Cafodd y cynghorwyr lleol ac aelodau Pwyllgor Adfywhau Treorci, Cwmparc ac Ynyswen wybod gan bennaeth Gwasanaethau Eiddo Rhondda Cynon Taf bod swyddogion y Cyngor yn argymell gwerthu'r darn o dir agored rhwng Prospect Place, Heol Gethin a Heol Cadwgan, Treorci ar gyfer codi tai.
Safle Diwydiannol Safle hen lefel ac adferwyd nifer o flynyddoedd yn 么l yw hwn ac ers llawer o flynyddoedd fe'i defnyddiwyd gan blant yr ardal ar gyfer chwarae. Ar un adeg, bwriedid iddo fod yn faes chwarae i Ysgol Gynradd Treorci, ond oherwydd costau cynnal ac adfer y tir doedd hi ddim yn bosib i gorff llywodraethol yr ysgol i ysgwyddo'r cyfrifoldeb.
Gan fod yr Archwilydd Dosbarth (District Auditor) yn pwyso ar bob cyngor i werthu unrhyw dir diangen, bygythiwyd ei werthu yn 1999. Fodd bynnag, dadleuodd cynghorwyr Plaid Cymru yn llwyddiannus o blaid ei gadw at wasanaeth y gymuned.
Cynlluniau Adfywhau
Ymgymerodd Grwp Adfywhau'r ardal a'r gwaith o ddatblygu'r safle ac yn sgil gwaith gwych gan y pensaer, Bernard Davies, datblygwyd cynlluniau ynghyd a chynllun busnes i' r prosiect. Er adau am grantiau roedd rhaid i'r Grwp ddangos bod y tir yn eiddo iddo.
Y gobaith oedd cael y tir ar les gan y cyngor ond drylliwyd y gobeithion hyn gan y newyddion drwg a gafwyd. Ar adeg pan yw'r Llywodraeth yn pwysleisio pwysigrwydd chwarae ac ymarfer corff i bawb, ond yn enwedig i bob i ifainc, ffolineb yw colli'r unig ddarn o dir agored ar ochr ddwyreiniol y cwm yn Nhreorci.
Ofnau eraill a fynegwyd gan drigolion Heol yw na fyddai'r ffyrdd a'r gwasanaethau yn gallu cynnal rhagor o dai yn yr ardal arbennig hon. Rhaid pwysleisio nad yw Cabinet y Cyngor wedi penderfynu'n derfynol ar y mater ac mae'n sicr y bydd cyrff Heol ynghyd a thrigolion yr ardal yn pwyso'n drwm ar y Cyngor i gadw'r tir hwn at iws pobl lleol.
Mae'n adnodd rhy werthfawr i'w golli a ninnau'n cofio'r amarch a dangoswyd i dirwedd Cwm Rhondda gan ddiwydianwyr ac eraill yn y gorffennol.
Os ydych am ddatgan barn ar y mater pwysig hwn, dylech ysgrifennu at:
Arweinydd y Cyngor
Cyngh. Russel Roberts,
Swyddfa Cyngor Rhondda Cynon Taf
Parc y Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy CF40 2XX
|