Bydd Eisteddfod Genedlaethol Gaerdydd a'r Cylch yn agor yn swyddogol ar nos Wener, Awst 1af gyda chyngerdd TRI10 sef cyfle i ddathlu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd a phenblwyddi arbennig y ddwy ysgol uwchradd.
Nos Sadwrn, Awst 2ail cynhelir noson gerddoriaeth amrywiol gan Gorau a Bandiau Ysgolion Uwchradd Caerdydd a'r Fro gyda'r Gymanfa Ganu draddodiadol, o dan arweiniad Alun Guy, yn dilyn ar nos Sul, Awst 3vdd.
Croesawn Bryn Terfel yn 么l i lwyfan y Brifwyl ar Nos Lun wrth i'r Eisteddfod lwyfannu Offeren Verdi. Yn rhannu'r llwyfan gyda Bryn bydd y soprano Anja Harteros a Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y 成人论坛.
Talwn deyrnged i un o arwyr Cymru ar nos Fawrth, Awst 5ed mewn noson arbennig, Grav - Yma o Hyd. Ymunwch 芒 ffrindiau a rhai o hoff artistiaid Grav wrth i ni ddathlu bywyd cawr o Fynyddygarreg.
Cawn noson o gystadlu ar nos Fercher gan gynnwys Gwobr Richard Burton, unawd sioe gerdd y C么r Ieuenctid dan 25 a llawer mwy. Yna ar nos Iau cynigir dewis o 2 gyngerdd: yn Neuadd Dewi Sant cewch gyfle i fwynhau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru o dan arweinyddiaeth Arwel Hughes tra bydd y pafiliwn dan ei sang gyda rhai o s锚r mwyaf Cymru yn llwyfannu noson yr C Factor gyda Connie Fisher, Cerys Mathews, Shan Cothi, Catrin Finch, Caryl Parry Jones a Ch么r Cantorion.
Cynhelir cystadleuaeth y Corau cymysg ar Nos Wener ac yna i gloi'r wythnos cynhelir cyngerdd c么r yr eisteddfod gyda Karl Jenkins yn
arwain yr ail hanner wrth i'r c么r berfformio un o gyfansoddiadau'r cyfansoddwr o Benclawdd, Dewi Sant. Mae'n addo bod yn ddiweddglo bythgofiadwy gan fod y c么r yn ymgorfforiad o nifer o brif gorau'r ddinas gan gynnwys: Cantorion Creigiau, Caerdydd; C么r Merched Canna, c么r Meibion TA, C么r Polyffonig Caerdydd, C么r Philarmonig Caerdydd, C么r Ardwyn, C么r Caerdydd ynghyd 芒 nifer o bobl sydd wedi ffurfio c么r arbennig ar gyfer yr Eisteddfod.
Mae tocynnau ar gyfer yr holl berfformiadau yma ar gael o Swyddfa'r Eisteddfod drwy ffonio 0845 122 1176 neu ewch ar lein. Os am fanylion pellach cysylltwch 芒'r Swyddfa am gopi rhad ac am ddim o'r Llyfryn.
|