Bydd y grant hwn yn eu galluogi i gael bordydd plyg newydd, gosod wyneb diogel ar y llwyfan a phrynu peiriant Bingo newydd. "Gwobrau i Gymru oll', sef cangen o'r Loteri, yw ffynhonnell y grant a fydd yn galluogi'r aelodau i wella'r cyfleusterau yn Neuadd y Dderwen. Y gobaith yw y bydd mwy o grwpiau ae aelodau'r gymuned yn gwneud defnydd o'r lle. Roedd y Cadeirydd Mrs Pauline Worman wrth ei bodd. Dywedodd, "bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i aelodau'r Clwb a phawb yn yr ardal. Roedd y broses o wneud cais am y grant yn hawdd ac yn gyflym. Gallaf gymeradwyo rhaglen grantiau "Gwobrau i Gymru Gyfan' i unrhyw un." Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi Neuadd y Dderwen ar gyfer unrhyw achlysur gallwch gael manylion pellach gan Anna Brown ar (01443) 776681. Rhwng y grant hwn a'r gwaith a wnaed yn y Neuadd gan y Cyngor yn ystod argyfwng y Llyfrgell, mae gan Dreorci neuadd y gall fod yn falch ohoni.
|