Beth yw eich cefndir a ble cawsoch eich magu?
Credwch neu beidio, fe ges i fy ngeni yn Zimbabwe gan fod fy nhad yn ddarlithydd mewn peirianneg yn y coleg yno. Un o bentref bach Nant-y-caws oedd Jack Rees fy nhad a Dilys fy mam yn un o deulu Cloygyn Fawr, Pontantwn.
Fe ddetho ni nôl i fyw i Huddersfield pan oeddwn i'n dair oed, a bu fy nhad yn ddarlithydd wedyn mewn sawl coleg yng nghanolbarth Lloegr a ninnau fel teulu'n gorfod symud yn aml.
Es i i'r ysgol yn Rotherham, ac roeddwn i yn yr un dosbarth â chwaer William Hague. Ond, nôl i Glan Morlais, Llandyfaelog y daethon ni, ac rwy'n dal i fyw yma o hyd ac mae mam yn byw drws nesaf i mi.
Es i i'r Brifysgol yn Abertawe a graddio yno mewn peirianneg, yr un pwnc â fy niweddar dad.
Rhowch tipyn o hanes eich teulu.
Rwy'n briod gyda Ralph sy'n dod o Abertawe ac sy'n rhedeg ei fusnes ei hun sef 'Swansea Floor Service', ac mae Rhys y mab yn un ar hugain oed ac yn y fusnes gyda'i dad, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn gwaith coed.
Beth yw pwysigrwydd mudiad fel Sefydliad y Merched i chi?
Bues i'n gweithio i Sefydliad y Merched yn Sir Gaerfyrddin am 24 mlynedd ac mae'n fudiad pwysig iawn gan ei fod yn cynnig cymaint i ferched yn gyffredinol. Mae'n eu cymell i wneud ac i greu pethau, ac i addysgu eu hunain a chreu cyfeillgarwch. Trwy'r mudiad y dysgodd cymaint o ferched sgiliau newydd a chymryd cyfrifoldebau a bod yn arweinyddion yn eu hardaloedd.
Pa swyddi gwirfoddol ry'ch chi'n eu dal?
Rwyf ar Fwrdd Gweithredol Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru ac ar y panel sy'n dosbarthu grantiau o bob math i wahanol fudiadau a chymunedau. Bues i'n ysgrifenyddes Sioe Amaethyddol Llandyfaelog am 24 mlynedd hefyd, a phan gai i amser fe hoffwn i ysgrifennu llyfr ar hanes yr hen sioe sydd dros 100 mlynedd oed.
Rwyf wedi cael y fraint o feirniadu gwaith crefft 'Gosod ac Arddangos' ar raddfa genedlaethol ym mhell ag agos, ac rwy'n gadeirydd CAVS sef Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin ac edrychaf ymlaen yn fawr at ddatblygu adeilad newydd 'Y Mwnt' wrth Neuadd y Sir.
Ry'ch chi'n cynrychioli eich ardal ar Gyngor Sir Caerfyrddin. Beth yw eich barn am y Cyngor?
Cefais brofiad maith o fod yn Gadeirydd Cymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru gan frwydro'n hir i sefydlu un mudiad i Gymru. Bellach mae Un Llais Cymru wedi ei sefydlu. Rwy'n credu mai prif waith cynghorydd yw helpu ei gymuned, boed yn unigolion neu fudiadau, a cheisio datrys problemau a chael atebion i anghenion yr ardal.
A beth am y dyfodol?
Hoffwn gadw fy nhraed ar y ddaear a pheidio anghofio fy ngwreiddiau. Ar y llaw arall, hoffwn gael mwy o amser i gadw'n heini ac annog merched i fod yn flaenllaw ym mhob agwedd o fywyd. Os llwyddes i fod y ferch gyntaf i Gadeirio Y Sefydliad Rheoli, rwy'n credu fod cyfle gan ferched eraill i gymryd rhan flaenllaw a byddaf yn brwydro i hyrwyddo hynny bob amser.
Pwy ych chi'n enwebu ar gyfer mis Chwefror?
Ieuan Williams, Llangynnwr, Prif Weithredwr CAVS.