Dechreuodd y gwasanaeth radio i gleifion ysbyty Glangwili fel arbrawf gan Senedd Sir Urdd Gobaith Cymru ar ddiwedd y chwe degau. Wedi i Sulwyn Thomas a Gerwyn Griffiths fod yn arbrofi gyda rhaglenni ar d芒p datblygodd y cyfan yn sydyn fel gwasanaeth parhaol o stiwdio fach yn yr ysbyty.
Rhaglenni cais - dwy awr ar foreau Sadwrn - oedd yno ar y dechrau ond o dipyn i beth dyma ddarlledu rhaglenni o'r wardiau ar nos Sul, ac yna bob nos o'r wythnos. Mae'r pwyslais yn bendant ar ddiddori'r cleifion a chwarae eu hoff gerddoriaeth.
Wrth i oes y record, caset a'r crynoddisg ddod i ben, mae Radio Glangwili am ddathlu'r penblwydd drwy gynnal 35 awr ddi-dor o raglenni, gydag un troellwr, Steffan Davies am ddarlledu drwy nos Wener y 14eg o Ragfyr. Erbyn hynny bydd ein trydedd stiwdio wedi ei throi yn stiwdio ddigidol heb yr un record na chaset ar gyfyl y lle.
"Mae llawer wedi newid ym myd radio a darlledu er 1972 ond y bobol bwysicaf yw'r cleifion ac y mae'r casglwyr cyfarchion a cheisiadau llawn mor bwysig 芒'r gwirfoddolwyr sy'n cyflwyno'r rhaglenni," meddai Sulwyn Thomas, Llywydd/Cadeirydd Radio Glangwili
"Rydym wedi bod mor ffodus bod Cronfa Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu 拢5,000 at gostau trawsnewid y stiwdio ac y mae Cyngor Tre Caerfyrddin, Tesco, Wilkinsons a'r Ford Gron wedi bod yn hael tuag atom yn ddiweddar fel y gallwn wireddu'r freuddwyd i symud i'r unfed ganrif ar hugain.
"Eisoes rydym yn darlledu ar 87.7FM yn lleol fel y gall pob claf sydd 芒 radio personol glywed ein rhaglenni - symudiad gafodd gefnogaeth arbennig pobol y dre. Mae ein cylchgrawn Radio Glangwili Times yn gwbwl ddibynnol ar hysbysebion gan bobol busnes caredig y dre ac rydym yn ddiolchgar am bob cefnogaeth ar hyd y daith hir."
|