|
Oedfa'r Bore, ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru, Sul, Mawrth 25, 2007 Y Parchedig Pryderi Llwyd Jones, Aberystwyth. Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?
Emyn
Darlleniad: Marc 15:3-41
Bore da a chroeso o oedfa'r bore. "Elai, elai, lama sabachthani - Fy Nuw, fy Nuw paham yr wyt wedi fy ngadael" yw thema'r oedfa olaf yn y gyfres yma o eiriau Crist ar y groes.
Er ei bod yn Sul y Blodau a chofio'r dyrfa, y croeso, yr Hosana, y cyrraedd buddugoliaethus, fe fyddwn yn cofio yn y gwasanaeth am un oedd yn mynegi unigrwydd eithaf ei enaid yn y geiriau, " Fy Nuw, fy Nuw . . ."
Un frawddeg, un munud, un weddi
Efallai nad yw'n deg canolbwyntio ar un frawddeg un munud, un weddi mewn wythnos sydd yn llawn o bethau cadarnhaol a gobeithiol.
Hyd yn oed yn yr wythnos hon - yn arbennig yr wythnos hon - y mae digon o bethau cadarnhaol: grym cariad, urddas a dewrder, yr aberth mawr, unplygrwydd ffordd ddi-drais y deyrnas.
Maent i gyd yn disgleirio mewn tywyllwch yr wythnos hon ac y mae hyn cyn dechrau sôn am atgyfodiad, bywyd, llawenydd, gobaith ac Efengyl y Pasg.
Ond ar yr un frawddeg yma yr ydym am ganolbwyntio oherwydd ei bod yna, wedi ei chofnodi ac wedi ei chadw yn Efengyl Iesu o Nasareth.
Efallai y byddai'n haws pe na fyddai yna. Mae'r geiriau eraill o'r groes yn haws eu derbyn ac yn haws eu deall: I'th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. . .
O Dad, maddau iddynt . . .
Gorffennwyd.
Maent yn ffitio i mewn i'n diwinyddiaeth a'n haddoli.
Nid yw'n help chwaith nad yw Ioan a Luc yn sôn am y geiriau - ond dyma'r unig eiriau a gofnodir gan Marc a Mathew ar y groes.
Dyma'r geiriau a fyddai rhywun yn eu disgwyl gan ddyn yn marw marwolaeth erchyll. Dyna, efallai, y geiriau sydd wedi cael eu meddiannu lwyraf gan ddynion a merched, oherwydd y maent yn eiriau cwbwl naturiol mewn amgylchiadau o'r fath.
Dyna pam eu bod yn eiriau mor bwysig.
Cerddoriaeth
Dynoliaeth a dioddefaint Crist yn un A dyma un peth i'w bwysleisio.
Yn y geiriau yma y mae dynoliaeth a dioddefaint Iesu yn un.
Roedd y dramodydd John Gwilym Jones yn arfer rhannu a chyfiawnhau ei anffyddiaeth drwy ddweud; "Doedd dim problem i Iesu - roedd o'n Fab Duw yn 'doedd?"
Roedd o yn gwybod sut i wynebu a sut i setlo pob peth, sut i ddelio a phethau anodd bywyd a doedd ddim yn rhaid iddo boeni fel pawb arall oherwydd roedd o yn gwybod y bydda fo yn OK yn y pendraw.
Mae'n agwedd sy'n adlewyrchu ymdrechion dros y canrifoedd i geisio rhoi rhyw wisg o ddwyfoldeb o gwmpas Iesu i'w warchod rhag y ddynoliaeth sydd yn medru gofyn, "Fy Nuw, fy Nuw, paham yr wyt wedi fy ngadael...?"
Nid cri anghrediniaeth ydyw ond gwewyr enaid mewn dioddefaint mawr yn troi at Dduw.
Mae'n weddi, mae'n gri o'r dibyn ac yn sgrech yn y tywyllwch.
Mae'n gweddu i groeshoeliad. Iaith poenydio a dioddefaint ydyw. Iaith miwsig nid iaith emyn. Iaith dynoliaeth Iesu am ei bod yn iaith y ddynoliaeth.
