³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Rhan o ddalen flaen y Daily Mirror, Mawrth 16 Jade Goodey a'r Wasg
Honni nad yw triniaeth y wasg o help i Jade na neb arall

Bu newyddiadurwr yn disgrifio sut y mae'r wasg yn cael ei gyrru gan fudd ariannol pan yn ymhél a digwyddiadau personol dwys ym mywydau pobl.

Gan wisgo hynny weithiau mewn gwisg o barchusrwydd.

Yr oedd Robin Gwyn, cyn olygydd Golwg yn trafod ymdriniaeth y Wasg o ddyddiau olaf Jade Goodey sydd yn marw o ganser.





Cyfaddefiad dyn papur newydd
"Fel cyn newyddiadurwr dwi'n deall beth sy'n gyrru y papurau sydd wedi sgrifennu am hyn," meddai yn ystod trafodaeth ar y rhaglen Bwrw Golwg gyda'r Athro Mari Lloyd Williams, meddyg sydd wedi arbenigo mewn gofal terfynol.

"Mae hyn yn fy atgoffa," meddai am achod Jade goodey, "o pan oeddwn i yn gweithio efo Golwg - ac mae hyn yn mynd yn ôl rhyw bymtheng mlynedd - pan oeddwn i'n cyfweld mam ifanc o Lanelli oedd wedi colli ei gŵr.

"Roedd ei gŵr wedi mynd am noson allan yng Nghaerdydd adeg gêm rygbi ac roedd rhywun wedi ymosod ar ei gŵr hi yng nghanol Caerdydd ac fe fu o farw.

"Ac wedyn roedd hi wedi dechrau ymgyrch efo cwpwl o bobl eraill i geisio sicrhau fod pobl oedd yn eu cael yn euog o lofruddio, eu bod nhw yn aros yn y carchar am eu hoes, am eu bywyd felly, a dyna ei hymgyrch hi.

Teimlo'n fudr
"A dwi'n cofio cyfweld y ddynes yma a gofyn iddi pam yr oedd hi wedi cychwyn yr ymgyrch yma a beth yw'r bwriad ac yn y blaen.

"Ac yn ystod y cyfweliad fe wnaeth hi dorri i lawr i wylo tua phedair gwaith ac roeddwn i'n ei chael yn anodd iawn i gynnal y cyfweliad ac yn dweud y pethau y mae newyddiadurwyr yn eu dweud wrth bobl pan fo nhw'n holi sef; Dyma'ch cyfle chi i ddweud ei hochr chi o'r stori ac yn y blaen ac yn y blaen.

"Ond wrth imi wneud hyn roeddwn i'n teimlo'n fudr a dweud y gwir, yn ei chael yn anodd i gysgu'r nos achos roeddwn i'n gwybod yn fy nghalon, beth oeddwn i'n ei wneud oedd cael stori dda er mwyn gwneud yn siŵr bod gwerthiant Golwg yn cynyddu.

"Felly, mae'r newyddiadurwyr yma yn gorfod gofyn iddyn nhw eu hunain pam maen nhw'n gwneud hyn, ydyn nhw yn ceisio twyllo'u hunain eu bod nhw yn gwneud rhywbeth sydd er lles y cyhoedd neu ydyn nhw yn fodlon cyfaddef iddyn nhw eu hunain [mai] be maen nhw'n wneud ydi gwneud arian, hynny yw, cynyddu cylchrediad eu papurau newydd."

Yr oedd Robin Gwyn a'r Athro Mari Lloyd Williams ill dau yn amheus a dderbyniodd Jade Goodey y cyngor iawn ynglyn â sut i ddelio a'i dyddiau olaf yn gyhoeddus gan awgrymu iddi ddewis "y llwybr annoeth".

"Ond mater personol iddi hi oedd o. Ei dewis hi oedd o," meddai Robin Gwyn gan ychwanegu:

"Pan ydych chi mewn cyflwr fel hyn yr hyn ydych chi eisiau ydi rhywfaint o hunan barch a rhywfaint o barch gan y bobl sydd o'ch cwmpas chi. Dwi'n teimlo ei bod wedi mynd i lawr y llwybr anghywir a bydd y teulu a'r plant efallai, wrth edrych yn ôl wrth dyfu i fyny ddim yn teimlo fod y dewis iawn wedi ei wneud."

Wedi bod yn well
Cytunodd Mari Lloyd Williams y byddai wedi bod yn llawer iawn gwell iddi gael amser gyda'i theulu a'i phlant yn hytrach na'r holl gyhoeddusrwydd yn y wasg ac ar y cyfryngau.

"Mae'r amser olaf mewn bywyd yn amser mor werthfawr. Yn amser mor bwysig ac mae rhywun yn poeni ei bod wedi defnyddio'r holl egni yn ceisio rhoi y sioe fawr yma ar gyfer y cyfryngau a'r papurau newydd a bron iawn wedi gorfod meddwl beth fydd yr eitem fawr nesaf yn lle cael amser i feddwl am beth oedd yn bwysig iddi hi ac i'w theulu," meddai.

Ychwanegodd fod pawb sy'n wael iawn angen eu hamddiffyn.

"A hynny rhag eu hunain bron iawn a dwi'n meddwl fod hyn wedi arwain at sefyllfa foieristig a phobl eisiau gweld y pethau sydd reit aml yn ofnadwy," meddai.

"A dwi'n meddwl [fod yr hyn sy'n digwydd yn] portreadu salwch difrifol a phobl sy'n cyrraedd marwolaeth yn y ffordd lleiaf positif posibl yn lle dangos fod yna ochr arall," meddai.

Ychwanegodd nad yw'r hyn sy'n digwydd "ddim o unrhyw help o gwbl" i bobl sy'n mynd trwy yr un peth â Jade Goodey.


Llusern
Hanes Crefydd yng Nghymru
Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý