Ers dros 23 blynedd bu Mr James yn hollol ymroddedig wrth ein gwasanaethu ni yn Y Pentre. Doedd "dim byd yn ormod o drafferth iddo!" fel y dywedodd un o'i gwsmeriaid cyson.
Pan ddechreuodd e ar ei waith, wrth gwrs, roedd fferyllwyr yn cael dyfeisio eu meddyginiaethau a'u moddion eu hunain. Daeth rhai o'r rhain yn adnabyddus iawn, fel Lewis' Drops a ddyfeisiwyd, mi gredaf, gan fferyllydd o Ystrad Rhondda. Yn yr un traddodiad, rwy'n cofio'n dda foddion pinc o eiddo Bryan James o'r enw 'The Mixture' a oedd jyst y peth am roi trefn ar stumog ansefydlog.
Cynnal Traddodiad
Roedd Bryan mewn olyniaeth dda wrth etifeddu siop y diweddar Tom Hay. Roedd y bonheddwr hwnnw yn uchel iawn ei barch yn yr ardal ac yn barod iawn ei gymwynas ar bob adeg. Roedd gan Tom ambell gymysgedd tra effeithiol at wahanol anhwylderau ac mae'n debyg ei fod e yn ei dro yn dilyn ei ragflaenydd, Mr George, yn hyn o beth.
Wrth fynd i mewn i'r siop bresennol enw George a welwch chi ar stepen y drws o hyd. Wrth edrych ar y lle o'r tu fa's, does dim byd ar wah芒n i hynny sy'n eich taro'n arbennig. Ond y fath newid wrth ichi gamu dros y rhiniog! Mae'r holl gypyrddau a dr么rau yn union fel yr oeddynt yn yr oes a fu - y pren yn sgleinio a'r dr么rau i gyd yn dwyn enwau'r gwahanol gemegolion. Mae'n amgueddfa fyw ac yn rhywbeth i'w drysori.
Perchnogion Newydd
Yn sicr, byddwn yn gweld eisiau Bryan a dymunwn yn dda iddo yn ei ymddeoliad ond rydym yn ddyledus iddo am drefnu bod t卯m arbennig o alluog a phrofiadol wrth law i gynnal y busnes. Roedd y tri ohonynt, sef David Williams, fferyllydd yn Ferndale ac Adam Jenkins (o'r Porth yn wreiddiol) a'i wraig, Tracey wedi gwerthu eu busnesau yn ddiweddar a "hanner ymddeol'.
Bwriad y naill oedd mentro ar ffarmio tra bod y llall am gadw ceffylau. Ond llwyddodd Bryan i'w perswadio i ymuno 芒 ni yma yn y Pentre lle nad oes amheuaeth y c芒n nhw groeso brwd. Wrth ddymuno'n dda iddynt, rydyn ni, drigolion yr ardal yn ymwybodol y byddan nhw'n cynnal traddodiad sy'n ymestyn yn 么l i ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Dr. Anne Brooke
|