Beth yw ystyr yr hen iaith am Iesu yn disgyn i uffern yn y credoau cynnar ond hyn: Uffern yr ymdeimlad o gredu fod Duw wedi troi cefn a bod dyn yn gwbwl, gwbwl, ar ben ei hun.
Emyn
Geiriau o salm Ond mae angen cofio rhywbeth arall. Mae'r geiriau yn ddyfyniad o Salm 22.
Darllen: Salm 22:1-11
Yr oedd Iesu, wrth gwrs, yn gyfarwydd iawn â'r salmau o'i blentyndod.
Efallai ei fod wedi bod yng nghwmni rhywun arall yn marw a fyddai wedi dyfynnu'r union eiriau neu'r union salm.
Salmau felly ydynt a salmau felly ydynt o hyd.
Ar fwy nag un achlysur yr wyf wedi adrodd Salm 23 gyda rhai oedd yn marw ac ar un achlysur rydw i yn cofio gwraig yn adrodd rhan o Salm 139:
"I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd... Os cyweiriaf fy ngwely yn uffern wele di yno"
a chanser y gwddw yn ei difa'n araf, greulon.
Ond yr oedd hi, fel Iesu, mor gyfarwydd â'r salm fel na allai ddyfynnu heb gofio'r salm gyfan.
Er bod Iesu yn gyfarwydd â'r geiriau nid yw hynny yn golygu ei fod ar y funud honno, munud ei farw mewn poen, yn cofio'r salm ond mae'n hawdd deall pam y daeth geiriau cyntaf y salm i'w feddwl yn reddfol yn ei ing .
Mae geiriau eraill yn y salm a fyddai'n gyfarwydd iddo:
"Yr wyt ti yn foliant i Israel, fe gyhoeddaf dy enw a'th foli . . . byddaf fi fyw iddo ef . . ."
Ond yr oedd yn marw a daeth ei brofiad ef yn un a phrofiad y salmydd, a chwestiynau y salmydd yn un â'i gwestiynau ef.
Cerddoriaeth
Wrth feddiannu geiriau'r Salm i fynegi gwewyr ei farwolaeth y mae Iesu eto yn dangos yr ysbryd rhyfeddol sydd mewn dyn i fedru wynebu dioddefaint erchyll a pharhau i gydio yn ei Dduw a throi ato oherwydd ei fod yn credu nad yw Duw byth yn gollwng gafael arnom - byth yn troi cefn.
Wedi cael cysur mawr
Ar hyd y canrifoedd cafodd dynion a merched gysur mawr o eiriau ingol Iesu.
Mae ei gwestiwn mawr wedi bod yn gysur mawr.
Efallai ein bod yn cysylltu'r geiriau "Nos fawr yr enaid" - a dyna yw geiriau Crist - yn arbennig â Sant Ioan y Groes, y cyfrinydd sydd yn un o brif feirdd Sbaen ac a fu farw yn 1591 yn 49 oed.
Adnabod Duw yn nos yr enaid yw pwyslais ei waith [[ac mae cyfieithiad gan Gareth Alban Davies yn ei lyfr Y Ffynnon sy'n Ffrydio - blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg.]
Da gwn y ffynnon sy'n llifo a llenwi Ond mi wn yn dda ymhle mae hi'n codi Er taw nos yw hi, meddai.
Gwyddai Ioan y Groes fod nos dywyll yr enaid yn brofiad meidrol iawn. Dyna paham fod yna rhai Cristnogion yn ei chael yn anodd credu y gallai Iesu fod mor feidrol â hynny.
Er eu bod yn barod iawn i arddel yr ymgnawdoliad fel athrawiaeth, maent yn methu derbyn oblygiadau hynny.
Dyma pam y bydd rhai am ddehongli'r geiriau fel hyn:
Am na allai Duw edrych ar bechod fe guddiodd ei wyneb.
Fe wnaeth Duw droi wrth roi ein pechod ni ar ei fab ei hun oherwydd - meddir - ni all Duw cyfiawn edrych ar bechod, felly mae'n troi oddi wrtho.
