Bydd y ddwy yn ymweld 芒 chartref plant yn Legniza ac yn treulio wythnos yn eu cwmni. Mae'n gartref i 44 o blant amddifad, ac yn ystod eu hymweliad bydd y ddwy yn rhoi cymorth i addurno'r adeilad a gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol i adeiladu gwell dyfodol i'r plant. Roedd y llefydd yn brin, ac mae'n glod mawr i ni fod gennym ddwy gynrychiolydd o'r Fro am y tro cyntaf.
Yn 么l Bethan a Laura: "Ym mis Tachwedd y llynedd daeth cynrychiolydd o'r Urdd i Ysgol Gyfun Bro Morgannwg er mwyn rhoi cyfle i ni fel chweched dosbarth deithio i Wlad Pwyl er mwyn gallu cynorthwyo yng nghartref plant lleol.
"Eglurodd fod profiadau yno yn y gorffennol wedi bod yn emosiynol iawn a hefyd yn addysgol ac yn agos i'r galon.
"Roedd cyfle i ddau ddisgybl o bob ysgol yma yn ne Cymru fynd ar y prosiect bythgofiadwy yma, ac yn ffodus roeddwn i a Laura yn llwyddiannus yn ein cais i fynd. Mae'n rhad i ni nawr fynd ati i godi 拢500 ar gyfer y trip fel ein bod ni yn gallu prynu adnoddau ac anrhegion ar gyfer y plant Pwylaidd.
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i'r sialens sydd o'n blaen, ac rydym yn gwybod bod y profiad yma yn fynd i fod yn un arbennig iawn."
|