Mae'n dipyn o gamp i unrhyw un lwyddo i redeg marathon o dros 26 milltir, ond mae mam ifanc, 45 oed, sy'n hanu o Dreorci wedi llwyddo i wneud hynny.
Mae Linda Tyler, gynt Savage, yn dod yn wreiddiol o Stryd Regent, Treorci ond erbyn hyn yn byw yn Crondall, Swydd Surrey. Mae Linda yn fam i dri o feibion, Richard, David a Jonathan a phenderfynodd gystadlu yn Marathon Llundain eleni er mwyn codi arian at Ymchwil i Athritis. Llwyddodd Linda i gwblhau'r ras a chodi swm teilwng o arian yn y fargen at glefyd y dioddefodd ei diweddar famgu ohono am flynyddoedd. Llongyfarchiadau mawr iddi. Mae ei mam, Eirwen Savage, Stryd Regent, yn hynod o falch ohoni fel y mae pawb sy'n ei hadnabod yn yr ardal.
|