Gwaith y bardd Saesneg R.S. Thomas oedd testun y ddarlith gan edrych yn arbennig ar ei gerddi Cristnogol. Roedd y Parch Barry Morgan yn gyfarwydd ag R.S. Thomas yn bersonol a llwyddodd i gyfuno atgofion diddorol amdano a dadansoddiad o'i ffydd grefyddol mewn ffordd gelfydd iawn. Soniodd am amheuon y bardd a'i ymwybyddiaeth o annigonolrwydd geiriau wrth geisio ymgyrraedd at Dduw. Bu hefyd yn trafod y paradocsau lu yn ei gymeriad a chawsom ddarlun cyflawno'r person cymhleth hwn a ystyrir bellach yn un o brif feirdd yr ugeinfed ganrif. Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Athro Emeritws Ceri W. Lewis a chafodd pawb noson wrth eu bodd. Bydd cyfarfod nesaf nos Fercher, 20fed o Hydref pan fydd y llenor Angharad Price yn annerch. Gofynnir i'r aelodau nodi' r newid yn y dyddiad - nos Fercher yn hytrach na'r nos Iau arferol.
|