Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae aelodaeth yr Eglwys Bresbyteraidd wedi lleihau yng Nghymru.
Dengys ffigurau a gyflwynwyd i'r Gymanfa Gyffredinol fis Gorffennaf 2007 fod y lleihad mwyaf yn ardal y dwyrain, 5.51% i lawr.
Maen nhw i lawr 4.45% yn y de a 3.8% yn y gogledd a hynny'n gyfystyr a cholli rhyw dair mil o aelodau yng Nghymru mewn blwyddyn.
Llai o gapeli Yn wyneb y dirywiad hwn bydd yr eglwys yn lleihau nifer ei chapeli o 700 i 500 erbyn y flwyddyn 2010 yn ôl adroddiad o Gymanfa Gyffredinol yr enwad ar Bwrw Golwg ddydd Sul, Gorffennaf 22, 2007.
Mae 39% o eglwysi'r enwad heb weinidog a dim ond un allan o bob deg sy'n medru manteisio ar wasanaeth gweinidog rhan amser.
Yn y de, ac yn arbennig yn ardal Caerfyrddin, y mae'r sefyllfa waethaf gyda 40% o eglwysi heb weinidog!
Dim uno Ond er gwaethaf argyfwng o'r fath dywedodd Ifan Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol yr enwad, nad yw ef yn gweld llawer o obaith i'r enwadau uno er mwyn cryfhau.
"Fe geisiwyd, ychydig flynyddoedd yn ôl, greu un eglwys rydd unedig yng Nghymru ond, at ei gilydd, doedd yna ddim cytundeb," meddai.
"Mi fuaswn i'n dweud fod yr Eglwys Bresbyteraidd wedi bod o blaid hynny ond rhaid inni barchu dymuniadau pobl eraill ac mae'r Annibynwyr eisiau bod yn Annibynwyr oherwydd dyna eu argyhoeddiad ac mae'r Bedyddwyr eisiau bod yn Fedyddwyr oherwydd dyna eu argyhoeddiad," meddai gan ychwanegu, er bod closio wedi bod, na chredai "fod yna stumog" i greu rhyw strwythur mawr ar gyfer eglwys unedig yng Nghymru.
Cydweithio "Dwi'n credu mai y ffordd ydi cydweithio efo'n gilydd ac mae'n rhaglen genhadol a rhaglen AGAPE yr Annibynwyr yn dangos sut y gallwn ni gydweithio oherwydd mae gennym brosiect yn Trefor efo'n gilydd ac mae gennym ni brosiect ym Mrynaman efo'n gilydd ac mae gennym ni brosiect yn Nhreorci efo'n gilydd - yr Annibynwyr a ni; ac mae'r Bedyddwyr yn rhan o gynllun hyfforddi sy'n cael ei weinyddu o'r Coleg Gwyn ym Mangor" meddai.
|