yn gwneud rhyw sbloets fawr ar y dechrau y bwriad ydi i ddatblygu'r peth o ddechreuadau bychan," meddai.
"Mae'r Sulgwyn yn ein hatgoffa o'r ffaith fod y Cristion i fod yn greadigaeth newydd a rhan o waith y Cristion ydi sicrhau fod yr hen greadigaeth, y ddaear fel petai, yn cael ei chynnal a'i chadw a'i diogelu," ychwanegodd.
Canllawiau gwyrdd
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ìý
|
|
|
|
Dyw'r ³ÉÈËÂÛ̳ ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|