Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd 芒 rhai yn cyfeirio at lo fel 'aur du' ac yma yn y Rhondda y gwelwyd ail Klondyke wrth i bobl ddylifo yrna o bob rhan o Brydain i chwilio am ffortiwn.
Un o'r rhain oedd Archibald Hood a gyrhaeddodd y Cwm yn 1860 o'r Alban lle'r oedd e'n berchen ar byllau glo. Suddodd e bwll glo Glamorgan yn Llwynypia a elwid yn 'Scotch Colliery' ar lafar gwlad gan taw Albanwr oedd y perchennog.
Roedd y pwll yn llwyddiannus iawn a phrofwyd Archibald Hood yn feistr da. Er enghraifft, cododd dai yn arbennig ar gyfer ei weithwyr, y Scotch Terraces adnabyddus - rhesi o dai taclus, cysurus gyda gerddi mawr oedd yn anarferol ar y pryd.
Wrth gloddio am lo daeth ei weithwyr o hyd i glai ac er mwyn ei ddefnyddio agorodd Hood waith gwneud briciau. Mae'r brics i'w gweld o hyd mewn adeiladau ac yn hawdd eu hadnabod heb weld yr enw 'Glamorgan' ar yr ochr am eu bod yn fwy na'r cyffredin.
Defnyddiodd Hood y brics wrth godi adeiladau ei bwll glo!
Cododd Archibald Hood d欧 mawr i'w fab William mewn rhan o Lwynypia a elwid yn Lyncornel. William oedd yn rheoli pwll Glamorgan ac am fod rhaid sicrhau cyflenwad o ddwr ar gyfer y gwaith, creodd lyn yn yr ardd.
Mae'n bosib gweld o hyd pa mor bert oedd y llyn flynyddoedd yn 么l gyda waliau isel yn nodi lle mae nentydd yn llifo i'r llyn. Mae rhai hen bobl yn dal i gofio'r pontydd bach pert oedd ar draws y nentydd ar un adeg. Ond roedd y llyn yn fwy nag addurn, roedd iddo bwrpas pendant.
Doedd Archibald Hood ei hun ddim yn byw yn Llwynypia. Cododd dy crand iawn yng Nghaerdydd a'i alw'n 'Sherwood' i gofio'i gartref yn yr Alban. Mae'r enw yn dal i fod ar un rhan o bentref Llwynypia.
Ar 么l amser Hood daeth pwll glo Glamorgan yn rhan o'r Cambrian Combine enwog a chodwyd t欧 mawr ar gyfer y rheolwr. Enwyd y t欧 ysblennydd hwn yn 'Glyncornel' ac aeth hen gartref William Hood yn 'Hen Glyncornel'. Mae T欧 Glyncornel, sy'n dyddio o droad y 19 ganrif, yn sefyll ar wahan ar ochr y bryn yn edrych i lawr ar dai'r cwm.
Roedd y T欧 hwn yn fawreddog, gyda lawnt croquet, creigardd a pherllan ynghyd 芒 gardd lysiau wedi eu hamgylchu gan wal fawr.
Mae'r waliau hyn yn enghreifftiau gwych o waliau sych, yn uchel ac yn hollol lyfn ac wedi eu gwneud o gerrig gwastad, tenau. Roedd angen crefftwyr da iawn i greu waliau hardd o'r fath. Ar waelod y dreif roedd fioledau neu grinllys yn tyfu.
Erbyn hyn, gwaetha'r modd, mae'r waliau wedi dechrau ewympo, y lawnt croquet wedi dirywio a does dim llysiau'n tyfu yn yr ardd. Ond mae ysgolion yn dal i ymweld 芒 Glyncornel i fwynhau bywyd gwyllt y llyn a'r nentydd ac i wylio adar fel boncathod a chrychod ac mac pobl leol yn dal i grwydro'r coetir sy'n newid gyda rhod y tymhorau.
Mae pawb yn gallu mwynhau'r warchodfa natur arbennig hon sydd wedi ei lleoli mewn hen goedwig deri. Ac mae'n bosib dod o hyd i ambell floled ger y dreif yn y gwanwyn ymhlith y mieri a dant y llew yn rhyw adlais gwan o'r gogoniant a fu.