Adeiladwyd pwt o ffordd osgoi i'r pentre yn 1932 - 'yr hewl newydd'. Ers agor y ffordd ddeuol newydd yr A48, yn 1987, osgoi'r pentre wnaiff llif y drafnidiaeth, ond er hynny, amhosibl mynd heibio hen sylwi ar dŵr pigfain eglwys Sant Twrog, sy'n drawiadol o bob cyfeiriad. Erbyn nos, o dan lif oleuadau mae'r eglwys, gyda'i mur crwn o gwmpas y fynwent yn dal i fod yn ganolbwynt i'r pentre.Er i rai pobl gredu mai i Sant Twrog y cysegrwyd yr Eglwys, gall hynny fod yn gamarweiniol, ac mae'n fwy tebygol mai Darog oedd y sant roddodd ei enw i'r pentre. Dywedir mai is-gapten i Hywel Dda oedd Darog. Credir i'r adeilad presennol gael ei adeiladu yn 1850 ac wedi i'r hen adeilad pren losgi i'r llawr. Mae'r clochdy uchel pigfain lle trig hen geiliog y gwynt wedi dwyn sylw'r bardd:
Llanddarog, enwog iawn ydwyd - yn uchder
Dy glochdy'th neillduwyd,
Caer hirsyth yn creu arswyd
O Sir Gâr i'r sêr a gwyd.
Mae'n eglwys ddwbwl, hynny yw, tair rhes o seddau gyda dwy ale. I'r dwyrain ochr yn ochr â'r gangell mae capel Puxley. Teulu Puxley oedd yr uchelwyr lleol o dras Gwyddelig a hwy yn unig fyddai'n eistedd yn y rhan hon o'r eglwys. Mae i'r eglwys nifer fawr o ffenestri lliw prydferth a diddorol iawn. Mae gan yr eglwys drysor o hen gwpan cymun arian, gwaith gôf o Gaerfyrddin ac arno'n gerfiedig "Poculum Ecclesie de Llanddarog 1574". Anrheg oedd y cwpan oddi wrth Elizabeth y cyntaf, fel teyrnged o ddiolchgarwch i'r plwyfi hynny a roddodd gymorth milwrol i'w thad-cu, Harri'r Seithfed, i ennill Brwydr Bosworth 1485 o dan arweiniad Syr Rhys ap Tomos.
Mae siâp crwn y fynwent yn arwydd o'i henaint. Mae hen ffald i'w gweld ar waelod y fynwent, lle cynt y cedwid gwartheg strae yr ardal. Yn ddiweddar, gosodwyd yn y mur flwch postio Cwmisfael o gyfnod oes Fictoria, i'w ddiogelu.
Y ficer presennol yw'r Parchedig Hywel Davies a gwelir cynulleidfa dda bob Sul yn mynychu'r gwasanaethau Cymraeg a Saesneg.
Capel Newydd yw enw'r capel sydd yn y pentre, ond mae'r enw, erbyn hyn, yn gam arweiniol. Yn y flwyddyn 1995, dathlwyd dau ganmlwyddiant yr achos. Addaswyd yr adeilad nifer o weithiau yn ystod y cyfnod mewn ymateb i'r nifer cynyddol o aelodau a fynychai'r capel, sy'n perthyn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol i'r capel fel y mae heddiw ym mis Hydref 1904, cyfnod y diwygiad, o dan lywyddiaeth y gweinidog y Parchedig James James. Ar hyn o bryd, mae'r eglwys yng Nghapel Newydd, ynghyd â phump o eglwysi eraill yr Ofalaeth, o dan ofal gweinidog sef y Parchedig Trefor Lewis.
Wrth ymlwybro drwy'r pentre', yn ogystal i'r addoldai, fe welir ysgol, neuadd, Marchnad Fitw a Swyddfa Bost, dwu hen dafarn poblogaidd, siop drin gwallt, tai annedd sy'n dyddio'n ôl dros bedair canrif a thai newydd. Ceir stâd o fyngalos, Brynhyfryd; stad o dai a adeiladwyd gan y Cyngor yn Is-y-Llan, a stad o fyngalos Cae Person ar gyfer yr henoed.
Yn ystod yr ail ryfel byd roedd yma wersyll i garcharorion rhyfel, Yn ddiweddarach yn y pum degau addaswyd y 'camp' i fod yn dai un-llawr gyda chyfleusterau modern i deuluoedd ifanc yr ardal a'u galw yn Llethr Estate. Yn ddiweddarach codwyd Is-y-Llaw ar yr un llecyn o dir.
Ardal amaethyddol yw hi, ardal y tir coch, sy'n rhedeg yn rhuban o'r Mynydd Du i Lansteffan gyda ffarmwriaeth yn dal yn gryf. Gydag anghenion ffermio yn newid, diflannu wnaeth y gwreichion o efail y gôf yn Llanddarog ac yng Nghwmisfael. Yn y ddeunawfed ganrif 'roedd llawer o dir y plwy' yn eiddo i deulu Puxley (yn hannu o Iwerddon) oedd yn byw ym Mhlasdy Llethr Llestri, ac i'r cyfeiriad arall, teulu'r Middletons (ac yn ddiweddarach Sir William Paxton) Plas Middleton Hall.
Mae'r afonydd Rhydian ddu, y Gwendraeth Fach, a'r Isfael yn rhyw fath o driongl ar ymyl y pentre. Y Rhydian ddu yw'r ffin rhwng plwy Llanddarog a phlwy Llanarthne, a'r Isfael yn gosod ffin i gyfeiriad plwy Llangyndeyrn. Cyn i'r pibau dŵr gael eu gosod yn Llanddarog yn 1934 'roedd yma dair ffynnon groyw; ffynnon Cae Person, ffynnon Penllwynio a ffynnon y Lodge. Erys y tarddiad ond difwynwyd y cyflwr.
