Do'n wir, cafodd corau'r Brifddinas lwyddiant ysgubol yn y Brifwyl eleni eto. Daeth C么r Canna yn gyntaf yn y gystadleuaeth C么r Merched dros 20 mewn nifer, daeth C么r CFI yn gyntaf yn y C么r Ieuenctid dan 25 oed, a Ch么rdydd yn gyntaf yn y C么r Cymysg o dan 45 o leisiau, gyda Ch么r Serendipity yn ail. Daeth C么r Caerdydd yn ail yn y C么r Cymysg dros 45 o leisiau, a Ch么r Aelwyd Hamdden Caerdydd yn drydydd yn y C么r Pensiynwyr.Roedd llawer o'n Dinasyddion, wrth gwrs, yn aelodau o G么r yr Eisteddfod, dan arweiniad Jeffrey Davies, ac fe gafwyd hwyl arbennig ar y cymanfaoedd dan arweiniad Alun Guy.
C么r buddugol arall, o fath gwahanol, oedd Merched y Wenallt, sef C么r Llefaru dros 16 o leisiau, dan arweiniad Rhiannon Evans.
Llongyfarch unigolion
Llongyfarchiadau hefyd i'r llu o unigolion a ddaeth i'r brig: Miyuki Kato yn gyntaf yn yr Unawd Piano dros 19; Sarn Jones yn drydydd yn y Dawnsio Stepio i Fechgyn; Gethin Aled Jones yn drydydd yn yr Unawd i Fechgyn 16-19; Lowri Walton yn drydydd yn y Dawnsio Stepio i Ferched; Selyf Shapey yn ail yn yr Unawd Linynnol 16-19; Amy Louise Pedwell yn gyntaf yn yr Unawd C芒n Gelf 19-25 ac Osian Ll欧r Rowlands yn ail. Daeth Osian hefyd yn ail yn yr Unawd Gymraeg 19-25.
Daeth Mair Roberts yn gyntaf yn yr Unawd Chwythbrennau 12-16; Daniel Phillips yn gyntaf yn yr Unawd Pres 12-16, ac ef enillodd y Rhuban Glas. Daeth Siriol Williams yn ail yn yr Unawd Soprano a Steffan Rhys Owen yn drydydd yn yr Unawd Piano 12-16. Yn y gystadleuaeth am Ysgoloriaeth W Towyn Roberts ddaeth Rhys Jenkins yn gyntaf a Stephanie Corley yn ail.
Yn ogystal 芒'r dawnswyr unigol uchod, daeth Huw a Bethan yn gyntaf yn y Deuawd Stepio, a Pharti Gavin yn drydydd yn y Pedwarawd Stepio. Daeth Cwmni Dawns Caerdydd yn gyntaf yn y Gr诺p Dawnsio dan 25 oed ac yn ail yn y Dawnsio Gwerin.
Bu llawer o weithgaredd ym maes y ddrama. Llongyfarchiadau i Gwmni Drama Minny Street ar ddod yn ail yn y Ddrama Fer, gyda Joy Parry'n ennill y wobr am y cynhyrchiad gorau. Bu nifer o'n Dinasyddion yn chwarae rhan yn Yr Aflwydd, cyfieithiad o'r Saesneg gan George Owen, a gynhyrchwyd gan Alan Cook, a hefyd, ydych chi'n nabod y cymeriadau yn y llun isod?
Llongyfarchiadau i Fand Arian Tongwynlais ar ennill y Brif Bencampwriaeth Dosbarth 1. Daeth Band Radyr a Phentrepoeth (Melin Griffith) yn ail yng Nghystadleuaeth Bandiau Pres Dosbarth 4, a Phedwarawd Pres Melin Griffith yn gyntaf.
Camp y llenorion
Nac anghofiwn am ein llenorion! Cyn Ddinesydd, wrth gwrs, a chyn aelod yn Eglwys Minny Street, yw bardd newydd y Gadair, Huw Meirion Edwards. A phwy yw Gwyfyn, a ddyfarnwyd i fod "yn llwyr deilwng o'r Goron", er nas cafodd? Christine James o'r Eglwys Newydd. Llongyfarchiadau i'r ddau ohonynt, ac i'r canlynol: Emyr Edwards, yn gyntaf am Ysgrifennu Drama Fer; Ifan Roberts yn gyntaf am Ysgrifennu Drama Gomedi; Arwyn Tomos Jones yn drydydd am Erthygl Wyddonol; Owain Rhys yn gyntaf ar yr Englyn; Grahame Davies yn gyntaf ar y Gerdd Foliant; Gwenan Mared Jones yn gyntaf ar ysgrifennu Ymson Claf, a Paul Vining yn gyntaf am Ddyddiadur Wythnos.
Mawredd! Oes rhywun ar goll? Rhowch wybod i Olygydd y rhifyn nesa!
Ie, testun diolch, eto, yw bod yr Eisteddfod wedi bod yn ffocws ac yn sbardun i gymaint o weithgaredd cynhyrchiol o bob math. Allwn ni fforddio'i cholli?
Urddo i'r Orsedd
Llongyfarchiadau i nifer o Gymry yr ardal a gafodd eu hurddo er Anrhydedd i'r Orsedd mewn seremoni ar faes Parc Tredegar yr Eisteddfod - Janet Davies a Glenda Jones, Y Bontfaen, ond gynt o Gapel Iwan, Sir Gaerfyrddin. Ethni Jones, Llanbedr y Fro. Eirian Edwards gynt o'r P卯l, Pen-y-bont ar Ogwr, John Hardy, Tongwynlais. John Brynmor Jones, Creigiau, gynt o Lwyndafydd ger Ceinewydd. John Walter Jones, gynt o Fangor, y Parchedig Barry Morgan, Llandaf. Ruth Price gynt o Fathri, Sir Benfro. Manon Rhys gynt o Drealaw, Cwm Rhondda. Winston Roddick gynt o Gaernarfon.
Y Wisg Wen
Llongyfarchiadau i'r Arlunydd adnabyddus Ifor Davies, Penarth ar dderbyn y Wisg Wen mewn Seremoni'r Orsedd yn Eisteddfod Casnewydd fel cydnabyddiaeth iddo ennill y Fedal Aur yn y Celfyddydau Cain yn Eisteddfod Tyddewi 2002.