³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Y Parchedig Elwyn Jenkins 'I'th ddwylo di . . .'
Geiriau Crist ar y groes
Oedfa'r Bore
³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru
Chwefror 25, 2007
Y Parchedig Elwyn Jenkins, Llanbedr-pont-Steffan.

Thema: O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd.

  • Cliciwch YMA i gael gwybod am oedfaon eraill y Grawys, 2007

  • Cyflwyniad
    Ar y Sul cyntaf yn y Grawys estynnwn wahoddiad cynnes i chwi fel gwrandawyr i ymuno â ni yn ein gwasanaeth o Eglwys Shiloh, Llanbedr-pont-Steffan.

    Dros gyfnod y Grawys mi fydd Oedfa'r Bore ar Radio Cymru yn ystyried geiriau Crist ar y Groes, geiriau cyfarwydd iawn i ni i gyd, ei eiriau wrth ei fam er enghraifft, neu wrth y lleidr ar y groes wrth ei ochr.

    Cyhoeddi fod arno syched; heb sôn am yr alwad ddirdynnol, " Fy Nuw, Fy Nuw, paham y'm gadewaist?" - a'r gri fuddugoliaethus; "Gorffennwyd".

    Drwy'r geiriau hyn, gobeithiwn gael golwg aml ochrog ar aberth Crist.

    Ond heddiw rydyn ni'n dechrau'r gyfres Oedfaon hon gyda geiriau olaf Crist ar y groes, geiriau y byddai rhai yn eu hystyried yn ochenaid olaf.

    Mae'n troi at ei Dad ac yn yngan y geiriau hyn, "I'th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd."

    Gallai dyn ofyn pam dechrau fan hyn, dechrau yn y diwedd fel petai, ond mae'r geiriau hyn yn gosod popeth yn ei gyd-destun, nid ar fympwy y digwyddodd y croeshoeliad hwn, nid damwain hanesyddol oedd hi, roedd y cyfan mewn ffordd ddirgel yn llaw Duw. A holi byddwn ni sut y mae bywyd a marwolaeth Crist yn batrwm o ddyn yn ildio'i hun yn llwyr, yn rhoi ei ysbryd yn nwylo Duw.

    Emyn cynulleidfaol
    O Cenwch fawl i'r Arglwydd - Caneuon Ffydd rhif 24

    Darlleniad
    Eseia 53: 1-11

    Emyn - Côr Corisma
    Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn - Caneuon Ffydd rhif 217

    Darlleniad
    Mathew 4: 1-11

    Gweddi
    Emyn
    I Galfaria trof fy wyneb - Caneuon Ffydd rhif 496

    Y bregeth
    Hyfrydwch gennyf ar y Sul cyntaf o dymor y Grawys yw agor y gyfres o oedfaon bydd yn ein harwain at y Pasg.

    Y Parchedig Elwyn Jenkins Mae'r Grawys yn dechrau ar ddydd Mercher y Lludw yn ôl y calendrau Cristnogol ac yn gorffen brynhawn Sadwrn cyn y Pasg.

    Mae'r arferiad yma gan yr Eglwys yn mynd yn ôl i'r bedwaredd ganrif fel adlais o'r deugain niwrnod y bu i'r Arglwydd Iesu Grist gael ei demtio gan Satan yn yr anialwch ar ddechrau ei weinidogaeth.

    Mae'r gair Saesneg Lent yn golygu lenghthening, mae'n gyfnod dechrau'r gwanwyn pan fo'r dyddiau'n hirhau, a phobl yn codi calon wrth weld y gaeaf a'i drafferth yn cilio.

    Ar ôl i Iesu gael ei fedyddio gan Ioan Fedyddiwr yn yr Iorddonen a derbyn bendith y goruchaf Dduw; "Hwn yw fy annwyl Fab yn yr hwn y'm bodlonwyd," mae'r ysbryd yn ei anfon i anialwch Jiwdea i gael ei brofi gan ddiafol.

    Mae'r Iesu'n teimlo bod rhaid iddo brofi ei hun yn erbyn galluoedd y tywyllwch ac i benderfynu ei strategaeth, sef pa fath o Feseia roedd am fod, cyn y gallai arwain pobl i ffordd iachawdwriaeth.

    Pan ofynnodd rhywun i'r ysgolhaig D.S. Lewis; "Do you mean to introduce our old friend the devil, hoofs, horns and all?"
    ei ateb oedd
    "I am not particular about the hoofs and the horns but I believe in the devil as an evil influence."

    Y drafferth yn amlach na pheidio yw bod y cyrn a'r carnau wedi ei wneud yn destun sbort ac mae hynny yn rhwystr i bobl weld ei waith a'i effaith.

