³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Straeon
Jeffrey John Gorffennwyd
Geiriau Crist ar y Groes
  • Oedfa'r Bore, ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru, Sul, Ebrill 6, 2007
  • Y Gwir Barchedig Jeffrey John, Deon St Albans.
  • Gorffennwyd.

    Emyn:
    Gwaed y Groes sy'n codi fyny.

    Bore da a chroeso i Oedfa'r Bore.
    Dros gyfnod y Grawys mae Oedfa'r Bore ar Radio Cymru wedi bod yn ystyried geiriau Crist ar y Groes, a thrwy'r geiriau hynny geisio gwell dealltwriaeth o'r hyn a ddigwyddodd a'r hyn a gyflawnwyd ar y groes.

    Heddiw, ar ddydd Gwener y Groglith, rydym yn dod at un o'r dywediadau mwyaf adnabyddus a lefarwyd gan Grist. Un gair yn unig - Gorffennwyd.

    Gweddi

    Darlleniad:
    Yr Efengyl yn ôl Sant Ioan - "Ar ôl hyn yr oedd Iesu'n gwybod fod pob peth bellach wedi ei orffen . . . Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, 'Gorffennwyd'. Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd . . ."

    Segue

    Anerchiad:
    Fel y clywsom ni yn y darlleniad o efengyl Sant Ioan, "Gorffennwyd" oedd gair olaf yr Iesu ar y Groes, wedi iddo yfed y gwin chwerw a roddwyd iddo gan un o'r milwyr.

    "Gorffennwyd" - ac wedyn gwyro ei ben, rhoi'r ysbryd i fyny, a marw.

    Ond yn ogystal â Gorffennwyd mae 'na ystyr arall i'r gair gwreiddiol a sgrifennodd Sant Ioan - tetelestai yn y Groeg ac efallai mai Cyflawnwyd fyddai'r cyfieithiad gorau o'r gair hwnnw.

    Mae'n air cryf, sy'n cyfleu'r syniad o bwrpas wedi'i wireddu.
    Yn awgrymu buddugoliaeth yn hytrach na cholled.

    Beth gyflawnwyd?
    Ond beth yn union a 'gyflawnwyd' ar ddydd Gwener y Groglith?
    Pam roedd rhaid i Iesu farw ar y Groes, a pham ddylai hynny wneud gwahaniaeth i mi ac i chwithau heddiw?

    Pan oeddwn i'n blentyn, dwi'n cofio clywed rhywun yn y Capel yn ceisio rhoi esboniad o'r Groes.

    Dywedodd fod Duw yn Dduw cyfiawn dros ben a oedd yn casáu pechod ac felly roedd Duw yn ddig iawn tuag atom ni, oherwydd ein bod ni i gyd yn euog o bechu.

    Ac oherwydd bod Duw mor gyfiawn, roedd yn rhaid iddo ein cosbi ni ac felly roedd e wedi condemnio pawb, yr holl ddynol ryw, i uffern am byth.

    Ond, yn y diwedd, anfonodd Duw ei Fab Iesu Grist i ddioddef ac i farw ar y Groes yn ein lle.

    Gan fod Iesu'n ddibechod, a'i aberth yn berffaith, gosododd Duw arno ef y gosb oedd yn ddyledus i ni. Gwaed yr Iesu a dalodd bris ein pechod ni ac o'i achos Ef peidiodd Duw â bod yn ddig wrthym ni.

    Fe gymerodd Iesu y bai, ac fe gawsom ni faddeuant ac iachawdwriaeth ar yr amod ein bod ni'n dweud ein bod yn credu ynddo ef.

    Sut Dduw?
    Wn i ddim amdanoch chi, ond hyd yn oed yn fachgen dengmlwydd oed, ni allwn weld unrhyw synnwyr o gwbl yn yr esboniad hwn.

    Yn y lle cyntaf, pa fath o Dduw oedd hwn, yn digio mewn ffordd mor gas a milain wrth y byd a'r bobl a greodd ef ei hun - nes ei fod yn ein condemnio ni i gyd i artaith dragwyddol?

    Ac yna, er mwyn lleddfu ei ddicter, dyma fe'n lladd ei Fab diniwed a thrwy hyn yn maddau ein pechodau ni.