Mae'r gymuned yn Llanddarog yn fwrlwm o weithgaredd. Neuadd y Pentre yw canolfan a chartre'r rhan fwyaf o'r Cymdeithasau a'r digwyddiadau. Dathlwyd ei phen blwydd yn hanner cant y llynedd. 'Does dim pall ar yr egni a'r brwdfrydedd sy'n creu ac yn cynhyrchu ac yn hybu diwylliant o fewn yr ardal. Yn ychwanegol mae' na weithgaredd o fewn Capel Newydd ac o fewn eglwys y plwyf. Yn wythnosol trwy dymor y gaeaf, cynhelir cyfarfodydd diwylliannol yn festri'r capel, ar un modd yn yr eglwys ceir Undeb y Mamau.
Mae'r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio yn naturiol fel cyfrwng cyfathrebu o fewn y cymunedau leol. Yr iaith Gymraeg yw asgwrn cefn y bywyd pentrefol. Ganrif a mwy yn ôl, er mai Saesneg oedd yr iaith swyddogol a orfodwyd ar bobl o'r tu allan eto trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg y bu i'r trigolion hyn ymwneud â'i gilydd a diffinio eu hunaniaeth.
Efallai mai ysgol y pentref yw'r cyfrwng pwysicaf i ddatblygu'r ymwybyddiaeth hon o berthyn i'r gymuned. Gellir dweud mai'r ysgol yw calon y pentre'. Ceir hanes am nifer o ysgolion cylchynol yn yr ardal yng nghyfnod Gruffydd Jones Llanddowror 1730. Er bod ysgol wedi bodoli yn yr Eglwys ers 1796, caed adeilad newydd a phwrpasol yn 1852. Agorwyd gan y Parch Eben Morris a'i galw yn 'Llanddarog National School'. Bu tipyn o newid ers hynny!
Gadawodd 85 o ddisgyblion yr ysgol ar Fehefin 12ed 1948, gan ddychwelyd yno ar Fedi 6ed o'r un flwyddyn. Yn y cyfamser bu'r plant yn derbyn eu haddysg mewn 'ysgol' yn y 'Camp', tra'r oedd yr adeiladwyr yn yr ysgol. Hwyl fawr oedd cerdded gyda'i gilydd fore a phrynhawn.
Ysgol Gynradd Wirfoddol Reoledig (o dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru) yw'r enw erbyn hyn. Yma gwelir dros saith deg o blant yn derbyn eu haddysg yn hapus, o dan ofal y prifathro, Brian Evans a'i gyd athrawon.
Pan ddathlwyd can mlwydd a hanner yr ysgol yn ddiweddar, crewyd murlun mosaic gan yplant, dan gyfarwyddyd yr arlunydd Gwenllian Beynon, a'i osod ar wal yr ysgol i nodi'r achlysur.Mae Cyngor Cymuned Llanddarog a'r cylch yn cymryd cyfrifoldeb ac yn flaenllaw o ran gofalu am yr amgylchedd ac am gynnal a chadw naws naturiol yr ardal.
'Roedd ffair Llanddarog yn ddyddiad pwysig ar almanac y fro. Y dydd Llun cynta' wedi'r ugeinfed o fis Mai oedd y dyddiad. Cyn hynny byddai pob plas a bwthyn wedi cael eu gwyn galchu a'u tacluso. Ffair i brynu a gwerthu anifeiliaid oedd y ffair wreiddiol, gyda phrysurdeb yn teithio o bell ac yn lletya yn y tri thafarn yn y pentre' (gan fod yr Old White Lion yn gyrchfan poblogaidd bryd hynny). Byddai'r hewlydd o gwmpas y pentre'n llawn anifeiliaid.
Yn ddiweddarach newidiodd y ffair i fod yn ffair bleser gyda lleoliad 'Cae Ffair' yn newid. Daliodd teulu'r ffair i ddod tan ganol y pumdegau, a rhyw deimlad cyffrous yn dod yn eu sgil dim byd mwy na siglenni a cheffylau bach, ceir bach, bwrw cnau coco a rolio ceiniogau.
Cystadleuaeth magu lloi, wedi ei threfnu gan aelodau'r C.Ff I., oedd dechreuad y sioe yn 1954. Datblygodd i fod yn sioe un dydd tan 1965.Gymaint oedd datblygiad y sioe, nes ei gwneud hi'n amhosibl i aelodau'r C.Ff.I i ddygymod â'r holl drefniadau. Felly yn 1966 ffurfiwyd pwyllgor Sioe Amaethyddol Llanddarog a'r Cylch, gan gynnwys aelodau o'r C.Ff I. ac eraill o'r gymuned.
Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn 'Cae Ffair' h.y. y gystadleuaeth lloi bach. Tyfu ac ehangu wnaeth y sioe.Ddwy flynedd yn ddiweddarach, symudwyd y safle i Gae Person; cae oedd yn perthyn i'r eglwys. Bu'n rhaid symud unwaith yn rhagor i'r lleoliad presennol, sef Cae Pantypwll. Yma y gwelir tyrfa'n ymgynnull ar y Sadwrn ola' bob mis Awst bob blwyddyn.
Diolch am wybodaeth a chyfraniadau gan bobl y pentre.
Gan: Marian Williams