    Ond yr un pryd ac y mae pobl yn barod iawn i wadu'i fodolaeth y mae amryw yn holi o ble daeth drygioni ein byd, pam fod pobl yn cam-drin ei gilydd, pam bod trais ac anghyfiawnder.

    Ond ar y llaw arall mae hi'n ddigon rhwydd i'r bobl hynny a brofodd ffwrneisi Auschwitz gredu ym modolaeth a gweithredoedd y diafol.

    A hefyd i bobl eraill sydd wedi profi'r atgasedd a'r creulonderau y mae dynoliaeth yn gyfrifol amdano yn y byd. Mae'n amlwg bod rhyw ddylanwad drwg ar waith sydd yn tynnu pobl lawr fel deddf disgyrchiant ond yn sicr nid felly y bwriadodd Duw i bethau fod.

    Mi ddywedodd rhywun unwaith wrth Cynddylan Jones nad oedd yn credu yn y diafol, ar ateb oedd; "Os nad oes diafol yn bod liciwn i wybod pwy sy'n cario ei fusnes e mlaen!"

    Gwyddai'r Iesu bod ei deyrnas ef yn herio bwriadau'r diafol, ac felly mae'r Iesu'n cael ei arwain gan yr ysbryd i anialwch Jiwdea i brofi ei hun ar gyfer ei weinidogaeth i'r byd.

    Cofiaf fod yno, yn yr anialwch, flynyddoedd yn ôl yn gweld y creigiau serth ofnadwy a theimlo gwres tanbaid yr haul a'r poeri sych, dim yno ond byd diffaith - mae'r gair Cymraeg - difethwch yn dal y teimlad roedd rhywun yn ei gael yno.
    Lle unig, diobaith, bygythiol yn wir.

    Ac yn yr anialwch mae'r Iesu'n cael ei demtio i wneud gwyrthiau mewn sawl cyfeiriad i ennill poblogrwydd a chymryd y ffordd rhwydd.

  • Troi'r cerrig yn fara oedd y temtasiwn cyntaf - ennill poblogrwydd drwy gynnig llwyddiant materol i bobl, ac mae'r Iesu yn ei wrthod.

  • Yna cyflawni tric oedd yr ail - taflu ei hun o binacl y Deml a'r angylion yn ei achub. Hynny yw, tric rhyfeddol - ond disylwedd, ac mae'r Iesu yn gwrthod eto.

  • A daw'r trydydd temtasiwn - i dderbyn gwrogaeth pawb drwy gyfaddawdu ar ei neges trwy blygu i Satan.

    Ond unwaith eto fe wrthodir y demtasiwn.

    Nid rhyw James Bond neu Dr Who mo'r Iesu yn creu sioe fawr ddramatig er mwyn dechrau cyfres arall.

    Gwyddai fod bod yn Feseia yn golygu talu pris, roedd yn mynd i gostio ei fywyd iddo, cerdded ar hyd ffordd ddirmygedig y groes.

    Nid lle daearyddol ar y map yn unig yw anialwch Jiwdea, iddo ef roedd y frwydr rhwng y da a'r drwg yn mynd ymlaen yn ei galon bob cam.

    Roedd wedi penderfynu dewis dilyn llwybr y gwas dioddefus yn ôl proffwydoliaethau Eseia amdano - dirmygedig oedd ac ni wnaethom gyfri ohono.

    Ac felly, nid rhywbeth newydd oedd dweud ar y groes, "I'th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd."

    Gwyddai beth oedd ei dasg o'r cychwyn cyntaf. Yn ddeuddeg oed roedd wedi dweud wrth ei rieni fod raid iddo fod yng nghylch gwaith ei Dad nefol.

    I mi heddiw
    Ond beth mae hyn oll yn ei olygu i ni heddiw os ydym am fendith y Grawys?
    Efallai bod rhai ohonom sydd yn gwrando'r bore ma yn cofio'r dyddiau hynny pan yn croesi rheilffyrdd a gweld tri gair Saesneg ar arwydd.

    Roedd un yma yn Llambed fel mewn lleoedd eraill, a'r tri gair yn glir a chofiadwy: STOP-LOOK-LISTEN.

    I bwrpas y Grawys gadewch inni sylwi ar y tri gair pwysig hyn. Fe allent arbed llawer o ddamweiniau mewn ystyr arall ar daith bywyd.

