Gogleddwr, Gareth Bryer, sy'n cael ei holi y mis yma...O le wyt ti'n dod yn wreiddiol?
Tremeirchion yn Sir Ddinbych
Ym mha ran o Gaerdydd wyt ti'n byw?
Yn y Rhath
Ers faint wyt ti'n byw yng Nghaerdydd?
Symudes i lawr yn mis Medi 2000.
Beth fuest ti'n ei wneud ar 么l symud yma?
Bues i'n byw gartref ar 么l bod yn teithio o gwmpas yr Unol Daleithiau. Penderfynais symud lawr i Gaerdydd i fod yn agosach at fy nghariad, Lowri. Yna dechreuais weithio i British Gas fel dadansoddwr tra roeddwn i'n sgwennu ac ymchwilio yr un pryd ar gyfer rhaglenni radio yn fy amser sb芒r. Pryd symudais i lawr i ddechrau roeddwn i'n byw gyda fy nghefnder, Simon - oedd yn byw yn Nhreganna (yn hen fflat Gary Slaymaker fel mae'n digwydd!) cyn symud i mewn at Lowri ym Mhenylan. Bues i'n rhentu gan fwyaf yn ardal Treganna, ond yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae Lowri a fi wedi prynu t欧^ gyda'n gilydd yn ardal y Rath, ac wedi priodi.
Lle wyt ti'n gweithio erbyn hyn?
Bues i ar brofiad gwaith gyda'r rhaglen Good Morning Wales ar Fedi 11, 2001. Arweiniodd hyn at fwy o brofiad gwaith gyda nhw, cyn i mi gael cytundeb byr dymor gyda'r 成人论坛. A dwi 'di hod yno ers hynny! Dwi 'di bod yn ymchwilydd ar Good Morning Wales, wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen ar hanes y Cymry yn Lerpwl, a'r gyfres busnes Wales@work, ac wedi gweithio gyda Betsan Powys ar Panorama, yn trafod obesity a'r r么l sydd gyda busnesau bwyd mawr i'w wneud gyda phlant sy dros eu pwysau. Erbyn hyn dw i'n gweithio ar raglen ffonio-i-fewn Nicola Haywood Thomas ar Radio Wales, sy'n brysur iawn ac yn gam at newyddion byw dw i'n ei fwynhau. Er enghraifft, ein rhaglen ni oedd y gyntaf ar yr awyr ar 么l ymosodiadau y 7fed o orffennaf y llynedd. Hefyd, hi oedd y cyntaf i gael cyfweliad gyda Gareth Thomas ar 么l y newyddion fod Mike Ruddock am ymddiswyddo fel hyfforddwr sgwad Cymru.
Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Dwi'n mwynhau bwyta a dwi wedi dysgu coginio, diolch i Jamie Oliver (roeddwn i'n waeth na Glyn Wise pan es i i'r coleg am y tro cyntaf!) Dwi'n hoff o ddarllen, yn arbennig awduron Americanaidd. Dau o fy hoff awduron yw David Mitchell ac yn arbennig Philip K. Dick.
Mae gen i ddiddordeb mawr yn Japan. Roedd mynd yno ar ein mis mel y llynedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd (ar 么l y briodas ei hun, wrth gwrs).
Dwi'n gwrando llawer ar gerddoriaeth, indie fel Yeah Yeah Yeahs, Zabrinski neu Four Tet, ac indie eraill fel y Killers neu'r Zutons, a soul, gospel a'r blues. Mi wna i wrando ar bob math o gerddoriaeth unwaith, i fod yn onest. Pan fydda i ar wyliau, byddaf yn mwynhau hip hop mewn ieithoedd tramor.
Dwi'n gefnogwr brwd o'r Scarlets ers o'n i'n blentyn ac, yn lwcus i mi, mae'r teulu卢yng-nghyfaith yn gefnogwyr selog hefyd. Mae hyn wedi helpu iddynt dderbyn 'gog' i'r teulu, ac wedi plesio fy nhad-yng卢nghyfraith!
Ar adegau eraill, dwi'n mwynhau chwaraeon, yn arbennig rhedeg. Dwi'n rhedeg rasus 10 milltir Caerdydd ac Abertawe ym mis Medi, a'r hanner marathon yng Nghaerdydd fis Hydref A dw i wrth fy modd hefyd gyda sboncen a beicio mynydd.
Be sy'n gwneud i ti chwerthin?
Pob dim i fod yn onest. Mae pawb yn gwaith yn nabod y s诺n pan dwi'n chwerthin (debyg i Bovcie o Only Fools and Horses, dwi'n meddwl). Dwi'n mwynhau gwylio pobl yn brifo'u hunain trwy redeg i mewn i bethau neu'n syrthio drosodd. Dwi hefyd yn mwynhau puns a practical jokes gwael ac Alan Partridge.
Lle ydi'r mannau gorau i fynd allan yng Nghaerdydd?
Dwi'n hoffi tafarndai fel y City Arms neu dafarndai o gwmpas Treganna neu'r Rhath ayb neu fars fel y Toucan.
Lle ti'n hoffi mynd am wyliau?
Japan! Wel, unrhyw le diddorol: ond dwi'n fwy o berson gwyliau gaeaf yn hytrach na gwyliau traeth. Es i i eirafyrddio am y tro cyntaf eleni, a hoffwn i wneud hyn eto.
Petaet yn cael miliwn o bunnoedd i'w wario ar Gaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ew, sortio Bws Caerdydd yn un peth! A stopio canol y dre rhag cael ei droi i le sy'n gorlifo efo siopau cadwyn. Buaswn i hefyd yn rhoi stop ar adeiladu'r fflatiau, tai a swyddfeydd newydd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, a rhoi'r arian tuag at godi datblygiadau sy'n llawer iawn mwy diddorol a gwell (neu wella'r adeiladau hanesyddol oedd yna'n barod).
Lle ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Dwn i'm. Yn y bryniau yn rhywle, gyda fflat bach yn Llanelli i wylio'r Scarlets yn chwarae? O, a th欧 yn Japan hefyd!