Ganed Clive Williams yn un o bump o blant Ivor ac Eluned Williams, Stryd Illtyd, Treorci. Ar 么l ei addysgu yn Ysgol Gynradd Treorci ac Ysgol Ramadeg y Pentre, aeth i Goleg Celf. Ar 么l gorffen ei gwrs, ceisiodd wneud bywoliaeth fel arlunydd yn peintio nifer o bortreadau a derbyn comisiynau am ddarluniau a cherfluniau. Pan benderfynodd Clive a'i ddarpar-wraig, Neen, briodi, cafodd swydd yn dysgu celf yn Llundain, ond yn fuan dychwelodd i'r Rhondda i ddysgu celf yn Ysgol Gyfun Treorci o dan bennaeth yr adran yno, David Rees. Yn ystod y cyfnod hwn, daliodd ati i beintio yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol. Seland Newydd Yn Ionawr 1967 ymfudodd Clive a'i wraig i Seland Newydd pan benodwyd ef yn bennaeth yr Adran Gelf yn Ysgol Uwchradd Kamo, Whangarei. Pheintiodd e ddim un darlun ar 么l hyn gan iddo roi ei fryd ar gerflunio. Yn 1968 bu'n arddangos cyfres o gerfluniau pren gan gynnwys 'Tad a Mab' a 'Chwaraewr Rygbi a Ph锚l' ymhlith eraill. Yn ddiweddarach, arddangosodd nifer o weithiau gyda 22 o artistiaid eraill. Y brif eitem oedd cerflun o ferch, 1.4 metr o uchder. Yn ystod ei fywyd creodd nifer o gerfluniau i gynghorau dinesig ac i fusnesau gan gynnwys purfa olew ac mae'r rhain i'w gweld yn Seland Newydd hyd heddiw. Roedd Clive wrth ei fodd yn arbrofi gyda gwahanol gyfryngau. Er enghraifft, gwnaeth gyfres o gerfluniau seramig, dro arall cerflun efydd o blymwyr m么r a byddai yn ei elfen yn gweithio ar brosiectau mawr. Yn wir, ychydig cyn iddo gael ei ladd mewn damwain, roedd e wedi cyflwyno braslun o gerflun i Lysoedd Barn Whangarei. Roedd gweinyddwyr y Llys wrth eu bodd 芒'r syniad a gofynnwyd i Grant, mab Clive, sydd hefyd yn gerflunydd, a fyddai ganddo ddiddordeb mewn datblygu syniad ei dad. Naw mis yn ddiweddarach, enillodd Grant y comisiwn. Mae'r cerflun ar lun hwyl long enfawr yn cynrychioli'r math o ganŵ^ teithio a ddefnyddid gan frodorion Seland Newydd bellach yn Amgueddfa Llundain, Whangarei. Mae llawer o waith Clive i'w weld yn Seland Newydd ac yng Nghymru ac yn ei gartref mae cyntedd sydd hefyd yn oriel gelf lle y mae'r teulu'n dal i arddangos ei waith. Mae papur bro Y Gloran yn ddiolchgar i Neen Williams Daw, gweddw Clive ynghyd 芒'i fab am y lluniau a llawer o wybodaeth am ei waith a'i yrfa.
|