Mae llawer o ddarllenwyr Y Dinesydd yn siwr o fod yn gyfarwydd 芒'r stori drist sut y llofruddiwyd y newyddiadurwr o'r Barri, Gareth Jones, yng Nghanolbarth Mongolia ar y 12fed o Awst 1935, diwmod cyn ei benblwydd yn 30 oed. Yn 2001 cyhoeddodd ei nith, Dr Siriol Coley, gyfrol dan y teitl "A Manchukuo Incident", ffrwyth deng mlynedd o ymchwil. Ynddi mae nifer da o luniau o bob rhan o'r byd, ond mae un a dynwyd ar faes yr Eisteddfod gyda Gareth yng nghwmni dau fachgen ysgol. Nid oedd yn wybyddus i Siriol ym mha Eisteddfod y tynnwyd y llun na phwy oedd y ddau fachgen. Gall Y Dinesydd ddatgelu y ffaith ddiddorol mai yn Eisteddfod Wrecsam 1933 y tynwyd y llun ac mai cyd-aelodau o Eglwys (MC) Penuel Y Barri oedd y ddau frawd, sef Eryl a Richard Hall Williams. Fel Gareth, aethant i Brifysgol Aberystwyth. Cafodd Eryl Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gyfraith. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel gan weithio gyda'r Crynwyr (Friends Voluntary Relief Organisation) yn gofalu am blant a garcharwyd yn Belsen a threfnu gofal dros dro am y rhai digartref, Pwyliaid yn bennaf. Bu'n darlithio yn y Gyfraith mewn sawl Prifysgol, yna'n Athro Troseddeg (Criminology) yn yr LSE, yn aelod o'r Parole Board ac ysgrifennodd sawl llyfr yn ei faes. Wedi graddio, aeth Richard yn weinyddwr mewn llywodraeth leol. Aeth i'r Swyddfa Gymreig yn 1967 a bu mewn sawl adran yno nes ei benodi yn bennaeth yr Adan Amaeth cyn ymddeol. Bu'n Drysorydd Y Dinesydd am gyfnod. Llynedd, cyhoeddodd y gyfrol Hanes Salem Canton 1856-2000 ac mae wedi paratoi crynhoad Saesneg or hanes.
|