Fe ildiodd Iesu i hynny ond ein pechod ni oedd arno ef.
Y mae'r un dehongliad yn mynd ymlaen i ddweud nad achos naturiol oedd tu ôl i farwolaeth Iesu ond yn y diwedd mai yn wirfoddol y bu farw . . . rhoddodd i fyny'r ysbryd - ystyr hynny meddant, yw o'i fodd. Gweithred wirfoddol ar ei ran ydoedd.
Yn ôl y dehongliad yma nid y croeshoelio a laddodd Iesu yn y diwedd ac felly nid cwestiwn y meidrol yn nyfnder ei ddioddefaint sydd yma a 'doedd dim a ddigwyddodd yma yn torri'r berthynas ac yn chwalu undod y Drindod sanctaidd.
Ei ddynoliaeth yn cyrraedd ei llawn dwf
Ond, onid yma, yn arbennig, y mae ei ddynoliaeth yn cyrraedd ei llawn dwf?
Yn y dioddef, yn y marw, yn y cwestiwn - ac nid yn wirfoddol ond trwy ddioddefaint mawr. Aeth yn wirfoddol i'r groes, ond ar y groes lle'i lladdwyd.
Rhannu ein profiadau ni Y mae Iesu yn rhannu ein profiad ni.
Weithiau mae Duw fel petai mor, mor, bell.
Weithiau rydym yn dyheu am deimlo ei gariad a'i gysur a'i gwmni. Mae'r Cristion bellach yn gwybod nad Duw allai droi cefn ar ei fab ei hun yw ein Duw ni - ei gariad yw ei gyfiawnder - ond mai yn yr union ddioddefaint a'r union gwestiwn hwnnw y mae Duw yno a dwyfoldeb ei gariad tragwyddol yn cael ei ddatguddio yno - Trwyddi, mi wn, pob golau a oleuir, er taw nos yw hi'
Neu yng ngeiriau grymus Henry Vaughan y bardd; There is, some say, in God a deep but dazzling darkness.
Wylo, tosturio, caru a chofleidio ei fab ar y Groes a wnaeth Duw. Nid troi ei wyneb. Pa fath Dduw - ac yntau fel mam a thad i ni - fyddai Duw felly?
Cymharu dioddefaint Yn ei gyfrol Enduring Melody a ysgrifennodd yn ystod cystudd y canser mae'r diweddar Michael Mayne yn dweud yn y bennod, The questioning country of cancer, sut y mae'n gweld ei ddioddefaint yng nghyd-destun dioddefaint pobl eraill.
Soniodd, yn y cyfnod hwnnw fod miloedd o gyrff yn gorwedd ar strydoedd Baghdad; cannoedd yn farw yn New Orleans oherwydd dinistr didostur corwynt Katrina; a daw Sheila i'w gweld a sôn am ei nai yn ei dridegau wedi cael ar ddeall fod ganddo ganser yn y stumog.
"Sut y gallai sgwennu am fy helyntion bach i pan fo cymaint yn dioddef llawer iawn mwy?" meddai
Sut byddai ei ffydd o yn wynebu trychinebau a cholledion o'r fath?
Ond eto, meddai, mae gwreiddiau ein ffydd yng Ngethsemane ac yn y gri ar y groes: "Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?"
Ar hyd y canrifoedd mae pobl wedi dod yn nes at Dduw yn y gri yna nag yn unman arall.
Ac yma yng ngwlad cwestiynau ei ganser fe ddaeth Michael Mayne i gredu hynny hefyd.
Cerddoriaeth
Does neb wedi mynegi hyn yn fwy grymus na'r grŵp roc U2 a'r prif leisydd, Bono sy'n gorffen eu trydydd albwm, War - sydd, fel y mwyafrif o'u gwaith yn rymus o gyfoes ei thema a'i bwyslais - gyda thrac o'r enw '40'.
Salm ydi deugain: Y mae fy enaid mewn
arswyd mawr, tithau, Arglwydd, am ba
hyd?
