Yn 么l yr arolwg mae pobol ifanc a chyfoethog Cymru yn cefnu ar Gaerdydd fel lle i fyw ac yn dewis byw yn y Cymoedd. Mae'r ymchwil yn dangos fod gan etholaethau Pontypridd, Y Rhondda a Blaenau Gwent, chwe gwaith yn fwy o bobol o dan 30 sy'n ennill arian mawr na'r Fro.
Mae gan y Fro 1 o bob 100 person o dan 30 sy'n ennill mwy na 拢60,000 y flwyddyn a Chaerdydd 3 o bob 100 o bobol felly. Ond er mawr syndod mae gan Bontypridd gyfradd o 6 o bob 100 o'r bobol ifanc gyfoethog hyn.
Yn ystod y 18 mis diwethaf mae'r gwerthwyr tai wedi sylwi ar gynnydd mawr yn y nifer o bobol sy'n byw yng Nghaerdydd ac yn chwilio am dai yn ardal Llantrisant a Phontyclun. Ond yn awr, yn 么l rhai o'r gwerthwyr tai, mae rhai o'r bobol hyn yn chwilio am dai ymhellach i mewn i'r Cymoedd.
Mae hyn yn newydd da i'n hardal ni wrth gwrs ond rhaid cofio bod y bobol hyn yn chwilio am gynefin ac awyrgylch gwahanol i'r hyn sydd gennym yn awr.
Beth sydd gan brif stryd Treorci i'w gynnig? O ran yr amgylchfyd 'caled' mae tair siop wag ar gornel heol fawr y dref gyda dwy ohonyn nhw wedi bod yn wag ers blynyddoedd a'r drydedd wedi bod yn wag ers y Nadolig.
Does dim bwyty i'w weld yn y dref sydd o'r un safon 芒'r Bwyty Arbennig ger Cefn Coed y Cymer, Merthyr Tudful. Yn 么l perchennog y lle bwyta hwnnw roedd yr ardal yn 'edrych fel tomen' pan sefydlodd ei fusnes naw mlynedd yn 么l ond yn awr, meddai, mae'r lle i gyd fel pe bai'n gwella.
A ddaw'r math hwn o welliant i ran Treorci? Rhaid gobeithio y daw ac y bydd y dref yn gwella fel ei bod yn gallu bod yn 'brifddinas' deilwng i'r Cwm.
|