    Fe'i bodlonwyd gan waed yr Iesu.
    Wel - pa fath o gyfiawnder oedd hwn?

    A ble oedd y rhesymeg?
    Pam y byddai Duw yn maddau inni trwy gosbi rhywun arall? Yn enwedig rhywun diniwed.

    I mi roedd hyn yn waeth nac afresymol - roedd yn wallgof.

    Roedd Duw yn yr esboniad hwn yn swnio i mi fel seicopath. Pe byddai unrhyw berson yn bihafio fel hyn, byddem ni'n ei ystyried fel troseddwr patholegol.

    Dyna oedd fy ymateb i'r esboniad o'r Groes a roddwyd i mi yn fachgen a deugain mlynedd yn ddiweddarach - wedi blynyddoedd o astudio diwinyddiaeth - mae'n rhaid imi gyfaddef nad ydw i wedi newid fy marn o gwbl.

    Darlun anghyson
    I'm tyb i, mae'r esboniad yna bron a bod yn gableddus ac yn rhoi darlun o Dduw sy'n hollol anghyson â Duw Cyfiawn, heb sôn am Dduw Cariad.

    Ble, yn yr esboniad hwn, y mae'r Duw y dysgodd Iesu inni ei alw yn Abba - Tada?

    Ble mae Duw a ddisgrifir yn nameg y Mab Afradlon- y tad sy'n rhedeg o bell i groesawu ei fachgen da i ddim a maddau iddo yn y fan a'r lle, a'i gofleidio, a'i gusanu?

    Mae'r Duw hwn wedi diflannu a'i drawsffurfio yn rhyw anghenfil sy'n ysu am waed.

    Y ddamcaniaeth ddirprwyol yw'r enw swyddogol ar yr esboniad hwn. Gwrthodais ef pan yn ieuanc ac erbyn hyn rwy'n gwybod bod llawer o Gristnogion eraill wedi'i wrthod hefyd ac am yr un rhesymau.

    Ond, er hynny, dyna'r esboniad rydw i'n dal i'w glywed mewn cynifer o bregethau, mewn cyfarfodydd Beiblaidd ac mewn sawl eglwys.

    Os ydych chi'n gofyn i'r mwyafrif o Gristnogion esbonio'r Groes i chi, y tebygolrwydd yw y byddan nhw'n adrodd yr un stori hyll, ddisynnwyr wrthych, bron heb feddwl amdano.

    Yr esboniad cywir
    Wel, os ydi'r esboniad yma o'r Groes mor anhyfryd ac anghywir, beth yw'r esboniad cywir?

    Sut gallwn ni gysoni digwyddiadau dydd Gwener y Groglith gyda darlun o Dduw cariadus, cyfiawn?
    A beth mae hynny'n ei olygu i'n ffydd?

    Y peth cyntaf i'w ddweud, yn fy meddwl i, yw na allwn ni wahanu Duw'r Tad oddi wrth Dduw'r mab.

    Does dim rhaniad yn y Drindod: gwaith y Groes ydy gwaith y Drindod gyfan.

    Dyw e ddim yn gwneud synnwyr i siarad am Iesu caredig, neis, neis, i lawr fan hyn, yn lleddfu dicter Duw Dad cas a blin yn y nef.

    Dydy marwolaeth Iesu ddim wedi newid meddwl y Tad, neu wedi'i wneud yn neisiach.

    Rydym yn credu mai Iesu yw Duw ymgnawdoledig; fel dywedodd ef ei hun, "Pwy bynnag a'm gwelodd i a welodd y Tad".

    Yr Iesu sy'n dangos i ni yr hyn yw Duw; ef sydd yn ymgorffori natur Duw. A'r gwirionedd mwyaf sylfaenol am natur Duw yw mai Duw cariad yw e, nid Duw dicter.

    Arswyd y groes a chariad Duw
    "Cariad yw Duw."
    "Mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn."

    Felly, beth ydy'r cysylltiad rhwng arswyd y Groes a Chariad Duw?
    Sut oedd Duw yn gweithredu mewn cariad trwy'r fath drychineb?

    I'm tyb i, mae Sant Pawl yn mynegi'r gwirionedd orau, pan ddywed, "Yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun".

