Roedd yr ymateb yn syfrdanol gan lenwi'r lle dan ei sang bob nos. Ysgrifennwyd Oklahoma gan Rogers & Hammerstein n么l yn 1942, ond roedd y perfformiad gan CAOS yn profi ei fod dal mor boblogaidd heddiw gan blesio'r gynulleidfa'n fawr. Seiliwyd y sioe ar stori serch rhwng dau gymeriad, Laurie a Curly gan gynnwys y caneuon enwog "O What a Beautiful Morning" ac wrth gwrs "Oklahoma!" ei hunan. Mike Price a Sally Woolridge oedd y ddau brif gymeriad a chafwyd perfformiad cryf iawn gyda'r ddau. Yn ogystal, roedd Kayley Richards a David Tomlin wedi chwarae Ado Annie a Will Parker, eto roedd y ddau wedi perfformio'n arbennig gan ychwanegu Ilawer o gomedi i'r sioe. Roedd Mathew Morgan yn chwarae rhan Ali Hakim, Ann Thomas yn chwarae Aunt Ela a Richard Rasmussen yn chwarae y dyn cas Jud Fry, roedd y tri wedi chwarae ei r么l i'r dim. Rhaid talu teyrnged hefyd i'r gr诺p cyfan oedd yn naill Ilai'n dawnsio, canu neu'n actio ac i bawb arall wnaeth helpu i'w threfnu a chefnogi. Mae dros pedwar deg o aelodau yn rhan o'r gymdeithas, rhwng un deg pedwar a chwech deg chwech mlwydd oed. Rydym wastad yn edrych am dalentau newydd felly os oes gennych ddiddordeb i ymuno cofiwch gysylltu gyda'n Cadeirydd Mrs Val Hinkin ar 01267 221192. Cofiwch hefyd os oeddech yn ddigon anffodus i golli'r sioe y tro hwn, mae'r gymdeithas yn cynnal sioe amser Nadolig sef "Robin Hood" ac yna "Me & My Girl" ym mis Mai 2006. Gwnewch nodyn yn eich dyddiadur, allwn sicrhau y byddech yn cael amser wrth eich bodd!
|