Mae'r Parchedig D Ben Rees yn llais Cymraeg mwyaf adnabyddus dinas Lerpwl - yn cael ei adnabod gan rai fel D Ben 'Lerpwl' Rees.
Mae ei berthynas â'r ddinas yn mynd yn ôl ddeugain mlynedd ac yntau wedi ei benodi yn weinidog Capel Cymraeg Heathfield Road y Presbyteraid yno yn 1968.
Ond mae'r cwlwm hwnnw ar fin cael ei dorri wrth iddo ymddeol ac ymddeol hefyd fel golygydd yr adran a adnabyddir fel Y Pedair Tudalen yn y papurau enwadol.
Bu'r ymddeoliad yn gyfle i Dei Tomos ei holi ar gyfer ei raglen nos Sul gan ofyn yn gyntaf a yw fflam y ffydd yn dal ynghyn yn Lerpwl wedi deugain mlynedd:
"Mae fflam y ffydd wedi cadw'n dda iawn ond nid fel y byddwn i wedi dymuno achos dydi'r Cymry sy'n dod i Lerpwl bellach ddim yn cael eu magu adref yng Nghymru i ddod i gapel ac mae hwn wedi bod yn dristwch mewn gwirionedd," meddai.
Cymharodd y sefyllfa heddiw â'r "holl fyfyrwyr" oedd yn llenwi'r seddau cefn yn y capel yn 1969 a sesiwn ar ôl oedfa yn cael ei chynnal ar eu cyfer.
Un oedfa y Sul sy'n cael ei chynnal yn awr ond dywedodd nad yw yn rhy ofidus ynglŷn â hynny:
yn awr
"Yr ydw i'n hoffi'r syniad Americanaidd lle'r ydych yn cael y bore ar gyfer y capel ac wedyn y bobl yn cael cyfle i fod gyda'u teuluoedd a gweithgareddau eraill yn y prynhawn," meddai.
Dyma bigion eraill o'r sgwrs:
Lerpwl v Everton - cefnogi pwy?
"Bu'n rhaid imi ddysgu yn fuan iawn. Roeddwn i'n mynd i weld y ddau oherwydd yr oedd yna bobl frwd yn mynd i Everton ac roeddwn i'n mynd gyda nhw, ac yn mynd i Lerpwl gyda'r lleill!
"A dwi'n cofio mynd i dŷ dyn arbennig a chanmol Lerpwl a dyma fe'n dweud; "Cofiwch rydych chi'n weinidog arnaf i ac rydych chi'n barchus iawn yn fy ngolwg i ond peidiwch a dod yma i sôn am Lerpwl."
Ychwanegodd D Ben Rees fod pêl-droed yn "un o'r ychydig bethau" sy'n peri iddo "ymlacio'n braf."
Dinas lewyrchus
Dywedodd fod y ddinas ar i fyny:
"Ymhen tair neu bedair blynedd bydd Lerpwl yn un o'r dinasoedd hyfrytaf ym Mhrydain," meddai.
Siom Steddfod
Mynegodd siom na ddenwyd yr Eisteddfod i Lerpwl y eleni ar drothwy dathlu Blwyddyn Diwylliant yno.
"Yr oeddwn wedi fy synnu fod y fath gulni yn bodoli," meddai.
"A diffyg ystyriaeth y cefndir ydym ni ynddo . . . Cymry sydd wedi adeiladu y maestrefi a chanol y ddinas."
Gwnaeth Cymry'r ddinas hefyd eu marc mewn sawl maes yn amrywio o feddygaeth i bêl-droed.
Dywedodd fod y steddfod yn fwy diogel oherwydd y gwahoddiad gan iddo ddod a chynghorau Cymru at ei gilydd ar gyfer y dyfodol.
Crefyddau eraill:
"Rydym ni'n genedl sy'n gwybod beth ydi cael gormes ac mae'n bwysig ein bod yn rhan o bobl sy'n teimlo, yn aml, eu bod nhw hefyd yn cael eu gormesu a chael eu hanwybyddu a'u camddeall."
Heddychiaeth
Yn awdur llyfrau am Henry Richards a Gandhi dywedodd fod heddychiaeth yn bwysig iddo.
Bu'n ymwneud llawer â Chymdeithas y Cymod "ac wedi gwneud fy ngorau i sôn am y traddodiad heddychol sy'n perthyn i'r Cymru."
O Abercynon i Lerpwl
"Roedd yn naid aruthrol a phan ddes i yma gyntaf roeddwn i'n meddwl na fyddwn i byth yn setlo'i lawr," meddai.
Er mwyn dod i adnabod y ddinas byddai ef a'i wraig, Meinwen, yn neilltuo'r Sadwrn "i fynd ar goll yn y ddinas".
"A dyna sut ddysges i ddod i adnabod Lerpwl yn dda. Ac erbyn hyn rwy'n adnabod y ddinas fel cefn fy llaw - pob twll a chornel."
Mewn ofn
Terfysg Toxteth 1981oedd "yr unig adeg imi deimlo y byddwn i'n mynd oddi yma . . . roedd y peth wedi cydio ynddon ni fel cymdeithas ac roeddech chi'n ansicr iawn beth oedd yn mynd i ddigwydd o awr i awr ac o ddydd i ddydd a dyna'r adeg mwyaf gofidus imi fod yn Lerpwl."
Gweinidog Cymraeg mewn dinas Saesneg Dywedodd iddo gael gwerth arbennig o weinidogaethu i Gymry mewn dinas Seisnig ac ymweld â chleifion o Gymru mewn ysbytai yno.
Tua'r mil Ac yntau wedi pregethu mewn mil o gapeli namyn 37 dywedodd;
"A dyna'n uchelgais i os cai fyw ar ôl ymddeol, cael mynd i 37 o gapeli nad ydw i erioed wedi bod ynddyn nhw!"
|