    Sylwch mai Duw ei hun sy'n gwneud y cymodi, trwy Grist - does dim gwahaniad rhyngddynt ac oherwydd mai 'cariad yw Duw', mae e'n gwneud yr hyn mae cariad bob amser yn ei wneud.

    Mae e'n dod lawr atom ni ac yn rhoi ei hun yn ein lle, er mwyn cael uno a ni.

    Yr hyn a welwn ni ar y groes yw Duw ei hun yn mynd i'r eithaf ar ein cyfer. Nid yn anfon dirprwy neu eilydd, ond Duw ei hun yn cael ei eni ym Methlehem, Duw ei hun yn rhannu gyda ni ym mhethau da a phethau gwael bywyd; ac yn y diwedd,

    Duw ei hun yn fodlon mynd i'r eithaf, yn rhannu'r dioddefaint a'r galar gwaethaf, ac yn y diwedd hyd yn oed yn rhannu ein marwolaeth.

    Mae Sant Pawl hefyd yn esbonio pam fod yn rhaid i Dduw farw yn y ffordd hon, ar groes.
    I'r ffordd Iddewig o feddwl roedd croeshoeliad yn gosb a oedd, yn ôl y Gyfraith, yn arwydd o felltith llwyr ac eithaf Duw: "Melltith ar bob un a grogir ar bren," fel y clywn ni yn Deuteronomium.

    Gwehilion y gymdeithas oedd yn cael eu croeshoelio, y rhai oedd wedi pechu fwyaf.

    Ystyr y groes, felly, yw bod Duw yn rhoi ei hun yn lle'r isaf o'r isel rai - yr union rai yr oedd pawb yn meddwl bod Duw wedi'u melltithio.

    Ond yn awr, yn ôl Pawl, dyma Dduw yn cyfnewid lle â nhw ac â ni.

    Yn lle bwrw melltith, dyma Dduw yn cymryd y felltith dybiedig arno'i hun ac yn dangos ei fod yn dioddef ein holl drais ni, ein holl gasineb ni, ein holl bechod ni - ac eto yn maddau inni.

    Dyma Dduw hyd yn oed yn rhannu ein profiad ni o'i absenoldeb Ef, pan waeddodd Iesu, "Fy Nuw, fy Nuw, paham yr wyt wedi fy ngadael?"

    Ar y groes mae Duw yn amsugno ac yn dadwneud holl ganlyniadau ein colledigrwydd ni - gan gynnig i ni yn eu lle berthynas newydd o gariad a thrugaredd a'r addewid o fywyd tragwyddol gydag ef.

    Does dim osgoi creulondeb y groes
    Dechreuais yr anerchiad trwy gwyno am yr esboniad gwaedlyd o'r Groes a roddwyd i mi yn blentyn.

    Ond, wrth gwrs, does dim osgoi creulondeb a gwaed y Groes. Mae'n wir dweud hefyd mai trwy dywallt gwaed Iesu ar y Groes y cafodd pris ein pechod ei dalu.

    Ond y pwynt yw: nad i Dduw y talwyd y pris hwnnw, ond gan Dduw.

    Yn hytrach na mynnu gwaed i leddfu ei ddicter, mae Duw yn tywallt ei waed ei hun er ein mwyn - y pris a dalodd Ef am ein caru ni gymaint.

    Emyn:
    Mi glywaf dyner lais

    Dirgelwch dyfnach
    Dyma ddirgelwch dyfnach ein ffydd: Duw ei hun yn rhannu ein dioddefaint a'n marwolaeth. Fel sgrifennodd Williams Pantycelyn; "Mae seraffiaid nef yn edrych/ Gyda syndod, bob yn un,/ Ar ddyfnderoedd cariad dwyfol,/ Duw yn marw dros y dyn."

    Nid yw'r argyhoeddiad fod Duw yn rhannu ein dioddefaint a'n marwolaeth i'w gael ymhlith Cristnogion yn unig. Nos Wiesel
    Mae enghraifft ddychrynllyd ohono mewn llyfr enwog o'r enw Nos / Night, gan Elie Wiesel, Iddew a garcharwyd yn Auschwitz gan y Natsiaid ac a anrhydeddwyd gan y Frenhines yn ddiweddar am ei wasanaeth i ddynoliaeth.

