Cafodd fywyd amrywiol, diddorol a chyffrous a braint yw cael cyhoeddi detholiad o'i brofiadau yn Y Gloran dros y misoedd nesaf.Dechrau'r Daith - fy Rhieni
Ces i fy ngeni ar y 19eg Rhagfyr 1915 yn Stryd Tallis, Cwmparc yng nghanol holl helbul y Rhyfel Byd Cyntaf. Fi oedd yr ifancaf o bedwar o blant, ond pan oeddwn ond ychydig fisoedd oed, symudodd y teulu i dÅ· mwy mewn stryd gyfagos, sef Woodland Terrace.
Ces i fy mreintio â rhieni arbennig. James James neu Jim Jim, fel y'i hadnabyddid yn yr ardal, oedd fy nhad a oedd yn gerddor dawnus. Er i fod i raddau helaeth yn hunanaddysgedig, llwyddodd i ddod yn Gymrawd o Goleg Tonic Sol-ffa Llundain - F.T.S.C Ganddo ef y ces i fy niddordeb innau mewn cerddoriaeth. Ar nos Fawrth, byddai yn cynnal dosbarth yng nghapel Salem lle y dysgai pobl sut i ddarllen cerddoriaeth a'i gwerthfawrogi. Dros y blynyddoedd, daeth nifer o arweinyddion corau'r Cwm ato i dderbyn hyfforddiant gan ei fod yn arbenigo mewn technegau canu corawl. Roedd ei ddylanwad ar y teulu'n fawr iawn gan i Bessie, fy chwaer ddatblygu'n gyfeilyddes fedrus a chwaraeai fy mrawd, Waldo, a weithiai dan ddaear, y ffidl yn dda iawn.
Fy Mam
Gwraig tŷ gyffredin, fel y rhan fwyaf o wragedd tebyg yn yr ardal, oedd Mam - yn gweithio'n ddi-baid o fore gwyn tan nos. Yn ein tŷ ni roedd tri glöwr, a phob un ohonynt yn gweithio gwahanol sifft, dydd prynhawn a nos. Ar gyfer pob sifft, disgwylid iddi baratoi bocs bwyd, yn cynnwys bara a chaws fel arfer a llond jac o ddŵr i dorri syched. Dechreuai'r sifft dydd am 6 o'r gloch y bore, sifft prynhawn am 2p.m. a'r nos am 9 p.m. Golygai hyn fod rhaid i Mam godi am 5 o'r gloch bob bore i gynnau'r tân a pharatoi brecwast i'r cyntaf. Wrth i'r tri ddychwelyd adref, roedd disgwyl bod bwyd yn barod ac o ganlyniad byddai wrthi drwy'r dydd yn coginio. Rhaid cofio nad oedd na nwy na thrydan ar gael yn y tai yr adeg honno a choginiai bopeth yn y ffwrn wrth ochr y lle tân. Mewn sosban ar y tân glo y berwai'r llysiau.
Ar ben hyn, wrth i'r gwŷr ddod adref, roedd disgwyl bod llond bwced o ddŵr wedi ei ferwi'n barod i'r arllwys i'r twb sinc o flaen y tân er mwyn iddyn nhw gael bath. Gwnâi hyn yn feunyddiol, yn ogystal â gofalu amdanom ni'r pedwar plentyn.
Erbyn 7.30 roedd rhaid i ninnau gael ein brecwast cyn mynd i'r ysgol a byddai Mam bob amser wedi paratoi bobo becyn o frechdanau inni at amser cinio. Byddai hefyd yn rhoi 2 geiniog yr un inni i brynu dysglaid o de neu goco. Erbyn inni gyrraedd adref am 5 pm, byddai cinio blasus yn ein haros yn ddi-ffael. Roedd ei diwydrwydd yn ddiarhebol!
Glanhau
Nid ar chwarae bach y gallai gwragedd yn y cyfnod hwn gadw'r cartref yn lân. Doedd dim peiriannau golchi, cypyrddau rhew nag unrhyw offer i'w harbed fel sydd gennym heddiw ac roedd golchi dillad gwaith tri o löwyr yn gyson yn dasg anferth ynddi ei hun. Er gwaethaf ei llafur dibaid a chaledi cyffredinol y cyfnod, rywfodd neu'i gilydd llwyddai Mam i ffeindio amser a nerth i helpu cymdogion pan fyddai alw. Roedd cymwynasgarwch yn rhan annatod o'i phersonoliaeth. Prin y cai gyfle i gysgu gan nad oedd y sawl a weithiai'r sifft nos yn cyrraedd adref tan wedi 11 p.m. Roedd hi'n anodd iddi fynd dai rhaid iddi godi unwaith eto am 5am.
Efallai nad oeddem yn cymryd llawer o sylw o hyn ar y pryd gan taw digon tebyg oedd bywydau gwragedd eraill yr ardal, yr arwyr di-sôn-am-danynt oedd yn sicrhau bod olwynion mawr pyllau'r Parc a'r Dâr yn dal i droi o ddydd i ddydd ac o flwyddyn i flwyddyn. Oeddwn, roeddwn i'n ddyledus iawn i fy rhieni am eu gofal drosom ac am osod sylfeini cadarn ar fy nghyfer ar ddechrau'r daith.
Mwy o hanes lleol
Hunangofiant Glöwr: Tom Jenkins