Dr Rhodri Gruffudd sy'n cael ei holi yn rhifyn Mehefin 2006.
O le wyt ti'n dod yn wreiddiol?
Aberystwyth
Ym mha ran o Gaerdydd wyt ti'n byw?
Pontprennau
Ers faint wyt ti'n byw yng Nghaerdydd?
1995
Beth fuest ti'n ei wneud ar 么l symud yma?
Symudais i Gaerdydd yn 1995 er mwyn astudio Meddygaeth yn y Brifysgol. Ar 么l graddio yn 2000 treuliais ddwy flynedd yn gweithio yn y canolbarth cyn prynu t欧 yn ardal Pontprennau yn 2002.
Fe gwrddais 芒 fy ngwraig Ai Lean - sy'n dod yn wreiddiol o ynys Penang, Malaysia - tra'n gweithio yn Llanelli ac yna mi wnaethon ni briodi yn Aberystwyth ym Mehefin 2005.
Rydym yn disgwyl ein plentyn cyntaf ym mis Medi felly dwi'n gwerthfawrogi cwsg yn fawr ar hyn o bryd!
Lle ti'n gweithio erbyn hyn?
Dwi'n gweithio fel meddyg yn ardal Caerdydd erbyn hyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cefais gyfle i weithio yn Llanelli, Caerfyrddin, Abertawe a Chasnewydd - digon o amrywiaeth!
Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Dwi'n treuilio'r rhan fwyaf o fy amser hamdden yn gwneud amryw o chwaraeon. Yn ogystal, rydym yn mwynhau bwyta allan, edrych ar ffilmiau a gwneud DIY adre. Os bydd rhywun yn gofyn yr un cwestiwn ar 么l mis Medi, mae'n si诺r y bydd newid clvtiau yn uchel ar y rhestr.
Be sy'n gwneud i ti gochi?
Gormod o amser yn yr haul.
Lle ydi'r mannau gorau i fynd am fwyd yng Nghaerdydd?
Unrhyw le sy'n gwerthu plat mawr o fwyd cartref.
Lle ti'n hoffi mynd am wyliau?
Aberystwyth
Petaet yn cael miliwn o bunnoedd i'w wario ar Gaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gyda miliwn o bunnoedd hoffwn adeiladu canolfan chwaraeon anferth lle gallwn chwarae pob math o chwaraeon heb boenu am y tywydd. Yn ogystal 芒 bod yn gymdeithasol, mae'n ffordd arbennig o gadw'n heini.
Lle ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Mewn deng mlynedd dwi'n gobeithio bod yn byw mewn t欧 mawr cyfforddus gyda fy ngwraig a'm plant yn gweithio mewn swydd llawn mwynhad gyda digon o amser rhydd i'w dreulio yn y ganollan hamdden werth miliwn o bunnoedd!
|