Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 1
Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 2
Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 3
Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 4
Hunangofiant Gl枚wr: Rhan 5
Byd gwaith a gweithio
Gwaith a rhyfel
Yn ystod fy ieuenctid roedd llysenwau yn gyffredin iawn yn y pyllau glo. Roedd mam un o swyddogion Pwll Glo'r Gelli yn ffrind i Eidales oedd wedi ei dysgu sut i wneud hufen i芒 ac o ganlyniad fe gafodd e, druan, ei fedyddio'n Danny Bracchi!
Byddai rhaid ichi fod yn ofalus wrth siarad am fod rhai yn gyflym iawn i fachu ar unrhyw ddywediad a ailadroddid yn rhy aml a'i droi yn llysenw. Er enghraifft, dyna i chi Ivor Have Five ar 诺r a grefai am hoe yn aml a Danny Box o' Tricks a gyfeiriai bob amser at ei offer yn y dull hwn. Byddai ymddangosiad neu ddiddordebau dynion yn cael eu nodi hefyd a dyma sut y gwahaneithwyd rhwng tri Joseph Jones yn yr ardal: Joe Pigeons, Joe Scruffy a Joe Gravy Eyes!
Mae cof hir gan y werin a brofir wrth iddyn nhw lysenwi un o reolwyr y pwll yn Tom Echo am iddo unwaith werthu'r papur nid anenwog hwnnw pan oedd yn grwt yn Nhonypandy. Roedd Dai Muck yn oruchwyliwr yn y pwll ond ar y funud dw i ddim yn cofio'r llysenwau oedd ar rai o'r halwyr oedd yn enwog am eu rhegi a'u byr dymer. Cofiaf un o'r frawdoliaeth hon yn bygwth chwythu'r pwll cyfan i fyny am nad oedd ei geffyl yn gwrando arno gan grefu ar yr un pryd ar bawb o'i gwmpas i roi matsien iddo.
N么l o'r Rhyfel
Wrth i rai ddychwelyd i'r pyllau glo o'r fyddin, y llynges a'r llu awyr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, byddent yn gwisgo eu dillad milwrol yn ddillad gwaith. Byddai un cyn-beilot yn gwisgo ei got RAF, ac er ei fod bellach yn disgyn i berfeddion daear yn lle esgyn tua'r nefoedd, roedd ei 'esgyll' yn dal i'w gweld yn amlwg ar ei lewysau.
Cofiaf wedyn, fancsmon (oedd yn gyfrifol am y caets a 芒i 芒'r glowyr i waelod y pwll) yn gwisgo ei lifrai o'r llynges i'r gwaith. Cocni oedd hwn oedd wedi priodi merch o'r Gelli.
Roedd gen i ffrind oedd yn brif 诺r ambiwlans y pwll. Roedd e wedi gwasanaethu fel swyddog meddygol yn yr India a Giberalter, ac yn ei fyw fedrai e ddim anghofio'r hyfforddiant a gafodd yno. Safai yn stond o flaen rheolwr y pwll a'i saliwtio, nes i hwnnw orfod dweud, 'Jac, dwyt ti ddim yn y fyddin nawr!" Yn ogystal 芒'r dillad, daeth peth offer rhyfel yn ddefnyddiol yn y pwll hefyd.
Ar ddiwedd y rhyfel, prynodd Thomas Aldridge, gwr busnes blaengar o'r Gelli, nifer o gludwyr gynnau Bren o le a elwid `The Dump', ger Slough. Roedd e wedi cael caniatad i gynhyrchu glo o hen lefel y Bwllfa Ddu a defnyddiai'r Bren Gun Carriers i gludo'r glo oddi yno i ben Heol Bronllwyn. Gan taw menter fach oedd hon, doedd gan y lefel ddim peiriannydd mecanyddol llawn amser, ond cai William Vowles a ddaliai'r swydd aruchel honno ym Mhwll y Gelli, fynd yno ar fenthyg yn 么l y gofyn. Pan ddigwyddai hynny, cai ei gludo yno ar Bren Gun Carrier yn edrych yn debycach i'r Cadlywydd Montgomery na pheiriannydd pwll glo!
Y Pecynnau Bwyd
Os oedd y cludwyr gynnau wedi goroesi eu defnyddioldeb, doedd dim defnydd pellach chwaith i'r pecynnau bwyd amheuthun oedd gan fyddin yr Unol Daleithiau. Roedd y rhain yn flychau pren oedd yn llawn o amrywiaeth o duniau cig a ffrwythau, siocled a sigarennau. Yn ogystal, roedd dwy botelaid o dabledi, y naill i buro d诺r a'r llall yn gallu eich twyllo eich bod newydd gyfranogi o wledd! 'Tabledi Chicago' oedd yr enw ar y rhain.
Roedd gan bob gl枚wr hawl i brynu un o'r blychau hyn am gini (21/-) gan dalu amdano fesul saith swllt (35c) yr wythnos a dynnid o'i gyflog. Ystyrid hyn yn gryn fargen o gofio bod dogni bwyd yn dal mewn grym ar y pryd. Cyrhaeddodd cyfran Pwll y Gelli o'r bwyd - rhyw 950 blwch - yn hwyr ryw noson aeafol tua diwedd 1945. Mr William John Bryant, M,E,. D.C.M., M.M. isreolwr Lefel Nebo oedd yn goruchwylio'r dadlwytho a minnau'n rhan o'r giang oedd yn gyfrifol am symud y cwbl.
Ein tasg oedd cario'r bocsys trymion hyn bob cam i fyny i swyddfa'r Syrfewr oedd ar lawr uchaf bloc y swyddfeydd, yn union uwchben swyddfa'r Prif Beiriannydd. Yn anffodus, ar 么l stryffaglu i gario tuag 800 i'r or uwch ystafell hon, dechreuodd llawr y swyddfa wegian. Yn yr argyfwng, galwyd ar wasanaeth t卯m o goedwyr o waelod y pwll a bu rhaid i'r glewion hyn ddefnyddio eu holl ddoniau i gynnal nenfwd swyddfa'r Peiriannydd. Trwy lwc, arbedwyd trychineb a flynyddoedd wedyn ces i'r fraint o adrodd yr hanes ar sioe radio Roy Noble!
Y Carcharorion
Yn ystod 1946, dychwelodd nifer oedd wedi bod yn garcharorion yn Siapan i weithio ym Mhwll Glo'r Gelli. Bu rhai o'r rhain yn aelodau o'r Tiriogaethwyr a ymarferai ym Marics y Pentre ac a aeth ymlaen i wasanaethu yn 77fed catrawd y Royal Artillery cyn cael eu dal yn garcharorion yng Ngwlad Thai lle y cawsant eu trin yn warthus yng ngwersylloedd rhyfel y Siapaneaid. Des i nabod rhai o'r rhain yn bersonol, pobol fel Stanley Robbins a gafodd ei guro, ei newynu a'i orfodu i weithio sifftiau 12 awr y dydd mewn pwll glo yn Siapan.
Cofiaf, yn ogystal, Snowy Lewis, ysgrifennydd Cangen Cwm Rhondda o Gymdeithas Rheilffordd Burma, a weithiai yn Lefel Nebo a Tom Jones a oedd wedi ennill y Fedal Filwrol. Cafodd un o'r carcharorion hyn, oedd wedi dychwelyd i'r gwaith ar 么l bod am fisoedd yn graddol wella ar 么l y driniaeth ofnadwy a ddioddefodd, ei ladd gan dram a dorrodd yn rhydd ar waelod y pwll.
Gwladoli
Ar 1 Ionawr 1947 gwladolwyd pyllau glo Prydain gan lywodraeth Lafur Clement Atlee. Ar y diwrnod hanesyddol hwnnw, roedd rhyw 720,000 o l枚wyr, gan fy nghynnwys i a 'Nhad, yn cael eu cyflogi mewn tua 1,000 o byllau glo. Yn 1947 cynhyrchwyd 186.3 miliwn tunnell o lo ond roedd y gost yn uchel gyda 600 yn cael eu lladd a 2,448 yn cael eu hanafu'n ddrwg. Ym Mhwll y Gelli ar ddydd Calan y flwyddyn honno, darllenodd y rheolwr ddatganiad gan y Bwrdd Glo yn dweud taw ni, y gweithwyr, oedd biau'r pyllau bellach.
Sefydlwyd cynllun pensiynau yn y pumdegau gyda'r gweithwyr dan ddaear yn talu swllt a chwech yr wythnos tuag ato a gweithwyr ar yr wyneb yn cyfrannu swllt y pen. Doedd dim gofyn i unrhyw un dros 65 gyfrannu a chofiaf weld nifer yn eu saithdegau oedd yn dal i weithio. Yn wir, roedd un g诺r 83 oed o Dreorci yn dal i weithio ar wyneb y pwll. Yn wir, dw i'n cofio un gwron a fynnai ddod yn 么l i'r gwaith ar 么l iddo ymddeol yn swyddogol!