Croeso a chyflwyniad gan y Gweinidog Y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor:
Yn Nadolig bob dydd i'r cyndadau
neu darllenwch beth oedd ganddo i'w ddweud, isod:
Nid oedd ein cyndadau anghydffurfiol yn dathlu'r Nadolig, oherwydd, iddynt hwy yr oedd pob Sul yn ddathliad o ddyfodiad Iesu i'n byd; a dylid myfyrio dros arwyddocâd y geni ym Methlehem ar bob adeg o'r flwyddyn, nid dim ond ar ganol gaeaf yn unig.
Yn yr un modd fe fynnent hefyd fod pob Sul yn Sul y Pasg ac yn gyfle i ddathlu'r atgyfodiad.
Mewn sawl lle, cynhaliwyd cyngherddau ac eisteddfodau ar y Nadolig ac nid cynnal oedfa arbennig fel sydd wedi dod yn ffasiynol ym mhob traddodiad eglwysig erbyn hyn.
Credai'r hen anghydffurfwyr hefyd nad oedd unrhyw rin arbennig yn perthyn i ddyddiau gŵyl, diwrnodau yr un peth â phob diwrnod arall ydynt.
Ni ddylid ychwaith, meddent, gyfyngu ewyllys da i un tymor byr yn unig, dylid arfer ewyllys da drwy'r flwyddyn gron; yn yr un modd dylid arfer haelioni drwy'r holl dymhorau.
Yn anorfod troi at ddathlu Gydag amser, fe liniarwyd rhywfaint ar bendantrwydd yr hen anghydffurfwyr i gadw at yr egwyddorion hyn yn ein traddodiad, ac erbyn heddiw mae'r Annibynwyr, fel y mwyafrif o Gristionogion, yn dathlu'r Nadolig fel gŵyl arbennig.
Mewn ffordd yr oedd hyn yn anorfod, ceir cymaint o bwyslais ar yr ŵyl yn ein cymdeithas erbyn hyn byddai'n beth ffôl i beidio â defnyddio hynny er mwyn ceisio lledaenu'r neges am wir ystyr y Nadolig.
Gan fod y mwyafrif llethol yn dathlu'r ŵyl heb ddeall ei harwyddocâd ac heb ddiddordeb yn ei hystyr, onid ein cyfrifoldeb yw ceisio arwain a goleuo gymaint ag y gallwn?
Dod i ganol cyffredinedd bywyd
Er hynny, rhaid cydnabod fod grym yn nadl yr hen anghydffurfwyr.
Y drafferth o neilltuo diwrnod, neu gyfnod, i ganolbwyntio ar ddigwyddiad yw datblygiad y gred ofergoelus fod rhyw rin arbennig yn perthyn i'r diwrnod ei hun.
Byddai credu hynny yn mynd yn groes i ran hollbwysig o neges y Nadolig. Dod i ganol realiti a chyffredinedd bywyd a wnaeth Iesu; pobol gyffredin oedd ei rieni, a realiti tlodi a sicrhaodd ei fod yn cael ei eni yn llety'r anifail.
Realiti creulon gwleidyddiaeth grym y cyfoethog a sicrhaodd ei fod yn gorfod ffoi i'r Aifft gyda'i deulu a byw bywyd yr alltud am gyfnod, cyn dychwelyd i ganol cyffredinedd bywyd Galilea.
Yn ei gerdd Ar Noson fel Heno y mae'r bardd T. Llew Jones yn pwysleisio taw noson debyg i nosweithiau eraill oedd y noson honno pan aned Iesu ym Methlehem, Jwdea, ychydig dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Ein dathliad ni sy'n rhoi arbenigedd i'r noson. Noson fel heno oedd hi mewn gwirionedd.
[Darllenwyd cerdd T Llew Jones, Ar Noson fel Heno gan blant yr eglwys.]
Cliciwch i ddychwelyd i brif ddalen Oedfa Hermon ac i ddarllen cyflwyniadau eraill draddodwyd yn ystod y gwasanaeth.
I'r ddalen nesaf
|