|
Ym marwolaeth
collodd Cymru un o'i hathronwyr mwyaf blaengar ac adnabyddus. Athronydd hefyd a gafodd gydnabyddiaeth fyd eang.
Yn ystod ei flynyddoedd olaf bu'n rhannu ei amser rhwng Prifysgol Abertawe lle bu'n Athro Athroniaeth, a Phrifysgol Claremont yng Nghaliffornia yr Unol Daleithiau lle'r oedd yn dal cadair Athroniaeth Crefydd.
Y ddau a fu'n pwyso a mesur ei gyfraniad a'i gofio fel cyfaill ar y rhaglen Bwrw Golwg ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru oedd y ddau athronydd; Walford Gealy a Meredydd Evans.
Cyhoeddwn yma eu sgyrsiau hwy, yn cael eu holi gan John Roberts, gan gynnwys rhannau na chafodd eu darlledu ar y rhaglen:
Walford Gealy Fe ddes i adnabod Dewi gyntaf yn Chwedegau y ganrif ddiwethaf ac fe fu'r cyfeillgarwch yn ddi-dor ac agos am dros ddeugain mlynedd.
Roeddem ni'n agos dros ben. Roeddwn i'n ei gael yn berson hynod o garedig a hael a hwylus a fyddai bob amser yng nghanol pob ymddiddan a'i storiâu doniol, diri. vRoedd e'n fachgen hynod o barod i gynhyrchu hwyl ac roedd hyn yn rhan o'i bersonoliaeth allanol e.
Ond roedd yna Ddewi arall. Yr oedd yna Ddewi oedd yn gallu bod bruddglwyfus ac yn drist ac yn hiraethus.
Hiraethu am Gymru Fe dreuliodd, wrth gwrs, yn ystod y deng mlynedd diwethaf ran o bob blwyddyn, o Ionawr i fis Mai, yn Claremont, Califfornia,, yn y Gadair yno ac yn aml iawn roedd e'n teimlo yn hiraethus ac fe fuasai'n codi'r ffôn ac fe fyddai e ar y ffôn am awr er mwyn cael sgwrs gyda rhywun - nid fy mod i yn berson arbennig, ond ei fod e'n moyn cael sgwrs gyda rhywun trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ei Gymreictod A dyna agwedd ar ei fywyd oedd yn bwysig iddo fe - ei Gymreictod.
Yn ei arddegau, er bod ei frawd yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac wedi ei fagu ar aelwyd hollol Gymraeg fe gollodd e'i Gymraeg ond fe ddechreuwyd ei hadfer hi pan aeth e i Rydychen ac i Gymdeithas Dafydd ap Gwilym a chwrdd a phobl fel Gwyn Thomas a oedd yno ar y pryd.
Fe aeth am gyfnod i Dundee a daeth nôl i Fangor [lle yr] atgyfnerthwyd y cyfeillgarwch rhwng Gwyn Thomas ac yntau a Bedwyr Lewis Jones ac aelodau eraill o'r adran ac fe adferwyd iddo y Gymraeg.
Ond ddechrau'r Chwedegau doedd ganddo ddim gair o Gymraeg ac fe briododd Gymraes ddi-Gymraeg, Monica, o ardal Treforys ac fe barhaodd yr aelwyd gynnar i fod yn ddi-Gymraeg. Ond fe lwyddodd yn y diwedd i gael dau o'r meibion i siarad Cymraeg, mynd i ysgolion Cymraeg, priodi merched Cymraeg ac y mae wyrion Dewi i gyd a'i wyresau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.
Yr athronydd Er ein bod ni yn gyfeillion mynwesol roeddem ni'n anghytuno. Er ein bod ni yn derbyn yr un math o ragdybiaethau athronyddol, wedi cael ein magu yn yr un ysgol Wittgensteinaidd o athroniaeth roedd e wedi dilyn ei drywydd ei hun tra'r oeddwn i wedi dal yn nes at uniongrededd Gristnogol a cheisio cymodi yr uniongrededd hwnnw gyda safbwynt Wittgenstein.
Ond yr oedd Dewi yn barotach i fynd ar ôl pobl nad ydw i yn eu hystyried yn uniongred ac efallai gael ei or-ddylanwadu gan rai pobl yn y cyfnod diwethaf.
Fe gafodd ei ddylanwadu yn drwm iawn gan y Ffrances Simone Weil ac yn y ganrif flaenorol gan Soren Kierkegaard ; hynny yw ysgrifenwyr mawr; pobl ddwfwn, ysbrydol, ond eto i ryw raddau efallai yn gwyro oddi wrth ganol y ffydd . . . a mwy ar ororau uniongrededd Cristnogol.
Dod yn fyd-enwog [O sôn am ei gyfraniad] beth wnaeth Dewi oedd gweithio mas yr ymrwygiadau athronyddol i fyd crefydd o safbwynt Wittgenstein.
Dydw i ddim yn dweud mai ef yw'r unig un sydd wedi gwneud hyn ond fe gafodd niche arbennig iddo fe'i hunan yn y maes yma ac fe ddaeth yn fyd-enwog fel yr esboniwr Wittgensteinaidd ar grefydd.
Ond fe fyddwn i yn dweud yn syml ac yn fras, fe fyddai Dewi yn meddwl fod 90 y cant neu fwy o bobl sy'n honni eu bod yn Gristnogion yn camddeall [beth oedd hynny].
Hynny yw, er mwyn achub iaith crefydd, ystyrlonrwydd iaith crefydd, pan ddaeth Dewi yn y cyfnod yna gyntaf at athroniaeth y positifistiaeth resymegol oedd yn dal y tir canol yma ym Mhrydain a hwnnw wedi condemnio iaith crefydd fel iaith gwbl anystyrlon ac fe roes Dewi ei egni er mwyn adfer ystyrlonrwydd iaith crefydd.
Hynny yw bod dim hawl gan athronydd i ddweud bod iaith yn anystyrlon ond er mwyn achub ystyrlonrwydd yr iaith yna yr oedd e'n gorfod ei gwyro hi a'i gwneud yn gwbl wahanol i iaith ffeithiol.
Natur y dwyfol Iaith gwerthusol mewn ffordd ydi iaith crefydd iddo ef ac wrth gwrs mae hynny yn codi cwestiynau ynglŷn â natur y dwyfol, natur ymyrraeth y dwyfol. Os ydi'r cysyniad o Dduw yn cynrychioli Bod sy'n ymyrryd yn y byd; beth yw natur gwyrthiau ac yn y blaen?
Roedd rhain i gyd yn bynciau llosg i Dewi a chwarae teg iddo fe fe'u hwynebodd yn eu cyfanrwydd - meddyliwch am y llyfr a wnaeth enw mawr iddo, The Concept of Prayer - hynny yw beth ydi natur [gweddi] - ydych chi'n siarad â gwrthrych sy'n gwrando arno chi ynteu [ai] myfyrdod ysbrydol - dyn yn adlewyrchu ar ei anghenion ei hun ac anghenion y byd ac yn y blaen ac yn mynegi ei ddymuniadau- ydi gweddi?
Wel, mae'n ymddangos mai i'r cyfeiriad yna y byddai Dewi tra byddai Cristnogion uniongred yn meddwl am realiti dwyfol fel realiti allai newid pethau yn y byd a dyna'r gwahaniaeth mawr oedd rhyngom ni.
Atgyfodiad Crist Wrth gwrs fe fyddai ef yn dweud mai ef oedd yn iawn ac mai ef fyddai'n cynrychioli uniongrededd ond dydw i ddim yn credu hynny.
Ond dyna'r math o anghytuno oedd rhyngom ni ac am rywbeth sylfaenol mewn Cristnogaeth, atgyfodiad Crist, wel nid atgyfodiad corfforol oedd e [iddo ef] ond atgyfodiad ym mywyd Cristnogion ac yr oedd e'n tueddu i ddyfynnu diwinyddion sy'n mynd i'w gyfeiriad ef ac yn gwadu hanesyddiaeth - elfennau hanesyddol - Kierkegaard eto.
Doedd hanes fel hanes Cristnogaeth o fawr o bwys i Kierkegaard. Yr hyn oedd yn bwysig iddo ef oedd bod ysbryd yr hyn oedd wedi digwydd i Iesu yn ganolog ym mywyd y saint.
Oes mae yna gwestiynau ac rwy'n flin ein bod wedi colli Dewi achos fe hoffwn fod yn cael y sgwrs yma gydag ef.
Cofio emynau Fe fyddai'n colli ei gyfeillgarwch . Fe fum i ar sawl taith i'r Cyfandir gydag ef a'i yrru fe a chael hwyl 'da fe.
Un peth oedd e ddim wedi'i anghofio erioed oedd yr emynau oedd e wedi'i ddysgu'n blentyn ac emynau'r Ysgol Sul. Roedd y rheini yn dal yn fyw ac yr oedd e'n eu canu nhw'n ddiddiwedd yn y car - nid dim ond y pennill cyntaf ond yr emyn i gyd.
Mae'n syndod fel yr oedd cof y plentyn yn dal yn fyw gydag ef
Ar y ffôn Fe fyddai'n colli hefyd - wel, fe fyddai e'n gyson ar y ffôn . Ar adegau wrth gwrs yr oedd yn faich ac yn fwrn oblegid doedd bod awr ar y ffôn yn ddim iddo.
Fe fyddai'n darllen ei bapur diweddaraf i gael fy marn i arno fe ac yr oedd hynny'n gallu bod yn faich bod ar y ffôn a dim yn agor y mhen nes ei fod wedi gorffen a dweud, 'Wel be ti'n feddwl 'te?'.
Fe fyddai'n colli hynna, yn colli ei gyfeillgarwch.
Meredydd Evans
Roedd Dewi yn arbennig iawn ymhlith meddylwyr cyfoes Cymru. Roedd o'n edrych ar athroniaeth mewn ffordd wahanol i'r mwyafrif o athronwyr y Gymru Gymraeg a'r Gymru ddi-Gymraeg hefyd.
Gwneud pethau yn eglur Yr oedd ei brif ddiddordebau athronyddol ym maes athroniaeth crefydd, athroniaeth moeseg ac hefyd hanes ac arwyddocâd llenyddiaeth i athroniaeth.
Ei syniad o oedd nad rhoi atebion mae athronwyr i fod i wneud ond egluro pethau. Gwneud pethau yn eglur.
Er enghraifft nid roi atebion i A oes yna fywyd tragwyddol? Neu a oes yna y fath beth a rhagluniaeth ac ymyriad Duw ym mywyd y byd? Neu a ydi Duw mewn gwirionedd yn caru y byd pan fo rhywun yn ystyried fod yna gymaint o ddioddef a chymaint o ddrygioni yno fo?
Nid rhoi atebion i'r cwestiynau yna ond eu hegluro nhw i ddweud sut fath o gwestiynau ydyn nhw i ddangos bod yna ystyr iddyn nhw.
Yn erbyn anghredinwyr Dyna lle'r oedd o yn ymladd yn erbyn yr anghredinwyr - y teip o anghredinwyr oedd yn dweud nad ydi syniadau crefyddol yn gwneud unrhyw sens, eu bod yn ddiystyr.
Dyna iddo fo oedd arwyddocâd gwacter ystyr; y bobl sy'n dweud nad ydio'n gwneud unrhyw ystyr i ddweud fod Duw yn bod.
Cyfarfod hwnna roedd Dewi ac wrth iddo fo, felly, fod yn ceisio'i egluro beth oedd ystyr tragwyddoldeb ac anfarwoldeb a chariad Duw yr oedd o'n mynd yn bell iawn yn aml - ac yn groes yn aml, i beth y mae diwinyddion Cymru ac athronwyr crefydd Cymru yn y traddodiad arferol wedi olygu wrth y termau yna.
