Brodor o Lwyndafydd,
Ceredigion, yw ein Llywydd eleni, a fu
cyn ymddeol yn gyfrifol am
Astudiaethau Lleol Llyfrgellydd Dinas
Caerdydd, lle bu'n gymorth i gannoedd a
chwiliai am wybodaeth.
Cofiem am noson gofiadwy a roddodd
i ni rai blynyddoedd yn 么l, pan gawsom
nid yn unig gyfoeth o atgofion am
gymeriadau bro ond rhestr hir o
englynion digri - a'r cyfan ar ei gof.
Gwyddem ymlaen llaw felly fod noson
arbennig yn ein disgwyl. A hynny'n wir
a fu, a chwerthin ambell un yn ei
gynulleidfa'n ymylu at ddagrau!
Fel o'r blaen, roedd y cyfan ar ei gof,
gan gynnwys llu o linellau penillion ac
englynion. Yn wir, gallai fod wedi mynd
ymlaen tan ganol nos i'n diddanu!
Dyna'r ddawn ryfeddol sydd ganddo.
Yn y llun, mae ein cynlywydd,
Gwyn
Briwnant Jones, yn trosglwyddo medal y
Cymrodorion i'r Llywydd newydd fel
arwydd o'i lywyddiaeth dros y flwyddyn.
|