Helena yw un o brif arweinyddion corawl Cymru, ac mae hi wedi meithrin enw da o gyflwyno cerddoriaeth newydd Gymreig i'r neuaddau cyngerdd yn ogystal 芒 dod o hyd i glasuron o'r ddwy neu dair canrif ddiwethaf. Mae'r c么r wedi ennill bri am ganu gwych ac mae Helena yn adnabyddus am ei dehongliadau cywir o bob math o arddulliau cerddorol. Dan ei harweiniad hi, mae Cantorion Ardwyn Caerdydd wedi canu mewn nifer o neuaddau cyngerdd gorau'r byd gydag unawdwyr gwych. Ddechrau Rhagfyr fe rannodd y c么r lwyfan gyda Syr Willard White yng Nghanolfan y Mileniwm ac ym mis Medi fe gannon nhw gyda'r sielydd Rafael Wallfisch yng Ng诺yl Bro Morgannwg. Bydd dilyn 么l traed Helena yn dipyn o gamp, gan fod cymaint o lwyddiant y c么r wedi dod yn sg卯l ei dawn gerddorol ragorol a'i hymroddiad llwyr i ddatblygu'r hyn sy'n cael ei alw'n 'Sain yr Ardwyn' - cyfuniad o leisiau ifainc ac aeddfed. Bu nifer o'r cantorion iau yn gyn-aelodau C么r Ieuenctid De Morgannwg y bu Helena'n arwain yn ei hanterth, fel Trefnydd Cerdd yr hen sir. Mae dyddiadur Cantorion Ardwyn Caerdydd eisoes yn prysur lenwi ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Ym mis Mawrth bydd y c么r yn cynnal cyngerdd i ddathlu'i deugain mlwyddiant, a byddwn yn teithio i Br芒g dros y Pasg. Yn ogystal 芒 Proms Cymru a digwyddiadau eraill, mae cyngerdd ffarwelio Helena ar y gweill ym mis Gorffennaf. Felly, mae'r c么r wedi dechrau chwilio am gyfarwyddwr cerdd newydd gydag egni, nwyd a'r carisma i arwain y gr诺p ymroddgar hwn o gerddorion. Mae'r c么r yn disgwyl denu arweinydd corawl gyda phrofiad, ond nid oes unrhyw rwystrau eraill. Dim ond 30 mlwydd oed oedd Helena pan gymerodd hi'r awenau. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd, cysylltwch 芒'r c么r drwy'r wefan, www.cardiffardwynsingers.co.uk neu ffoniwch reolwr y c么r ar 029 2070 3663.
|