Cyhuddiad yn 'Rwts llwyr' Disgrifiwyd fel "Rwts llwyr," gyhuddiadau'r Dr D Ben Rees fod aelodau o Blaid Cymru yn cael mwy o chwarae teg yn yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru nag aelodau o bleidiau eraill.
Wrth ymateb i'w sylwadau dywedodd y Parchedig Meirion Lloyd Davies o Bwllheli - sy'n un o gyn lywyddion Cymanfa Gyffredinol yr enwad - mai "Rwts llwyr a sylwadau hollol ddi-sail" oedd rhai'r Dr Rees.
Gwadodd ef unrhyw "ddisgrimineiddio" yn ei erbyn gan restru nifer o swyddi blaenllaw a ddaliodd gyda'r enwad.
"Mae o wedi bod yn ysgrifennydd y Sasiwn, yn llywydd y Sasiwn ac wedi pregethu ledled Cymru yn amlach na bron neb arall ac wedi rhoi y Ddarlith Hanes," meddai.
"Mae o wedi bod reit yng nghanol pethau ar hyd yr amser," ychwanegodd.
Dim arwyddion "A dydw i ddim yn gweld unrhyw arwydd bod y Blaid yn rhedeg y Cyfundeb . . . yr ydw i yn aelod o Blaid Cymru a dydw i ddim yn credu fy mod i wedi cael unrhyw ffafriaeth," meddai.
"Os edrychwch chi ar lywyddion ein Cyfundeb ni, y Sasiynau a hefyd y Gymanfa Gyffredinol ar hyd y blynyddoedd mae yna bobl o fwy nag un plaid wleidyddol.
"Fe fyddai rhai cyn lywyddion y Gymanfa Gyffredinol yn arswydo tasa nhw'n meddwl fod Ben yn eu cyhuddo nhw o fod yn aelodau o Blaid Cymru," meddai.
Heb deimlo tensiwn Yr oedd Meirion Lloyd Davies yn un o dri oedd yn ymateb i'r sylwadau ar rifyn 21 Ionawr, 2008, o Wythnos Gwilym Owen
Gydag ef yr oedd y Parchedig John Owen, Rhuthun, Llywydd presennol Cymanfa Gyffredinol y Presbyteriaid a'r Parchedig Emlyn Richards, hen gyfaill i'r Dr Rees a chyn aelod o'r Blaid Lafur.
Meddai'r Parchedig John Owen:
"Dydw i erioed wedi teimlo tensiwn gwleidyddol, pleidiol, o fewn yr enwad o gwbl ac rydw i wedi bod mewn sefyllfaoedd yn ystod fy ngyrfa lle mae yna wedi bod groesdoriad gwleidyddol," meddai.
Heddychiaeth yn dramgwydd Er i Emlyn Richards ddweud na theimlodd ef erioed unrhyw elyniaeth wleidyddol o fewn yn enwad pan yn aelod o'r Blaid Lafur fe ddywedodd i'w heddychiaeth fod yn dramgwydd:
"Ar gyfrif fy heddychiaeth fe ffeindiais i bethau yn ddigon anodd ac yn ddigon siomedig yn fy enwad oherwydd hyn. Mae'n llywaeth ac yn llipa gynddeiriog ar gwestiynau o'r fath."
Aeth ef â'r drafodaeth ymhellach trwy gyhuddo'r Cyfundeb o roi gormod o bwyslais ar "weinyddu" ar draul cenhadu.
"Ac mae yna lot yn beth mae Ben yn ei ddweud fod yr agendor rhwng Ymneilltuaeth a'r werin wedi mynd yn rhy lydan o lawer iawn ddywedwn i," meddai.
Ond dywedodd John Owen a Meirion Lloyd Davies nad rhywbeth Cymreig yn unig mo hynny ond rhywbeth sy'n digwydd drwy orllewin Ewrop i gyd lle mae pobl yn troi eu cefnau ar grefydd y capeli a'r eglwysi.
Pobl yn pellhau "Mae pobl yn pellhau oddi wrth grefydd nid oherwydd gwleidyddiaeth nid oherwydd heddychiaeth ychwaith ond oherwydd nad yw'r hyn yr ydym ni'n ei gyflwyno i bobl ddim yn gredadwy a dydi o ddim yn ystyrlon ac yn berthnasol i'w bywyd nhw," meddai Meirion Lloyd Davies.
"Ac i mi yr argyfwng mawr sy'n wynebu'r eglwys ydi ceisio cyflwyno hanfodion y ffydd mewn ffordd sydd yn ystyrlon ac yn ddealladwy i bobl yn ystod y blynyddoedd yma," meddai.
Cytunodd Emlyn Richards bod "diffyg gweledigaeth" a "diffyg mentro melltigedig" yn y Gymru grefyddol sydd ohoni.
"A chwarae teg i Ben am dynnu tri ohonom ni at ein gilydd i drio ymateb iddo fo," meddai.
"Mae hwn yn beth da ac yn beth iach. Ryda ni wedi bod yn rhy dawel o lawer ac rydw i'n dod yn ôl at y gweinyddwyr bondigrybwyll yma sy'n pwyllgora byth a hefyd . . . Dyda ni ddim ar y ffrynt iawn ac mae'n hen bryd inni ddod at y ffrynt cywir ac agos at y werin," meddai.
I ddarllen sylwadau D Ben Rees a gwrando ar y sgwrs roddodd gychwyn i'r drafodaeth cliciwch YMA
|