|
Talwyd teyrnged i'r ddiweddar Wendy Richards fel un a fu'n allweddol i weithgarwch cydenwadol yng Nghymru.
Ar y rhaglen Bwrw Golwg ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru dywedodd y Parchedig Gethin Abram Williams, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol CYTUN, i farwolaeth Mrs Richards, fis Medi 2006 fod, yn "ergyd fawr".
"Yr oedd ganddi hi gyngor doeth, cyson, i'w gynnig . Roedd ganddi hi awgrymiadau creadigol a hi i raddau oedd y person oedd yn dal ac yn cynnal y cydweithio cydenwadol yng Nghymru," meddai.
"Yr oedd hi'n ddynes neilltuol. Yr oedd ganddi bersonoliaeth gref a deniadol a phob amser yn gwneud pethau yn gariadus a graslon ac yr ydym yn teimlo'n awr dros Peter, ei gŵr, a gweddill y teulu yn eu colled.
"Ac y mae hi wedi bod yn golled i Gymru hefyd," ychwanegodd.
Yn Rachub ger Bethesda y ganwyd Wendy Richards ond symudodd y teulu i fyw ym Mhenmaenmawr pan oedd hi'n bump oed.
O ysgol y pentref yno aeth i Ysgol Ramadeg y Merched, Bangor, ac wedi cyfnod o hyfforddiant proffesiynol mewn Astudiaethau Masnachol, penodwyd hi i swydd weinyddol yn Adran Cerdd y ³ÉÈËÂÛ̳ ym Mangor.
Bu'n byw yn Rhydaman ac yn Llundain pan benodwyd ei gŵr, y Parchedig Peter Richards, yn weinidog Eglwys Heol y Castell yno.
Yn y Saithdegau dechreuodd weithio yn swyddfa Cyngor Eglwysi Cymru, a phan ddatblygodd y Cyngor, hwnnw yn CYTUN parhaodd i weithio yn y swyddfa gan ennill gwybodaeth drwyadl o weithgarwch cydenwadol.
Rhyngddynt bu'n gofalu am swyddfa'r Cyngor a CYTUN am dros chwarter canrif.
Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cenedlaethol Cymdeithas Chwiorydd y Bedyddwyr am ddeng mlynedd a bu'n Llywydd y Mudiad.
Bu'n Drysorydd Cenedlaethol Cristnogion yn Erbyn Poenydio am dros ddegawd hefyd ac yn gyfrifol am stondin Cytun ar faes yr Eisteddfod lle gwireddwyd breuddwyd: pan ddaeth yr holl enwadau ac asiantau at ei gilydd mewn un pabell yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2003.
Fe'i derbyniwyd yn aelod er anrhydedd o'r Orsedd yng Nghasnewydd a'i hurddo â'r wisg wen.
Bu farw, Medi 17, 2006.
|
|