Croeso mawr i berchnogion newydd Siop y Pentan, Andrew Davies a Llio Silyn.
Ar ôl 37 mlynedd ers sefydlu Siop y Pentan yn Heol Dwr, Caerfyrddin ym 1972, mae'r cwmni bellach yn camu ymlaen yn hyderus gyda siop newydd, lleoliad newydd a teulu newydd wrth y llyw.
"Mae eitha tipyn o bobl yn galw heibio i weld y lle newydd. Mae'r lleoliad newydd yn dda iawn," meddai Andrew.
"Mae'r goleuo yn dda hefyd - digon o olau naturiol", meddai Llio. "Mae'n bwysig hefyd fod pob stondin ar agor trwy'r dydd bob dydd. Mae hyn o help mawr. Erbyn hyn, mae pobol yn disgwyl bod y farchnad ar agor bob dydd - yn enwedig y twristiaid."
Meddai Andrew, "Bydda i'n parhau i 'neud ambell beth gyda'r camera teledu. Ond mae digon o waith gen i fan hyn yn y siop. Gan fod pedwar o blant 'da ni, ni'n edrych ar Siop y Pentan fel busnes teuluol, ac mae'r plant yn barod iawn i helpu mas - er mwyn cael arian poced!"
"Rydym yn gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth wrth y cwsmeriaid ers i ni gymryd yr awenau. Mae Llio a fi yn ddiolchgar iawn i Wyn hefyd am ei barodrwydd a'i gymorth yn ystod cyfnod trosglwyddo'r busnes."
Dymuniadau gorau i Andrew, Llio a'r teulu wrth iddynt wneud yn siwr bod Siop y Pentan yn parhau i gynnig nwyddau a gwasanaethau Cymraeg i bobl y cylch.
Pob lwc i chi, wrth holl ddarllenwyr CWLWM.
|