Ac fe fyddai o'n dweud wrtha i yn aml iawn am hyn: 'Wyddost ti, be sy'n fy mhoeni i yn fwy na dim yw nad oes yna ddim ymateb i be mae rhywun yn i ddweud yng Nghymru. Nad oes yna ddim trafod ar y pethau yma.'
Dweud pethau heriol Achos yr oedd Dewi yn dweud pethau oedd yn heriol iawn, iawn, ym myd diwinyddiaeth ac ym myd athroniaeth crefydd ac yn yr ystyr yna mae o'n bwysig iawn, iawn, yn hanes meddwl Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Yr oedd o'n sefyll allan ac yr oedd arbenigrwydd yn perthyn iddo fo ac i'w gyfraniad ac mae'r cyfraniad yna wedi bod yn gyfraniad gwerthfawr eithriadol i feddwl Cymru mewn crefydd ac mewn llenyddiaeth.
Yn ffordd o fyw Yr oedd athroniaeth i Dewi yn ffordd o fyw. Yr oedd yna nifer o bethau angerddol ynghylch Dewi. Yr oedd ganddo fo ddiddordeb angerddol mewn llenyddiaeth , mewn celfyddyd, roedd ganddo fo ddiddordeb mewn cerddoriaeth - ond mewn celfyddyd yn arbennig ac yn arbennig arlunio. Yr oedd ei dÅ· o yn llawn o weithiau gan lawer iawn yn beintwyr ac arlunwyr Cymraeg.
Ond Y peth mawr angerddol yn ei fywyd o oedd y busnes athronyddu yma. Yr oedd yn ffordd o fyw. Mae'n rhaid bod rhywbeth yn ei ffordd o edrych ar fywyd oedd yn penderfynu fod ganddo ddiddordeb enfawr mewn syniadaeth fel y cyfryw; mewn cysyniadau a'r perthnasau rhesymegol - y syniad yma a'r syniad acw - roedd hwnna yn beth dwfn yno fo.
Y Gymraeg Roedd o'n ymroddedig i'r Gymraeg ac yn credu y dylid bod yn astudio pynciau [yn y Brifysgol] trwy gyfwng y Gymraeg [gyda] statws cyflawn anrhydedd i bob pwnc yr ydych yn ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol.
Hogyneiddiwch Rywsut neu'i gilydd roedd y sefydliad yng Nghymru yn methu a chymryd Dewi o ddifrif ynglŷn â'i gyfraniad i athroniaeth. Doedd o ddim yn greadur academaidd yn ei ymwneud a bywyd.
Roedd Dewi yn ddyn hoffus ddychrynllyd, y mwyaf cymdeithasgar o ddynion. Roedd o wrth i fodd yn dweud straeon.
Lle bynnag y byddai Dewi yn eistedd amser cinio mewn rhyw gynhadledd o fanno y byddai'r chwerthin mawr yn dod ac yr oedd yna ryw hogyneiddiwch yn perthyn iddo fo.
Eithriadol o ddisglair Dydw i ddim yn sicr oedd yr athronwyr proffesiynol yn sicr iawn beth i'w wneud ag ef ac eto yr oedd pob un o athronwyr Cymru oedd yn adnabod Dewi yn gwybod yn iawn ac yn cydnabod mor eithriadol o ddisglair oedd o.
Roedd ganddo fo feddwl clir, craff ac yr oedd ganddo fo'r gallu i gyfleu ei syniadau mewn arddull uniongyrchol.
Arddull eithaf syml ac eithaf plaen heb fod yn defnyddio llawer iawn o'r termau technegol nac yn ymgolli mewn brawddegau hir, cymalog, cymhleth.
Roedd o'n foi annwyl dros ben. Dros ben.
|
|