Medrwn nawr ddweud yn swyddogol gyda balchder bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i'r Brifddinas yn 2008. Bu'n rhaid newid y trefniadau gwreiddiol o orymdeithio drwy'r brifddinas a chynnal y Seremoni yng nghylch yr Orsedd oherwydd y cawodydd trwm ac felly cynhaliwyd y seremoni ar gampws Athrofa Caerdydd yng Nghyncoed.
Roedd dros 500 o bobl yn y gynulleidfa i wylio'r cyhoeddi yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol fudiadau a sefydliadau'r ardal.
Yn ystod y Seremoni cyflwynwyd copi cyntaf o'r Rhestr Testunau i'r Archdderwydd Selwyn Iolen gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Huw Llewelyn Davies.
Dywedodd Huw: "Ffrwyth llafur cannoedd o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn cynorthwyo ar gwahanol Is Bwyllgorau yw'r Rhestr Testunau a mawr obeithiaf y bydd y cystadlaethau'n plesio a bydd cannoedd yn cystadlu'r flwyddyn nesaf."
Un o uchafbwyntiau'r seremoni oedd perfformiad gan ferched y ddawns flodau oedd yn cynnwys merched o ysgolion: Creigiau, Pwll Coch, Melin Gruffydd, Y Wern. Mynydd Bychan, Coed y Gof, Berllan Deg a Mynydd Bychan. Cyflwynwyd y Flodeuged i'r Archdderwydd gan Gwenllian Wyn o'r Eglwys Newydd a'r Corn Hirlas gan Lusa Glyn o Bontcanna.
Yn ystod ei anerchiad mynegodd yr Archdderwydd ei syndod mai teirgwaith yn unig y bu'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn ystod y ganrif ddiwethaf:
"Mawr obeithiaf y daw hi yma yn amlach yn y dyfodol oherwydd fe ddylem fel cenedl ymgynnull yn ein prifddinas yn amlach na theirgwaith mewn canrif".
Tynnwyd sylw ganddo hefyd at y twf yn y Gymraeg yn y Brifddinas ers ymweliad olaf yr Eisteddfod yma yn 1978 a nododd:
"Oherwydd y brwdfrydedd sydd ymysg y Cymry ifanc sy wedi setlo yma yng Nghaerdydd, mae gennych chi sylfaen gadarn i sicrhau prifwyl lwyddiannus y flwyddyn nesaf."
Lluniau o'r 糯yl Gyhoeddi
Archdderwydd yn ceryddu
|