Gwasanaeth Nadolig Radio Cymru O Hermon, capel yr Annibynwyr, Hermon ger Cynwyl Elfed, y daeth Oedfa'r Nadolig, ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru bnawn Nadolig 2006.
Yr oedd yr oedfa dan arweiniad y gweinidog, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, ar y dde, gydag aelodau a chôr yr eglwys yn cymryd rhan hefyd.
Cyhoeddwn ar y wefan hon luniau a dynnwyd gan Bryan Davies sy'n aelod yn Hermon o'r paratoadau ar gyfer y gwasanaeth.
Capel mewn pentref bychan o'r un enw â'r pentref yw Hermon. Mae rhyw ddwy filltir y tu fas i Gynwyl Elfed ar y ffordd i Gastell Newydd Emlyn ac rhyw wyth milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin.
A hithau'n ardal amaethyddol mae nifer o'r brodorion yn ffermwyr llaeth.
Dathlodd y capel ei ddau canmlwyddiant saith mlynedd yn ôl ond mae'r achos ei hun yn llawer hŷn na hynny gan ymestyn yn ôl i ddechreuadau anghydffurfiaeth yn Sir Gaerfyrddin.