|
Etholwyd yr Hybarch Andrew John 44 oed yn Esgob newydd Bangor ddydd Iau, Hydref 9, 2008.
Mae'n olynu'r Gwir Barchedig Anthony Crockett a fu farw fis Mehefin ac ef fydd 81fed Esgob Bangor.
Cafodd ei holi gan John Robert ar Bwrw Golwg, ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru, fore Sul Hydref 12 2008.
Isod, cyhoeddwn gynnwys y sgwrs.
Yr ydych chi wedi eich ethol i fod yn gyfrifol am yr eglwysi rhwng Caergybi a Llanidloes. Mae yno adeiladau hanesyddol rif y gwlith a neb yn mynychu lot fawr ohonyn nhw. Mae yna brinder offeiriaid, prinder offeiriaid Cymraeg dybryd, argyfwng ariannol - beth oedd ar eich pen chi yn cymryd y swydd yma?
Wel, mae yn amser heriol ond wedi dweud hynny roedd yn amlwg i mi, wedi cyfarfod y bobl ym Mangor, fod yna ffydd a gobaith hefyd am y dyfodol er nad ydym ni yn anwybyddu pethau sydd yn anodd.
Mae pobl sydd yn ddigartref, problemau cyffuriau, diffyg swyddi i'n pobl ifainc [ond] mae yna deimlad hefyd o edrych ymlaen at y dyfodol a hyder hefyd ac mae hyn wedi bod yn gwbl amlwg i mi.
Yr ydych chi wedi eich magu yn Aberystwyth, wedi treulio wyth o'r ugain mlynedd yr ydych chi wedi bod yn offeiriad yn Aberystwyth, y gweddill yng Ngheredigion - mae Bangor yn mynd i fod yn dipyn bach o newid?
"Bydd, yn union. Ond yr un problemau mae'r un problemau ag sy'n bodoli ym Mangor yn bodoli yng Ngheredigion a dyna pam efallai y penderfynodd pobl ym Mangor ofyn i rywun sy'n gyfarwydd â chefn gwlad.
Mae problemau cefn gwlad - yr ydym ni'n meddwl yn awr ac yn y man mai dim ond yn y trefi yr ydym ni'n darganfod problemau ond mae yna broblemau mawr, mawr, yng nghefn gwlad hefyd ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â phobl a thrio partneru a phobl eraill ac asiantau eraill i ddatrys y problemau hynny.
Sut fyddech chi'n disgrifio eich diwinyddiaeth? Yr ydych wedi bod mewn coleg diwinyddol efengylaidd mewn plwyf fel Aberystwyth sydd â thraddodiad felly hefyd.
Do, cefais fy magu yn y traddodiad efengylaidd gyda Bertie Lewis oedd yn ddeon yn Nhyddewi a wedyn gyda Stuart Bell ac mae'r ddau ohonyn nhw wedi cael effaith mawr arnaf i ond does dim rheswm i feddwl nad yw'n bosib i weithio â phawb yn yr Eglwys - un eglwys, un bedydd i'n Iôr.
[Ond] dydi hwnna ddim yn profi'n hawdd iawn yn y gymuned Anglicanaidd ar hyn o bryd efo tueddiadau efengylaidd a thueddiadau rhyddfrydol yn gwrthdaro yn amlwg iawn?
Efallai yn gwrthdaro ond hefyd mae'r broses y mae'r Archesgob Rowan wedi gofyn i ni - proses i wrando a siarad gyda'n gilydd, nid ar wahân.
Mae'n rhaid i ni fod yn onest . . . a chyfaddef bod gwahaniaethau rhyngom ni ond gyda'n gilydd rwy'n siŵr y bydd yn bosibl datrys y problemau sydd o'n blaen ni.
Ar hyn o bryd rhyw fyw efo'r problemau mae'r gymuned Anglicanaidd - beth ydi'ch barn chi? Er enghraifft ydych chi'n meddwl bod yna le i offeiriaid hoyw, i esgobion hoyw yn y gymuned Anglicanaidd?
"Wrth gwrs bod yna le, mae yna le i bawb ond mae'n rhaid inni hefyd gario mlaen a'r broses y mae'r Archesgob wedi gofyn inni - sef i ymateb yn y mater hwnnw a thrio ymestyn allan i bobl tu hwnt i'r Gorllewin, pobl yn Affrica, a meddwl gyda'n gilydd, 'Beth yw'r ffordd orau yn awr?'
Un peth ydi ymatal. Dewch inni fod yn onest mae yna esgobion ac archesgobion yn Affrica, er enghraifft, fyddai'n dweud, 'Does yna ddim lle i bobl hoyw yn yr Eglwys' fwy neu lai . Oes yna le?
Ac oes yna le swyddogol iddyn nhw? Fel offeiriaid ac fel esgobion
Un o'r pethau mwyaf pwysig gefais i fel rhan o gyngor yw dameg Y Mab Afradlon. Yn y diwedd yr ydym yn gweld y tad sy'n dal i siarad â'r mab ac os yw Duw yn siarad â ni does dim lle i ddweud fod yr amser i siarad wedi bennu. Rhaid inni gario ymlaen. Does dim amheuaeth am hyn o gwbl.
Wrth edrych ar y gwaith; yr ydych chi a'r teulu yn symud i fyny i Fangor. Mae eich gwraig yn ddiacon yn yr eglwys. Pedwar o blant. Sut maen nhw'n ymateb i gael esgob yn y ty?
Mae wedi bod yn sioc fawr iddyn nhw, hefyd, ond maen nhw'n edrych ymlaen. Mae e'n amser ansicr wrth gwrs; mae Mathew yr hynaf newydd ddechrau ei Lefel A, mae Bethany wedi dechrau TGAU ond rydym ni yn agos iawn ac rydym ni'n edrych ymlaen at y posibiliadau o symud i Fangor sy'n lle hyfryd; mae pobl mor garedig ac fe fydd yn rhywbeth newydd i ni hefyd.
Mae bywyd yn fenter, dyna ydym ni'n i feddwl.
Beth amdanoch chi, Andrew ynteu Andy ydych chi?
Andy, mae pawb yn fy adnabod fel Andy.
Rydw i wedi clywed eich bod chi yn chwaraewr sboncen ac yn chwaraewr sacsoffon - beth sy'n dod gyntaf?
Sboncen yn gyntaf , a sboncen, sboncen, dim ond sboncen.
Fan yno mae'r rhwystredigaeth i gyd yn dod allan?
Mae'n bosib cael rhywbeth sy'n rhoi 'sanity' i ni ydi.
Yn fyr iawn, beth fyddech chi'n hoffi ei gyflawni ym Mangor?
Beth fydd y peth cyntaf ar yr agenda?
Yn gyntaf, i ymweld â phobl, pob asiantaeth, pob ysgol. Pawb. Ac i dyfu perthnasau . Yn y pen draw mae hi lawr i ni yr Eglwys dyfu ac i wasgaru ein neges - ond gyda'n gilydd [felly] i dyfu perthnasau fydd yn parhau.
|
|