Breuddwyd i lawer, mae'n siwr, ond mae hyn oll yn rhan o waith Suzanne Maglente a ddaw yn wreiddiol o Fancycapel, Caerfyrddin. Wedi tair mlynedd yn astudio mewn coleg therapi harddwch yng Nghaerdydd, bu Suzanne yn gweithio fel therapydd harddwch am ddwy flynedd a hanner ar longau gwyliau cyn ymuno 芒 chwmni teithio Virgin yn gwneud yr un gwaith ar fwrdd eu hawyrennau. Pobol fusnes yw'r rhan fwyaf o'i chwsmeriaid ond ambell waith mae na gwsmer tra enwog yn dod i'w gweld, yn enwedig wrth hedfan i Los Angeles neu Efrog Newydd. "Ges i Ruby Wax unwaith" meddai. "A grwpiau fel The Corrs, Atomic Kitten a'r Sterephonics. Ond y sioc fwyaf dwi wedi cael odd pan ddaeth Mr. Evans, fy nghyn-brifathro ym Mro Myrddin ar yr awyren!" Erbyn hyn, mae Suzanne yn rhwbio ysgwyddau gyda Richard Branson, perchennog cwmni Virgin yn aml, ac yn ei alw'n ffrind. "Mae e'n fachan tawel a neis iawn", meddai amdano. "Sai'n nerfus yn rhoi massage i'w gefn e rhagor!" Mae Suzanne bellach yn byw yn Sussex gyda'i gwr, ond mae hi wastad yn hapus i ddychwelyd i Gaerfyrddin. Mae hi'n manteisio'n aml ar y cyfleoedd i hedfan gydag Awyr Cymru i Gaerdydd, lle mae ei brawd a'i chwaer yn byw, a dyw hi ddim yn colli un Nadolig gyda'i rhieni yng Nghaerfyrddin, byth. Heblaw am eleni. Mi fydda' i yn y Phillippines eleni achos bod fy nheulu-yng-nghyfraith yn byw yno" meddai, lle bydd hi'n mwynhau cig mochyn wedi ei goginio yn yr awyr agored yn y tywydd twym. Ond does unman yn debyg i gartref iddi, a Chaerfyrddin yw hwnnw. Heledd ap Gwynfor Prosiect Papurau Bro
|