    Yn ei lyfr mae e'n disgrifio sut y gwnaeth llawer o Iddewon golli eu ffydd yn wyneb cymaint o erchylltra a drygioni.

    Roedd hynny i'w ddisgwyl. Ond yn baradocsaidd, i rai ohonyn nhw fe dyfodd eu ffydd, trwy sylweddoliad newydd o agosatrwydd Duw yng nghanol yr arswyd.

    Mewn un lle mae Wiesel yn sôn am fachgen yn y gwersyll a gafodd ei gosbi gan y gwarchodwyr am ddwyn bwyd. Crogwyd y bachgen ar weiren biano a gorfodwyd y carcharorion eraill i gerdded heibio ac edrych arno tra roedd yn marw yn araf o'u blaenau.

    Roedd yn rhaid ufuddhau, neu ddioddef yr un dynged eu hunain.

    Pan basiodd Wiesel heibio i'r bachgen, fe sylwodd fod tafod y plentyn yn dal yn goch a'i lygaid heb gymylu a dyma'r dyn oedd yn cerdded y tu ôl iddo yn sibrwd, gan ofyn cwestiwn iddo roedd wedi'i ofyn o'r blaen, "Ble mae dy Dduw di nawr?" ac fe glywodd Wiesel lais o'i fewn yn ei ateb, "Ble mae e? Dyma fe. Mae e'n crogi fan hyn ar y grocbren yma."

    Pan fo raid inni wynebu dioddefaint neu drychineb, ein greddf ni yn aml yw ysgwyd ein dwrn at y nef, a gofyn, "Ble mae Duw yn hyn?" neu "Pam fod Duw yn caniatáu hyn?".

    Ond os ydyn ni'n gofyn pethau fel hyn, yr unig beth mae'n ddangos yw nad ydym ni wedi dechrau deall gwir ystyr y Groes.

    Os ydym ni'n gwirioneddol ddeall mai Duw ei hun sydd ar y Groes, does dim pwynt ysgwyd dwrn at anghenfil dychmygol yn y nef.

    Dydy Duw ddim yn eistedd ar y cymylau, yn ddideimlad, yn penderfynu pwy fydd yn dioddef heddiw a phwy fydd ddim.

    Mae'r Groes yn ein dysgu ni fod Duw lawr fan hyn yn dioddef drwy bawb sy'n dioddef - nid yn unig ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, ond ar bob adeg ac ym mhob lle.

    Fel y dywedodd Pascal, "Jesus-Christ est ên agonie jusqu'a la fin du monde - Mae Iesu Grist mewn artaith hyd ddiwedd y byd."

    Emyn:
    I Galfaria trof fy wyneb.

    Beth orffennwyd?
    Os gofynnwch, Beth orffennwyd? Beth gyflawnwyd ar y Groes? - dyma'r ateb:
    Unwyd Duw yn llawn ac am byth gyda'r ddynoliaeth ddioddefus.

    Carodd Duw y byd gymaint, nes iddo ymgnawdoli yng Nghrist, ac wedyn wacau ei hun hyd yr eithaf.

    Daeth i lawr i fod lle rydym ni, er mwyn ein dwyn ni i fod lle mae ef.

    Gwybod mai Duw ei hun fu farw drosom ar y Groes yw'r peth mwyaf syfrdanol. Dyma baradocs mwyaf yr Efengyl a'i ogoniant mwyaf hefyd.

    O hyn allan, allwn ni ddim gweld Duw fel Duw dicllon, neu bell i ffwrdd gan fod Duw yn profi poen a brad ac unigrwydd a gwrthodiad.

    Mae Duw yn brifo a llefain, gwaedu a marw. Dyma ddirgelwch na allwn ond prin ei weld, heb sôn am amgyffred.

    Ar y Groes mae Duw wedi dangos ei fod ef ei hun, yn hytrach na pheri i ni ddioddef, yn gwirioneddol "oddef ein pechodau a chario ein gofidiau".

    Oherwydd Gwener y Groglith mae'n amhosib i ni weld Duw bellach fel "Duw i fyny fanna", yn dosbarthu pethau da a drwg yn ôl ei fympwy.

    Ar y Groes, hyd yn oed yn fwy nag yn y preseb, fe yw Emaniwel:
    Duw lawr fan hyn.
    Duw gyda ni.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý