Mae sawl un wedi cymharu'r datblygiadau hyn 芒'r hyn ddigwyddodd ym mhrifddinas Catalunya dros ddeng mlynedd yn 么l. Bryd hynny, chwalwyd hen ardaloedd di-raen a thlawd y dociau i godi marina newydd llawn fflatiau moethus a chaffes swanc Port Olimpic, fel rhan o Gemau Olympaidd Barcelona 1992. Bellach, mae Barca yn denu fflyd o ymwelwyr i un o ddinasoedd mwyaf ffasiynol y byd. Hanes digon tebyg sydd i Gaerdydd hefyd. Daeth y teirw dur i chwalu'r hen Tiger Bay, a throwyd y glannau lleidiog yn llyn dwr croyw newydd. Erbyn heddiw, gwin y caf茅 bars nid glo sy'n ben yng nghysgod adeilad y Pierhead.
Trueni, felly, nad yw haul M么r y Canoldir yn tywynnu dros y Bae rownd y r卯l. Bechod mai rhodfa o Toys R Us, drysfa a ffyrdd a chylchfannau Sgw芒r Bute, a fflatiau bocs sgidia Lloyd George Avenue yw 'Ramblas' Caerdydd!
Siom hefyd nad yw'r Gymraeg hithau'n rhan mor amlwg a hynny a fwrlwm y Bae ar ei newydd wedd. Digon teg - fe welwch chi arwyddion dwyieithog i'ch tywys chi i Cei'r Forforwyn (a finna'n meddwl mai Copenhagen oedd cartref honno!) ac i'r Eglwys Norwyaidd ac ati. Craffwch chi dan yr wyneb, fodd bynnag, ac mae pethau'n dra gwahanol.
Century Wharf, Ocean's Reach, Sovereign Quay a Lacuna yw enwau'r fflatiau a'r pentai chwerthinllyd o ddrud sy'n codi fel madarch ar hyd y lle, a'r iaith fain sy'n bennaf ar arwyddion siopau, bariau a bwytai newydd y lanfa. Piciwch i Salt neu Terra Nova am bryd a pheint, ac fe welwch mai Saesneg yw'r bwydlenni a'r arwyddion (heblaw am y Gymraeg arferol ar ddrysau tai bach). Fuaswn i heb synnu gymaint os mai bragwyr o Loegr oedd y perchnogion, ond cwmni lleol Brains SA...?
Hyn er gwaetha'r broliant ar wefan y cwmni mai "Bragwr Cenedlaethol o Gymru" ydyw. All rhywun ddim peidio 芒 theimlo fod Brains wedi colli cyfle euraidd i roi stamp dwyieithog ar eu busnesau newydd - a hynny mewn ardal sy'n frith a Gymry Cymraeg y Cynulliad gerllaw - heb s么n am ddangos yr iaith ar waith i ymwelwyr o bedwar ban.
Mae cwmni cynhenid arall, Cadwaladers, hefyd yn gibddall i'r Gymraeg. Lle mae bwydlenni ac arwyddion dwyieithog y caffi hufen ia hwn o'r gogledd? Lle mae eu synnwyr busnes o ddefnyddio'r iaith fel arf marchnata? Lle mae cyngor ac anogaeth Bwrdd yr Iaith yng nghanol hyn i gyd?
Efallai - dim ond efallai - y gwellith pethau pan fydd un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol yr ardal yn agor ei drysau am y tro cyntaf yn Nhachwedd 2004. Gyda'r gromen enfawr o bren, gwydr a llechi, mae Canolfan y Mileniwm yn sicr o ddenu'r llygaid a'r lluoedd. Yn anffodus, dyw'r arwyddion cyntaf ddim yn addawol iawn. Michael Crawford, un o s锚r sioeau West End Llundain, fydd un o enwau mawr y noson agoriadol. Teg edrych tua Lloegr mae canolfan ddiwydiannol newydd Cymru, felly.
Dim ond gobeithio y bydd presenoldeb yr Urdd fel un a breswylwyr y ganolfan o fudd mawr i Gymreigio'r gromen a'r bae ynghyd a'r ffaith mai dyma gartref Eisteddfod yr Urdd yn 2005, a phob 4 blynedd wedi hynny.
Amser a ddengys...
Ysgrifennwyd yr erthygl hon ar gyfer papur bro Y Dinesydd ym mis Tachwedd 2003. Nid oedd enw awdur ar waelod yr erthygl.