Dyfarnwyd y Wobr
o Fedal Arian a Thystysgrif i gydnabod
gwasanaeth hir a gwerthfawr ar
weithgarwch dadansoddiadol.
Yn enedigol o Carnaugwynion,
Gwynfe rhwng Castell Carreg Cennen a
Llyn y Fan Fach ar droed Y Mynydd Du,
daeth Yr Athro Thomas i Goleg y
Brifysgol, Caerdydd yn 1943 o Ysgol
Ramadeg Llanymddyfri. Yn dilyn
cyfnod fel darlithydd yn UWIST a
Phrifysgol Caerdydd fe'i ddyrchafwyd
yn 1972 yn ddarllenydd ac Athro Cemeg
a Chemeg Gymhwysol.
Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd,
bu'r Athro Thomas yn weithgar ym
mywyd Cymraeg y Ddinas, gan gynnwys
Eglwys y Tabernacl a Chymdeithas
Rhieni Ysgol Bryntaf. Mae'n gefnogol i'r
Eisteddfod Genedlaethol, ac fe'i
hurddwyd yn Dderwydd (Gwisg Wen).
Yn y llun ceir Yr Athro C.D. Garner FRS
(Llywydd Y Gymdeithas Frenhinol
Gemegol yn anrhegu tystysgrif "Gwobr
am Wasanaeth i'r Gymdeithas Frenhinol
Gemegol (The Royal Society of
Chemistry)" i'r Athro J.D.R. Thomas
DSc FRSC (chwith)
|