Yn awr mae'r dyddiau'n dechreu ymestyn a'r haul yn dechrau tywynflu o bryd yw gilydd beth bynnag. Hefyd fe welir adfywiad yn y pridd gydag oddfau'n dechrau rhoi lliw i'r ardd. Yn gyntaf ceir yr eirlys gwyn yn llwyddo i drywanu'r pridd gyda'i fonyn main, cleddyfog yn profi ansawdd yr hin ar gyfer y blodau a ddaw yn ei sgil maegis melyn, porffor a gwyn y saffrwn a'r cennin Pedr luniaidd 芒'u trympedau aur yn cyhoeddi dyfodiad y Gwanwyn a bywyd, newydd. I ganol hyn fe ddaw'r Pasg, gwyl o obaith a hapusrwydd wedi galar a chreulondeb Dydd Gwener y Groglith. Mae'r wyl yma'n ei chynnal mewn amryfal ffyrdd mewn nifer fawr o wledydd. Un arfer sy'n gyfarwydd iawn i'r plant yw bwyta wyau siocled. Rydw i'n ddigon hen i goflo un Pasg arbennig wedi'r rhyfel a'i dogni pan gafodd fy chwaer a minnau wy a oedd yn arbennig iawn inni - roedd wedi ei wneud o siwgr gydag un rhan wedi'i thorri allan i ddangos golygfa o gywion bach cardfwrdd. Nid yw ei flas yn aros yn y cof ond yn sicr mae'r cyffro a deimlais wrth weld y fath foethusrwydd wedi moelni'r rhyfel yn fyw iawn yn y cof. Unwaith eto rydw i wedi hod yn darllen yr 'Household Guide' i weld sut y dathlwyd y Pasg yn oes mam-gu. Addurn ar gyfer canol y bwrdd Rhoddwyd drych fel canolbwynt er mwyn adlewyrchu'r blodau. Yna rhoddwyd tuniau teisen fach o gwmpas y drych a'u llanw 芒 mwswg llaith a blodau bach megis caru'n ofer. Wedi gorchuddio ymylon y drych a gwaelod y tuniau 芒 mwswg neu laswellt rhoddwyd ffiolau bach a'u lanw hwythau a Nodau bychain hefyd. Yn y canol cafwyd ffiol fach fain i ddal cennin Pedr a rhedyn gwallt mair. Defnyddiwyd fioledau bach i wneud garlant a'u pwytho ar i gotwm a'u taenu o ben y ffiol dali waelod y bedair ffiol fach. Y nyth Teisen Nyth Aderyn Gwnaed teisen spwng trwchus 芒'i ganol wedi'i dorri allan fel ei fod yn edrych fel nyth. Llenwyd y twll 芒 hufen a gorchuddiwyd y gweddill ag eisin siocled. Yna gratwyd siocled dros yr hufen. Wedi iddo galed llenwyd y twll ag wyau a wnaed ar gyfer y nyth aderyn. Teisen Gwningen Unwaith eto gwnaethpwyd spwng ond y tro hwn fe'i rannwyd yn ddwy fel ei fod yn deneuach na theisen Nyth Aderyn. Llenwyd y ddau spwng 芒 jam neu hufen a gorchuddiwyd y cyfan ag eisin. Addurnwyd y deisen hon a chwningen siocled a moron marsipan neu ffondant. Geirfa:- moelni - bareness; tywynnu - to shine; adfywiad - re-birth; trywannu - to pierce; cleddyfog - sword-like; hin -climate; lluniaidd - graceful; galar - grief; amryfal - various: dogni - to ration; moethusrwydd - luxury; addurn - decoration; pwytho - to stitch; ffiol - vase.
|