    Yn gyntaf AROS:
    Mae'r Grawys yn gofyn inni aros a meddwl i ble yr ydym yn mynd. Fe aeth gair yr Arglwydd yn ddieithr i lawer erbyn hyn mewn oes faterol. Onid yw bywyd wedi mynd yn ras wyllt. Mae pawb ohonom fel petaem ar redeg i rywle o hyd, a ffôn symudol yn canu'n ddi-baid, dyddiaduron yn orlawn o bwyllgorau a chyfarfodydd, a'r e-bost yn boen diarbed i lawer.

    Dywedodd rhwyun: "There is only one thing wrong with the rat race. Even if you win, you are still a rat."

    Ond mae'r Grawys yn gyfle i newid, aros am eiliad i fesur gwerth y prysurdeb mawr a holi beth yw byw bywyd lle mae rhywun wedi ildio'i ysbryd i ddwylo Duw a dilyn arweiniad yr ysbryd, a gwerthoedd yr efengyl.

    "Ymlonyddwch a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw," medd y Beibl - oherwydd wrth aros yn ei bresenoldeb ef rydym ni'n cael y 'perspective' gorau i fywyd; ac yn sylweddoli fod yna fwy i fywyd nac a wêl y llygaid noeth.

    Gyda'n hysbryd yn ei ddwylo ef, y mae gwerth newydd i bobl o'n cwmpas, mae teulu dyn yn fwy na hap a damwain, mae'n golygu rhannu'r un Tad nefol.

    Mae rhywun yn gweld y cread a ninnau yn llaw crëwr ac mae ei gariad ef yn rhoi gwerth i ni na welwyd ei debyg erioed o'r blaen.

    "Mi a ddeuthum fel y cant fywyd," meddai'r Iesu. "A'i gael ef yn helaethach."

  • Yn ail, EDRYCH:
    Wrth deithio'n gyflym ar y rheilffordd neu wrth frysio i groesi'r llinell, efallai bod yr arwydd yn aneglur ac y mae'n rhaid arafu i weld yr arwydd yn glir i arbed damwain.

    Mae'r Grawys yn ein gwahodd i wneud rhywbeth tebyg o ran ein ffydd, sef edrych ar Iesu Grist, yr hwn a rannodd ein natur ni a gwybod am ein temtasiynau, ond a gwnaeth hynny yn ddibechod.

    Ond nid yw'r gair pechod yn boblogaidd heddiw, gwell defnyddio termau eraill yn ei le, y complex hwn a'r complex arall, y syndrome hon a'r syndrome arall.

    Fe ysgrifennodd y seiciatrydd byd enwog Karl Meninger lyfr, "Whatever became of sin?" gan ofyn y cwestiwn; Onid oes neb yn pechu mwyach?

    Pa enw bynnag a ddefnyddiwn yn ei le y mae dyn yn greadur sychedig a rhyw dwist yn y natur ddynol sy'n ein denu'n ddireswm at hunanoldeb, at ddrygioni, at ddicter a malais, ac yn ystod y Grawys mae 'na gyfle i ni roi tro i'r cyfeiriad arall, cyfle inni'n feddwl am fywyd ac esiampl Iesu Grist a'i ddysgeidiaeth.

    Cofio bywyd un oedd wedi ildio'i ysbryd i ddwylo'i Dad, un oedd yn cyflawni gofyn ei Dad, hyd yn oed pan oedd hynny yn golygu marw ar y groes oherwydd ein pechodau, ac i'n rhyddhau o gadwynau pechod.

    Eleni rydym ni'n dathlu dau gan mlynedd penderfyniad Prydain Fawr, o dan arweiniad William Wilberforce, i ddiddymu'r fasnach mewn caethion.

    Fe gariwyd nifer o'r caethion hyn o Affrica i'r America, yn eu cadwynau, i weithio yn y meysydd cotwm.

    Ni wnaeth neb fwy drostynt yn y wlad honno nag Abraham Lincoln a phan gafodd ei lofruddio cariwyd ei gorff drwy'r strydoedd.

    O weld yr orymdaith yn mynd heibio cododd gwraig o dras y caethweision ei phlentyn i edrych dros ysgwyddau'r rhai oedd o'i blaen a dweud wrtho; "Take a good look honey, he died for you."

    Ac onid dyna wnawn ninnau mewn edifeirwch yw edrych i gyfeiriad y groes a sylweddoli o'r newydd bris ein hiechydwriaeth, pris ein rhyddhau o gadwynau pechod.

    A phwy all ddweud hyn yn well na Williams Pantycelyn:

    Os edrych wnaf i'r dwyrain draw
    Os edrych wnaf i'r de
    Ymhlith a fu nes eto ddaw
    Does debyg iddo ef.

  • Yn olaf, GWRANDO:

  • Sawl dydd yn ôl pan nad oedd gennym y dechnoleg fodern roedd yn rhaid gwrando hefyd cyn croesi'r rheilffordd, rhag ofn bod trên yn dod.

    Doedd hi ddim yn ddigon i ddibynnu ar y llygaid yn unig, rhaid oedd gwrando.

    " A wyt ti'n mynd i wrando arnom?" meddai'n rhieni wrthym pam oeddem yn blant.

    Hynny yw, A wyt ti'n mynd i wneud beth ydym ni'n ddweud wrthyt?

    "Yr hwn sydd yn gwrando ar y geiriau hyn," medd yr Iesu, "mi a'i cyffelybaf i ŵr doeth yr hwn a adeiladodd dŷ ar y graig."

    Mae gan y tÅ·^ yna a adeiladwyd ar y graig sail gadarn, sylfaen a fydd yn gymorth i'r dyfodol a hynny, sylwch, am i'r dyn wrando, a'r gwrando hwnnw yn cynnwys gweithredu.

    Ond weithiau, y mae tipyn o ffordd rhwng y glust a'r galon. Gallwn glywed, ond heb wrando, hynny yw deall beth yw galwad Duw arnom, gwybod fod gwrando galwad Duw yn lles i ni, ond peidio gwrando, dim ond clywed.

    Mae yna berygl hefyd o golli ein blaenoriaethau fel llong fasnach ar y môr sydd wedi mynd i drafferthion, y criw am ysgafnhau'r llwyth ac yn taflu'r cwmpawd a'r siart dros y bwrdd ond yn cadw'r cargo a cholli'r cyfan yn y diwedd.

    Onid y perygl yn yr oes faterol hon yw cael gwared â'r Beibl a dysgeidiaeth yr Arglwydd, er mwyn dal ein gafael ar bethau llawer llai gwerthfawr, a phethau yn mynd ar chwâl yn y diwedd?

    Meddai W B Yates: "Things fall apart,/ The centre can not hold."

    Bu yna adeg yng Nghymru pan y'i galwyd hi yn wlad y menig gwynion a'i ystyr oedd nad oedd neb wedi torri'r gyfraith yn y rhan hon o'r wlad ac fe roddwyd par o fenig gwynion ar y bwrdd o flaen y barnwr neu'r ynadon fel arwydd o hynny.

    Fe gafwyd y gymdogaeth dda, arbennig honno am fod gair yr Arglwydd yn bwysig a'i Ysbryd ef yn cerdded y wlad.

    Edifeirwch ydi'r allwedd i ddeall y Grawys.
    Troi tudalen newydd, rhoi heibio ffug werthoedd sydd yn darfod a rhoi'r pwyslais unwaith eto ar y rhinweddau Cristnogol.

    Iesu sy'n caniatáu i ni wneud hynny. Ef yw'r un a ildiodd y cyfan yn ei fyw ac yn ei farw i ddwylo, neu i ewyllys ei Dad. Onid yw hynny yn golygu newid mwy sylfaenol o lawer na rhoi rhywbeth fel chocolates neu sigarennau i fyny dros dymor y Grawys.

    Rwy'n gorffen
    Fe ddaw geiriau atom o bob cyfeiriad heddiw. Geiriau i'n denu, i geisio i ennill ein cefnogaeth, trwy gyfrwng y radio, teledu neu'r wasg.

    Geiriau, geiriau, geiriau.
    Jargon busnes, jargon gwleidyddol ac yn y blaen.
    Llawer gormod i gael eu gwireddu - ac meddai'r sinig, dyna'r holl bwynt.

    Ond does dim eisiau sbin ar air yr Arglwydd, y mae'n medru sefyll ar ei draed ei hun: "Gair ein Duw ni a saif byth"

    . Os oedd Ioan Fedyddiwr yn bedyddio a dŵr trwy edifeirwch, mae Iesu Grist am ein bedyddio â'r Ysbryd Glan, Ysbryd sydd yn ein galluogi ni i roi'n hysbryd yn ei ddwylo Ef .

    Ac onid dyna ein hangen mwyaf ni heddiw? Sef cael ymweliad yr Ysbryd Glân, er mwyn ein hunain, er mwyn yr eglwys, ac er mwyn ein gwlad.
    Amen.

    Emyn - Côr Corisma
    Pererin wyf - Caneuon Ffydd rhif 682
    Y Fendith

    Cliciwch i ddychwelyd i brif ddalen Oedfaon y Grawys 2007

  • Cliciwch YMA i gael gwybod am oedfaon eraill y Grawys, 2007


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý