成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Gloran
Margaret a Ron Kinsey Y Treorcki Arall
Mai 2003
Bydd Margaret a Ron Kinsey yn cofio Gwyl Dewi eleni am reswm arbennig. Buon nhw'n ymweld 芒 Threorki!

Na, nid camsyniad arall gan gynllunwyr arwyddion ffyrdd Adran Trafnidiaeth Rhondda Cynon T芒f yw hwn, er inni ddod yn gyfarwydd 芒 gweld amrywiadau Treorchy, Treorci a hyd yn oed Treorchi ar ein ffyrdd. Roedd Margaret a Ron ar ymweliad 芒 Phatagonia ac am weld yr ardal sy'n dwyn yr un enw 芒'r ardal lle cafodd y ddau eu magu yng Nghwm Rhondda, Ron o Gwmparc a Margaret yn ferch i'r diweddar Mervyn Protheroe, Stryd Colum, Treorci. Erbyn hyn mae'r p芒r yn byw yng Nghaswent (Chepstow).

Eleni, penderfynon nhw ymweld 芒'r rhan honno o'r Ariannin lle yr ymfudodd criw o Gymry yn 1865, gan gynnwys nifer o gymoedd glofaol y de. Roedden nhw'n digwydd bod yn aros mewn ty o'r enw Plas-y-Coed yn y Gaiman, pentre Cymreicaf y Wladfa a phan ddywedon nhw wrth Marta Rees, perchennog y llety, eu bod yn dod yn wreiddiol o Dreorci, Cwm Rhondda, fe oleuodd ei llygaid. Y rheswm oedd bod Marta wedi treulio saith mlynedd cyntaf ei bywyd mewn ardal, ryw dair milltir o'r Gaiman, o'r enw Treorcki. Doedd dim amdani ond trefnu ymwehad 芒'r lle a gyda hyn dyma ddau wr, Shaun Davies a Derwyn Thomas yn cyrraedd mewn car i'w hebrwng yno.

Hanes yr ardal
Ardal amaethyddol yw Treorcki ac ynddi berllannau afalau a cheirios a'r ffermwyr yn tyfu india-corn ac yn magu gwartheg. Yr unig ddiwydiant yno yw gwaith brics sy'n ci gwneud yn ardal wahanol iawn i'r Treorci lle y magwyd Margaret a Ron. Mae'n debyg taw gwr o'r enw John Roberts oedd wedi prynu fferm oddi wrth un o'r mewnfudwyr gwreiddioi a phenderfynu am ryw reswm anhysbys ei enwi'n 'Treorcki'. Yn raddoi, daeth yn enw ardal gyfan ac yn 1878 codwyd capel yno, Llan de Frondeg. Y geinidog oedd y Parch Casnodyn Rhys a chynhaliwyd eisteddfod yno yn 1880.

Fodd bynnag, cafwyd llifogydd mawr yn 1889 a sgubwyd y capel i ffwrdd gan y llif. Er gwaethaf hyn roedd yr aelodau wedi codi adeilad newydd erbyn 1908 a'i alw'n Bethlehem. Cafodd y capel ei adnewyddu yn 1965, canmlwyddiant y glaniad, ac ychwanegwyd festri ato. Bellach, mae gan y capel olau trydan a'r gobaith yw y bydd gwres nwy ar gael cyn hir fel bo'r aelodau'n gallu cadw'n gynnes ym misoedd oer y gaeaf.

Adfywiad y Gymraeg
Ymweld 芒 Threorcki oedd un o uchafbwyntiau ymweliad Margaret a Ron 芒'r Wladfa ond cawsant y fraint yn ogystal o fynd i gyngerdd yng nghapel Bethel, Y Gaiman ar Ddydd Gwyl Dewi a phrofiad rhyfedd i'r ddau oedd codi ar y diwedd i ganu 'Hen Wlad Fy Nhadau' a hwythau mor bell oddi cartref. Buon hefyd mewn cymanfa ganu yn Nhrelew ac yn falch o weld yr adfywiad sy'n digwydd yn hanes yr iaith. Roedd tad Margaret, Mervyn Protheroe, yn Gymro brwd a fu, tan ddiwedd ei oes yn cynnal dosbarthiadau Cymraeg yn ei gartref yng Nghasgwent. Byddai ef wedi bod wrth ei fodd yn rhannu profiadau Ron a Margaret ac rydyn ni'n ddiolchgar i'r ddau am rannu ei profiadau 芒 darllenwyr Y Gloran.

Cennard Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy