Eisoes mae Pwyllgor Llywio wedi sefydlu dan gadeiryddiaeth Michael Jones, ac mae'r gwaith o drefnu amryw o agweddau'r 糯yl wedi cychwyn.
Nid yw lleoliad y Maes wedi ei gadarnhau eto ond mae Swyddogion yr Eisteddfod mewn trafodaethau gyda Cyngor y ddinas ac yn trafod nifer o opsiynau gyda'r bwriad o leoli'r Maes mor agos 芒 phosib i ganol y ddinas.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol erbyn hyn yn denu 170,000 o ymwelwyr, a dros 6,500 o gystadleuwyr yn flynyddol. Amcangyfrifir bydd Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch yn costio dros 拢2.9 filiwn i'w llwyfannu. Darperir canran fawr o'r gost yma gan y llywodraeth leol, nawdd, ffioedd darlledu ayb ond gofynnir hefyd i drigolion yr ardal gyfrannu hyd at 拢300,000. I'r perwyl yma mae'n fwriad ffurfio Pwyllgorau ap锚l ar draws dalgylch yr Eisteddfod yn y dyfodol agos.
Yn 么l Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod:
"Ar y cychwyn gall hyn edrych fel ffigwr amhosib gan fod codi arian yn medru hod yn dasg anodd a diddiolch. Fodd bynnag wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen mae'r arian yn cynyddu'n gyson a'r gwaith casglu yn dod yn brofiad hwylus yn hytrach na'n fwrn.
Eisoes mae cynllun cyfamodi Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch wedi llwyddo i godi 拢15,000 ac mae nifer o ddigwyddiadau ar y gweill gan gynnwys cinio ac ocsiwn mawreddog yn y Gyfnewidfa Lo yn Mis Hydref."
Er mwyn sefydlu pwyllgorau ap锚l lleol ar draws y dalgylch, aed ati i rannu'r ddinas a'r ardaloedd cyfagos. Clystyrwyd nifer o ardaloedd gyda'i gilydd a rhoi targed a fyddai yn un cyraeddadwy yn hytrach nag un fyddai yn gur pen. I'r perwyl hwnnw aed ati i drefnu nifer o gyfarfodydd fel a ganlyn ac mae croeso i unrhyw- un fynychu gan fawr obeithio y bydd nifer dda ym mhob un:
Rhestr Pwyllgorau Ap锚l y ddinas
Pwyllgor Ap锚l Rhiwbeina a Llanisien - Nos Lun, Mai 22ain am 7.30 o'r gloch yn Festri Capel Bethany, Heol Llanishen Fach.
Pwyllgor Ap锚l Cathays, Y Rhath, Adamsdown a Sblott - Nos Lun, Mai 22ain am 7 o'r gloch yn Capel y Crwys, Heol Richmond, Y Rhath.
Pwyllgor Ap锚l Lland芒f a'r Tyllgoed - Nos Fawrth, Mai 23ain am 7 o'r gloch yn Neuadd yr Eglwys, Llandaf (Lleolir y Neuadd drw nesa' i Jazzy Jungles yn Maes Parcio Llandaf.)
Pwyllgor Ap锚l Radyr, Treforgan, a Parc Radyr - Nos Fawrth, Mai 23ain am 7 o'r gloch yn Caffi Ffa, 8A Ffordd yr Orsaf, Radyr.
Pwyllgor Ap锚l Grangetown, Glanyrafon a Tre Bute - Nos Iau, Mai 25ain am 7.30 o'r gloch yn 'I'afarn, (Gwesty'r Riverside), Stryd Despenser, Glanyrafon.
Pwyllgor Ap锚l Llanrhymni, Rymni, Trowbridge, Pentwyn, Pontprennau a Llaneirwg - Nos Lun Mehefin 5ed am 7 o'r gloch yng Nghanolfan Cymunedol Pontprennau, Heol Pontprennau.
Pwyllgor Ap锚l Treganna, Parc Fictoria a Pontcanna - Nos Fercher, Mehefin 7fed am 7 o'r gloch yn Nhafarn y Duke of Clarence, Heol Clive, Treganna.
Pwyllgor Ap锚l Llysfaen, 'Thornhill, Draethen a Rudri - Nos Iau, Mehefin 8ed am 7 o'r gloch yn Neuadd Goffa Llysfaen, Heol y Delvn, Llysfaen.
Pwyllgor Ap锚l Eglwys Newydd a Gogledd Llandaf - Nos Iau, Mehefin 8ed am 7 o'r gloch yn Ystafell 9, Eglwys Ararat, Yr Eglwys Newydd.
Pwyllgor Ap锚l Gabalfa, Mynydd Bychan a Llwynfedw (Birchgrove) - Nos Fawrth Mehefin 13eg am 7 o'r gloch yng Nghanolfan Cymunedol Maes y Coed Road, Gerddi Jubilee, Y Mynydd Bychan.
Pwyllgor Ap锚l Cyncoed, Penylan a Llanedern - Nos Fercher, Mehefin 28ain am 7 o'r gloch yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, (Cardiff High), Heol Llandennis, Cyncoed.
Mehefin 14eg - Cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Bro Morgannwg Y Barri am 7 o'r gloch i drafod y posibilrwydd o drigolion Y Fro yn ymuno gyda threfniadau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008.
Mae hefyd yn fwriad i drefnu Pwyllgorau Ap茂l yn ardaloedd Pentyrch, Creigiau, Gwaelod y Garth ac Ystym T芒f; Sain Ffagan, Llanbedr Y Fro, Y Drope, Caerau a Threlai - manylion pellach yn rhifyn nesaf y Dinesydd.
Os oes diddordeb gyda chi mewn cynorthwyo drwy ymuno 芒 rhai o'r Pwyllgorau uchod yna cysylltwch 芒 Sioned neu Rhiannon yn swyddfa'r Eisteddfod drwy ffonio 02920 763 777 neu e-bostio sioned@eisteddfod.org.uk.