Dywed Bono mai penderfyniad munud olaf oedd rhoi '40' ar yr albwm er mwyn cael dyfnder ysbrydol wedi gwleidyddiaeth a rhamant a phrotest y CD.
Dywedodd na chytunai pob un yn y band gan dybio na fyddai'r gynulleidfa yn croesawu crefydd.
"Ond mae cannoedd o'n nosweithiau bellach wedi gorffen gyda 40 ac mae môr o leisiau ac wynebau yn gymysg oll i gyd yn dal gafael yn y cwestiwn," meddai.
Ychwanegodd mai salmau dieithrwch a chwestiynau ofnau ac unigrwydd oedd ei hoff salmau ef a'i fod bob amser yn meddwl ei bod yn od fod lleisio'r fath gwestiynau ar gân yn dod a'r fath gysur iddo.
Ydych chi'n cofio adnod arall yn Salm Fy Nuw, fy Nuw, paham...?
Hon: Yr wyt ti yn foliant a byddaf fi fyw iddo ef.
Gwreiddiau ein gorfoledd Nodau cyntaf Symffoni'r Pasg yw, Fy Nuw ,fy Nuw, paham yr wyt wedi fy ngadael - Eloi, eloi lama sabachthani.
Fe'u clywyd yng nghân y caethion wrth iddynt gael
eu gormesu â chreulondeb mawr.
Ond y gân honno yw gwreiddiau eu gorfoledd.
Yn y gri mae symffoni yn cael ei geni - neu, yn fwy cywir, yma mae'r symffoni yn dechrau symud i orfoledd.
Stori fach byw'n-hapus- byth-wedyn fyddai'r Pasg oni bai am hynny.
Ac er mor braf yw storiâu felly, yr ydym angen gwybod y gwir:
am fywyd, am farw, am
Iesu.
Diolch i Dduw - yma mae cri
Iesu ar y groes yn dod yn salm gobaith Gwaredwr y byd.
Gweddi
Heddiw, Arglwydd, ar Sul y Blodau
cofiwn y dyrfa, cofiwn y ddinas yn llawn dathlu Gŵyl y Pasg,
a chofiwn dy Fab, yn unigrwydd ei daith olaf
yn wynebu Gethsemane a'r groes -
a chofiwn bobl unig ein cymdeithas lawn a phrysur,
y rhai sydd heb gyfaill enaid
ac yn eu hunigrwydd yn deall "Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist."
Cofiwn y rhai sydd yn mynd drwy ddioddefaint eu hafiechyd - y boen yn annioddefol, yr ofnau yn fawr a'r meddwl yn aml ar chwâl
a'r geiriau "Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist' yn ingol o agos.
Cofiwn y rhai sydd yng nghanol trais, gormes ac anghyfiawnder ein byd, yn gweld popeth yn chwalu o flaen eu llygaid, yn colli cartref, colli teulu, colli bywyd, a'u cri a'u dagrau yn llawn "Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?"
Ond diolchwn hefyd, O Dduw, dy fod Ti drwy Dy Fab yn bugeilio pobl y cwestiynau,
yn bugeilio yn dyner a gofalus yr eneidiau clwyfus sydd yn dyheu am Fugail Da ac am olau mewn tywyllwch - a heddiw, fel erioed, ar ddechrau wythnos fawr Gwaredwr y Byd
mae ganddo le ac amser a gwahoddiad i'r defaid crwydrol a'r defaid cloff eistedd gydag ef wrth y bwrdd i'w gofio yng Ngethsemane, i'w ddilyn hyd yn oed o bell ar y Via Dolorosa
ac i blygu wrth y groes a chlywed ei gri yntau, "Fy Nuw, fy Nuw paham y'm gadewaist."
Ond credwn, Arglwydd, nad oes Sul y Blodau heb Sul y Pasg, nad oes gwestiwn heb gân yr Atgyfodiad a bod dioddefaint y groes yn dywyllwch cyn gwawr y trydydd dydd:
Cododd Iesu - cariad yw Duw,
Cododd Iesu - goleuni yw Duw,
Cododd Iesu - nos eu trallod aeth yn ddydd.
Amen.
|
|